Chwaraeon yn PDC
Mae chwaraeon yn rhan allweddol o brifysgol. P'un a ydych am astudio cwrs chwaraeon, ymuno â thîm prifysgol neu ymweld â'r gampfa.
Astudio Chwaraeon Chwarae Chwaraeon Ysgoloriaethau Chwaraeon a HamddenRydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau i gefnogi athletwyr perfformiad elitaidd a myfyrwyr sydd eisiau cadw'n heini ac iach. Nod Chwaraeon yn PDC yw darparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel i bawb.
Chwaraeon yn PDC
-
Gall myfyrwyr, staff, a'r cyhoedd yn gyffredinol fwynhau amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ar y campws yn Nhrefforest. Rydym yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon dan do a gwasanaethau a ddarperir gan ein staff arbenigol cyfeillgar. Cyn ymweld, rydym yn argymell adolygu ein gweithgareddau rhestredig a'u hargaeledd sy'n cynnwys dosbarthiadau iechyd a ffitrwydd, cyrsiau hyfforddi, a sesiynau hyfforddi personol. Gweler ein horiau agor.
-
Rydym yn cydnabod ac yn gwobrwyo cyflawniad chwaraeon. Rydym yn darparu cefnogaeth i unigolion i'w helpu i ragori yn eu gyrfaoedd chwaraeon ac academaidd.
-
Chwaraewch chwaraeon, ymunwch â'n tîm a chystadlu dros y Brifysgol. Mae gennym tua 60 o dimau yn chwarae yng nghynghreiriau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
-
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael ysgoloriaeth neu fwrsariaeth i’ch helpu i ariannu eich astudiaethau a’ch dysgu.
Chwaraeon Perfformiad PDC
Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden
Cwestiynau Cyffredin
Mae’r Fwrsariaeth Chwaraeon yn grant ‘untro’ o hyd at £500* i gefnogi myfyrwyr gyda’u chwaraeon ochr yn ochr â’u hastudiaethau ac fe’i hategir ymhellach gan gerdyn rhodd chwaraeon y Brifysgol (£100 cerdyn FitZone), rhaglen gyflyru a threuliau cysylltiedig sy’n ymwneud â chystadlaethau BUCS hyd at £120.
Bydd llawer o fyfyrwyr sy'n derbyn bwrsariaeth yn defnyddio'r wybodaeth ariannol i gefnogi costau sy'n gysylltiedig â mynd i bencampwriaeth ryngwladol neu i dalu costau teithio, hyfforddi neu fynediad. Sylwch, er mwyn cael eich ystyried ar gyfer Bwrsariaeth Chwaraeon, mae angen i'ch camp ddewisol gael ei dosbarthu'n gamp a ‘gydnabyddir’ gan y Cyngor Chwaraeon gyda chorff llywodraethu cenedlaethol cysylltiedig.
Er bod llawer o dderbynwyr gwobrau yn cynrychioli'r Brifysgol mewn cystadlaethau BUCS, er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle i wneud cais am gymorth ariannol nid yw'n amod cynrychioli'r Brifysgol. Bydd nifer o chwaraeon cydnabyddedig nad yw’r Brifysgol yn cystadlu ynddynt ar hyn o bryd fel rhan o gystadlaethau BUCS.
*Sylwer: Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth hon os ydych eisoes yn derbyn Ysgoloriaeth Chwaraeon.
Mae Gwobr Chwaraeon yr Is-Ganghellor yn ddyfarniad ariannol o hyd at £500 ac mae ar gael i fyfyrwyr nad yw eu chwaraeon yn rhan o raglen BUCS ar hyn o bryd, ond sydd o safon eithriadol mewn Chwaraeon Olympaidd. Bwriad y gwobrau ‘untro’ hyn yw cefnogi myfyrwyr o safon chwaraeon eithriadol sy’n cystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol mawr. Mae dyfarniadau cyfyngedig ar gael bob blwyddyn hyd at uchafswm o £500.
Mae'r broses o wneud cais am becyn cymorth ariannol yn dibynnu ar y dyfarniad yr ydych am ei gael a'ch cymhwyster categori. Cyn i chi wneud cais, rydym yn argymell adolygu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob dyfarniad.
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd a myfyriwr presennol lenwi ein ffurflen gais ar-lein os ydynt yn ceisio cael cymorth, mae hyn yn berthnasol i bob ysgoloriaeth chwaraeon, bwrsariaeth, dyfarniad, a rhaglen chwaraeon perfformiad. Ar ôl i chi gwblhau eich cais, byddwch yn derbyn hysbysiad awtomatig trwy e-bost.
Bydd cadarnhad terfynol o dderbyn dyfarniad yn cael ei gadarnhau unwaith y cynhelir asesiadau a chyn i chi ddechrau eich cwrs. Sylwch: Dim ond ar ôl i chi gofrestru'n llwyddiannus ar eich cwrs y gellir gweithredu unrhyw ddyfarniad.
- Derbyn Ceisiadau: Blwyddyn Academaidd 2023-24
- Dyddiad cau Chwaraeon Perfformiad ac Ysgoloriaethau: Dydd Gwener 13 Hydref 2023*
*Sylwer: Dim ond i'n hysgoloriaethau chwaraeon a'n rhaglen chwaraeon perfformiad y mae'r dyddiad cau uchod yn berthnasol. Gellir gwneud cais am ein Bwrsariaeth Chwaraeon a Gwobr yr Is-Ganghellor unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.
Gallwch wneud cais am ein bwrsariaethau chwaraeon ‘untro’ a gwobr yr Is-Ganghellor ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Yn wahanol i'n rhaglen perfformiad a'n hysgoloriaethau chwaraeon, mae'r gwobrau untro hyn wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi a'ch anghenion hyfforddi pan fyddwch ei angen fwyaf, er enghraifft os ydych chi'n cystadlu mewn cystadleuaeth ryngwladol fawr.
Mae ein cefndir chwaraeon, ein henw da rhagorol a'n cyfleusterau trawiadol yn ein gwneud yn ddewis gwych i ddarpar fyfyrwyr chwaraeon. Trwy ein cyfleusterau, addysgu a lleoliadau gwaith rydym yn cynnig addysgu ymarferol. Dysgwch mewn amgylchedd sy'n adlewyrchu'r diwydiant. Mae ein partneriaethau gyda busnesau a chlybiau chwaraeon, yn lleol ac yn genedlaethol, yn golygu cyfleoedd di-ben-draw. Trwy rwydweithio a lleoliadau gwaith byddwch yn fedrus, yn wybodus ac yn gyflogadwy.