Darganfyddwch Eich Yfory

SWYDDI YN PDC

Ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), rydyn ni'n newid bywydau a'n byd er gwell. Rydyn ni o ddifrif ond nid yn ddihiwmor ac rydym yn croesawu pobl a fydd yn ffynnu yn ein diwylliant cydweithredol ac a fydd yn ymdrechu i wneud cysylltiadau.

Swyddi gwag cyfredol Angen gwybod
three members of the equality, diversion and inclusion team sitting at a table having an informal meeting, laughing and smiling

Rolau wedi'u hamlygu

Deon Cyfadran Busnes a’r Diwydiannau Creadigol

Gwneud Cais

Deon Cyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth

Gwneud Cais

Darganfyddwch Eich Yfory

PDC yw’r lle i weithio i bobl sy’n ymgysylltu ac sy’n malio am ein cymdeithas. Rydym yn creu graddedigion sy'n barod ar gyfer yfory: pobl sy'n barod i adeiladu eu gyrfaoedd a chwarae eu rhan wrth ddatrys yr heriau sydd o'u blaenau.

Swyddi gwag cyfredol
student-25

Ni yw'r Brifysgol ar gyfer Yfory.

Rydym yn cynnig dysgu sydd wedi’i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan y bobl sy'n cynnig swyddi i'n graddedigion ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.

Os ydych yn gwerthfawrogi addysg ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna rydym am glywed gennych. Os ydych chi’n credu, trwy gydweithio, y gallwn wella yfory, i’n myfyrwyr, ein cymunedau a’n partneriaid, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.


Gweithio yn PDC

video-why-usw-jobs.
  • Rydym yn cynnig hawl gwyliau blynyddol hael

  • Rydym wedi ymrwymo i gydbwysedd bywyd a gwaith ac mae gennym bolisïau gweithio hyblyg.

Gweithio yn PDC

Mae ein staff wrth galon yr hyn ydyn ni a phopeth a wnawn. Rydym am ddenu pobl eithriadol a thalentog, eu cefnogi i lwyddo, a dathlu eu llwyddiant. Rydym yn buddsoddi mewn syniadau da ac mewn pobl dda.

  • Rydym yn cynnig hawl gwyliau blynyddol hael

  • Rydym wedi ymrwymo i gydbwysedd bywyd a gwaith ac mae gennym bolisïau gweithio hyblyg.

Mae buddion gweithwyr yn cynnwys:

Canolfan Chwaraeon
Mannau arlwyo
Polisïau i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun beicio i'r gwa
Cynllun cefnogi staff
Cynllun cydnabod a gwobrwyo staff
Pensiwn hael
Canolfannau Adnoddau Dysgu
Gostyngiadau staff
Iechyd galwedigaethol
Profion llygaid

Cydbwysedd bywyd a gwaith yn PDC

Rydym yn cynnig hawl gwyliau blynyddol hael gyda'r nod o annog cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Yr hawl i wyliau blynyddol ar gyfer swyddi gradd A i D yw 30 diwrnod ac ar gyfer swyddi gradd E ac uwch yw 35 diwrnod. Byddwch hefyd yn derbyn hyd at 8 gŵyl banc cyhoeddus a gwyliau ychwanegol â thâl os bydd y Brifysgol yn cau ar adegau penodol o’r flwyddyn. Mae hawl i wyliau ar sail pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser/yn ystod y  tymor yn unig.

Mae pob cyflogai yn cael y cyfle i ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol.

Rydym wedi ymrwymo i gydbwysedd bywyd a gwaith ac mae gennym bolisïau gweithio hyblyg. Ystyrir trefniadau rhan-amser, yn ystod y tymor yn unig, rhannu swydd, a threfniadau gweithio hyblyg, yn amodol ar ddiwallu anghenion y sefydliad.

Gweithio Hyblyg

Rachel Elias-Lee sitting in an office facing the camera while being interviewed

Pwy ydyn ni

Yn PDC, rydym yn creu amgylchedd a phrofiad cadarnhaol I'n myfyrwyr a'n cydweithwyr. Rydyn ni o ddifrif heb fod yn stwff ac rydyn ni'n croesawu pobl a fydd yn ffynnu yn ein diwylliant cydweithredol ac yn ymdrechu I wneud cysylltiadau.

Fel prifysgol, rydym yn llythrennol yn trawsnewid bywydau pobl ac rydym yn chwilio am weithwyr sydd eisiau bod yn rhan o hynny.


Ein Gwerthoedd Craidd

Mae PDC yn fan lle gall staff ffynnu.

Mae ein hymrwymiad i gefnogi pobl dalentog o bob cefndir wedi cael ei gydnabod gan Athena SWAN, Stonewall, a Disability Confident.

Yma ym Mhrifysgol De Cymru rydym yn herio ein hunain i feddwl a gweithredu'n wahanol. Fel y cyfryw, rydym yn gwella ac yn datblygu ein cyfleoedd dysgu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad. Mae sicrhau ein hymrwymiad i gyflogi gweithlu amrywiol yn adlewyrchu ein poblogaeth myfyrwyr amrywiol gynyddol gan ein symud o eiriau i weithredoedd yn ein hymrwymiad i greu amgylchedd teg a chynhwysol i bawb. Mae croeso i gydweithwyr fod yn ddilys ac mae pob person yn cael ei drin ag urddas a pharch. Er mwyn galluogi ein poblogaeth myfyrwyr i weld eu hunain o fewn ein gweithlu rydym yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a gwahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol.

Fel cyflogwr ‘Hyderus o ran Anabledd’, rydym yn gwarantu bod pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r holl feini prawf allweddol ar gyfer y swydd wag y maent yn gwneud cais amdani yn cael cynnig cyfweliad.


video-jobs-colleague-recruitment

Lle rydym ni

Gyda champysau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, gallwch brofi’r amrywiaeth sydd gan Dde Cymru i’w gynnig – bwrlwm y dinasoedd, harddwch yr arfordir, a llonyddwch cefn gwlad. Mae gennym ni bum campws ar draws tri lleoliad, ond un prifysgol ydyn ni. Mae pob campws yn agored i chi a beth bynnag sy'n eich

Os oes angen i chi gysylltu â ni:

Adnoddau Dynol, Prifysgol De Cymru, Pontypridd, CF37 1DL

[email protected]