Mis Hanes Pobl Dduon
"Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn digwydd bob mis Hydref ac rydym yn falch o fod yn ei gefnogi. Rydym am i PDC fod yn gymuned gynhwysol - un lle mae pawb yn cael eu croesawu ac yn cael eu gwerthfawrogi."
"Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn gyfle i ddathlu, rhannu, a chydnabod treftadaeth a diwylliant, cyfraniad, a chyflawniadau ein myfyrwyr, cydweithwyr, cyn-fyfyrwyr a chymuned Ddu ehangach PDC.
"Mae hefyd yn gyfle i drafod y ffyrdd y gall pob un ohonom ennill mwy o wybodaeth a dealltwriaeth er mwyn meithrin amgylchedd cynhwysol a gwrth-hiliol yn PDC."
Vida Greaux, Cadeirydd Rhwydwaith Staff BME, William Callaway, Cadeirydd Grŵp Llywio Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a Richie Turner, Cadeirydd yr Is-grŵp Cydraddoldeb Hil, Crefydd a Chred
Ymcwhil yn PDC
-
Mae’r Athro Florence Ayisi, gwneuthurwr ffilmiau dogfen arobryn, yn rhan o gonsortiwm ymchwil gwerth £2.5m sy’n archwilio effaith pandemig Covid-19 ar gymunedau BME, gan greu ffilmiau pwerus i adrodd straeon pobl ledled y DU.
-
Crëwyd y Grŵp Cynghori Ymchwil Lleiafrifoedd Ethnig i wella'r ffordd y mae'r Brifysgol yn ymgysylltu â phobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn ei hymchwil. Caiff ei gyd-arwain gan Dr Edward Oloidi, Dr Juping Yu, Versha Sood Mahindra, a'r Athro Ruth Northway.
-
Mae Dr Sarah Wallace, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi derbyn dros £300,000 o gyllid i ymchwilio i gymorth i fenywod BME a effeithir gan Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
HENTREPRENEURIAID
Dywedodd Richie Turner, Rheolwr Deorfa: “Fel Rheolwr Deorfa Startup Stiwdios Sefydlu PDC, a hefyd un o Hyrwyddwyr y Siarter Cydraddoldeb Hiliol, rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cynnwys pedwar o’n hentrepreneuriaid graddedig Du ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon.
“Maen nhw i gyd yn fodelau rôl gwych ac maen nhw i gyd yn rhedeg cwmnïau newydd hynod arloesol ar draws De Cymru. Gobeithio y cewch eich ysbrydoli gan eu storïau.”
Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cymorth busnes ar gyfer partneriaid a busnesau allanol ac yn darparu mynediad at sgiliau, talent ac arbenigedd y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys cymorth i entrepreneuriaid benywaidd.
Mae menywod yn cael profiadau sylfaenol wahanol i ddynion mewn busnes. Mae ymchwil yn dangos bod menywod sy'n dechrau ac yn tyfu busnes yn wynebu mwy o rwystrau o ran mynediad at gyllid, cyfrifoldebau gofalu anghymesur, a gwahanol lefelau o fynediad at rwydweithiau.
Fel rhan o gyfres bodlediadau Ysbrydoli Menywod Cymru gan Brifysgol De Cymru, mae Gemma Casey o Natwest yn siarad â Valerie Creusailor o Goch & Co. Roedd Valerie wrth ei bodd yn cynnal barbeciws i deulu a ffrindiau. Byddent yn ei chanmol hi a'i gŵr ar y sawsiau a wnânt, a ysbrydolwyd gan eu treftadaeth Affricanaidd. Awgrymodd eu gwesteion y dylen nhw eu gwerthu - ac yno y ganed y syniad o Goch & Co.
Ym Mhennod 2, mae Valerie yn dweud wrth Gemma am fagu’r hyder i fuddsoddi yn y busnes newydd, rheoli llif arian, a gwersi o yrfa gorfforaethol - a hyd yn oed bywyd personol - y gellir eu defnyddio mewn busnes teuluol.