Canolfan i Wella Dysgu ac Addysgu (CELT)

Datblygiad Proffesiynol mewn Dysgu ac Addysgu

Mae'r Tîm Ymarfer Proffesiynol Academaidd yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad ymarfer dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

A group of researchers sat around a table having a discussion.

Rydym yn darparu ystod o raglenni achrededig ac anachrededig Advance HE; cynadleddau; rhwydweithiau cymorth; a chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus sy'n canolbwyntio ar wella addysgu a dysgu. Mae’r llwybrau’n darparu cyfleoedd datblygu sy’n cyd-fynd â rôl, cyfrifoldebau, a disgwyliadau a blaenoriaethau sefydliadol yr unigolyn. Mae'r fframwaith datblygu yn ymateb i anghenion staff academaidd ar bob cam gyrfa. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ennill gwobrau a chydnabyddiaeth am eich addysgu.