Ymchwil

CONCORDAT

Cefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr.

Ymchwil yn PDC Cefnogi ymchwil
Lecturer Dr Thania Acaron leans on a white banister while wearing a blue shirt inside USW's Cardiff Campus

Mae ein llwyddiannau ymchwil yn ganlyniad i waith caled a dawn ein hacademyddion, myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a chydweithwyr ymroddedig.

Rydyn ni’n gwella ein cefnogaeth i staff ymchwil a'r amgylchedd ymchwil yn barhaus. Ym mis Hydref 2021, fe wnaethon ni lofnodi’r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, gan ymrwymo i gefnogi a datblygu gyrfaoedd ymchwilwyr mewn addysg uwch yn well.

Mae gan y Concordat dair egwyddor allweddol

Yr Amgylchedd a’r Diwylliant

Rydyn ni’n meithrin diwylliant ymchwil cefnogol a chynhwysol ar gyfer ymchwil ragorol.

Cyflogaeth

Mae ymchwilwyr yn cael eu gwerthfawrogi a'u rheoli dan amodau teg

Datblygiad Proffesiynol a Gyrfa

Rydyn ni’n blaenoriaethu twf proffesiynol i helpu ymchwilwyr i gyrraedd eu llawn botensial

Mae Prifysgol De Cymru yn ymroddedig i gefnogi datblygiad gyrfa.

Cawson ni’r Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2013 ac rydyn ni wedi llwyddo i’w chadw drwy adolygiadau dilynol.

Mae’r wobr hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i:

  • Gefnogi datblygiad gyrfa ein hymchwilwyr
  • Cynnal egwyddorion Concordat y DU i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr
  • Gweithredu Strategaeth Ymchwil ac Arloesi PDC 2030 sy’n blaenoriaethu creu diwylliant perfformiad uchel i ddenu, cadw a datblygu staff dawnus sy'n weithgar ym maes ymchwil
    a myfyrwyr sy'n ymwneud â sectorau amrywiol a heriau cymdeithasol.

TEULU PDC

“Mae fy nhaith yn PDC, o fyfyriwr israddedig i fyfyriwr ymchwil, wedi llywio fy llwybr gyrfa yn fawr. Mae mynediad at gefnogaeth a mentora rhagorol wedi bod yn ganolog i’m llwyddiant presennol fel cymrawd ymchwil, gan wella fy ngallu, fy ngwybodaeth a’m hyder.”