Faith Orugbani

BA (Anrh) Busnes a Rheoli

Straeon Alumni
Faith

Mae'r anogaeth a gefais yn PDC, yn enwedig o ran dangos fy hunaniaeth ddiwylliannol yn fy ngwaith, wedi aros gyda mi ac wedi dylanwadu ar yr hyn rwy'n ei wneud heddiw.


I ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu, buom yn siarad â Faith Orugbani, un o gyn-fyfyrwyr medrus PDC a chyd-sylfaenydd Manuelle Foods, busnes bwyd teuluol o Nigeria sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd, De Cymru. Rhannodd Faith ei thaith yn astudio Busnes ac Economeg i sicrhau gyrfa lwyddiannus ym maes rheoli prosiectau, yn ogystal â'i hymrwymiad dwfn i'w chymuned ac arwyddocâd Mis Hanes Pobl Ddu.

Helo Faith! Dywedwch ychydig amdanoch chi'ch hun wrthym ni. Helo! Astudiais y cwrs Busnes ac Economeg ym Mhrifysgol De Cymru, gan raddio yn 2014. Rwyf wedi byw yng Nghasnewydd ers 2010, ac rwy'n wreiddiol o Nigeria. Rwy'n briod ac mae gennyf ferch bump oed, ac mae fy ngŵr hefyd yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Morgannwg, sydd bellach yn rhan o PDC. Gyda'n gilydd, fe wnaethom sefydlu Manuelle Foods, busnes bwyd teuluol o Nigeria.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau Manuelle Foods? Dechreuodd gyda syniad syml: rhannu ein hangerdd at brydau cartref, blasus, gyda'r gymuned. Mae fy ngŵr a minnau wastad wedi teimlo'n angerddol am fwyd, ac roeddem eisiau creu profiadau cofiadwy i bobl drwy greu prydau bwyd gwych. Mae'n ffordd o gadw mewn cysylltiad â'n gwreiddiau wrth gyfrannu at wead diwylliannol amrywiol Casnewydd. Mae teulu yn hollbwysig i ni, ac mae hynny wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Mae ein busnes bwyd yn ein galluogi i ddod â phobl at ei gilydd, gan greu llawenydd drwy rannu prydau bwyd.

Beth ydych chi fwyaf balch ohono yn eich gyrfa hyd yn hyn? Mae yna ychydig o bethau sy'n dod i’r meddwl. Ro'n i wedi breuddwydio erioed am gael gweithio gyda chwmnïau penodol iawn wrth astudio yn PDC, a chefais wireddu fy mreuddwyd a dod i weithio i ddau ohonynt ar ôl graddio.

O ran Manuelle Foods, y peth rwyf fwyaf balch ohono hyd yn hyn yw creu partneriaeth ag One gydag Eglwys San Steffan yng Nghasnewydd ar gyfer "Diwrnod Bwyta Allan i’r Gymuned," a oedd yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol gyda digwyddiad blasu bwyd rhyngwladol. Roedd gweld pobl yn dod at ei gilydd ac yn mwynhau'r blasau roedden ni'n eu cyflwyno yn werth chweil. Rydyn ni hefyd wedi rhoi pecynnau bwyd wedi'u coginio i Ganolfan Tai a Ffoaduriaid yng Nghasnewydd. Dyma ein ffordd ni o roi yn ôl a gwneud ein rhan i helpu'r rhai mewn angen. Mae'r profiadau hyn yn fy ngwneud i'n falch oherwydd nid dim ond profiadau busnes ydyn nhw, maen nhw'n ymwneud â chael effaith gadarnhaol.

FEL MENYW DDU, RWY'N AML WEDI TEIMLO FEL BOD YN RHAID I MI WEITHIO DDWYWAITH MOR GALED I GAEL FY NGHYDNABOD, NID YN UNIG YN Y GWEITHLE OND MEWN CYMDEITHAS.

Faith Orugbani

BA (Anrh) Busnes a Rheoli

Beth mae Mis Hanes Pobl Ddu yn ei olygu i chi? Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn golygu popeth i mi. Mae'n amser i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod a'r gwaith y mae angen i ni ei wneud o hyd. Fel menyw ddu, rwy'n aml wedi teimlo fel bod yn rhaid i mi weithio ddwywaith mor galed i gael fy nghydnabod, nid yn unig yn y gweithle ond mewn cymdeithas. Mae rhagfarnau’n bodoli o hyd, ond mae'r mis hwn yn ein hatgoffa bod ein cyfraniadau ni'n bwysig.

Mae hefyd yn taflu goleuni ar y talentau a'r cyflawniadau anhygoel yn ein cymuned sy'n aml yn digwydd heb gael sylw o gwbl. I mi, nid dim ond dathlu pobl Ddu yw hyn, mae'n golygu adeiladu pontydd a sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u hil, yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u clywed.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n dymuno dilyn ôl eich traed? Byddwch yn agored a pheidiwch â bod ofn holi cwestiynau. Dwi wedi dysgu nad oes y fath beth â chwestiwn gwirion—os ydych chi'n pendroni am rywbeth, mae'n debyg fod rhywun arall hefyd. Mae'n golygu mentro i geisio atebion ac arweiniad.

Rwyf hefyd yn credu mewn bod yn realistig am eich diddordebau. I ddechrau, ro'n i eisiau astudio'r gyfraith ond sylweddolais fod busnes ac economeg yn fwy addas i mi. Peidiwch â bod ofn ailasesu eich llwybr os nad yw'n teimlo'n iawn. Yn olaf, mae'n bwysig aros yn gadarn ac ymrwymo i gael effaith, boed hynny drwy eich gwaith chi neu'ch cymuned.

Lle ydych chi'n gweld eich hun ymhen pum mlynedd? Mewn pum mlynedd, rwy'n gobeithio bod yn Uwch Reolwr Prosiect wedi ennill fy mhlwyf a chyflawni Siartiaeth yn y Gymdeithas Rheoli Prosiectau. Rwyf hefyd eisiau ehangu fy ngwaith fel mentor, gan arwain pobl ifanc nad ydyn nhw’n siŵr am eu llwybrau gyrfa, yn union fel yr oeddwn i unwaith.

Mae rhoi rhywbeth yn ôl yn bwysig i mi - dwi wedi dechrau mentora myfyrwyr yn barod, ac rwy'n gobeithio datblygu'r ochr yna i fy ngwaith yn y blynyddoedd i ddod. Ar yr un pryd, hoffwn weld Manuelle Foods yn tyfu ac yn parhau i ddod â phobl at ei gilydd drwy fwyd, gan greu profiadau cofiadwy a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Sut wnaeth eich amser ym Mhrifysgol De Cymru lywio eich taith? Chwaraeodd PDC ran fawr wrth lunio fy nhaith. Fe wnaeth yr amgylchedd amrywiol, y gefnogaeth gan ddarlithwyr, a'r dull ymarferol o weithredu fy helpu i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol.

Ro'n i wrth fy modd â'r ffaith fy mod i'n cael blas ar ychydig o bopeth—busnes, economeg, hyd yn oed y gyfraith. Rhoddodd sylfaen gadarn i mi yr wyf wedi adeiladu arni drwy gydol fy ngyrfa. Mae'r anogaeth a gefais yn PDC, yn enwedig o ran dangos fy hunaniaeth ddiwylliannol yn fy ngwaith, wedi aros gyda mi ac wedi dylanwadu ar yr hyn rwy'n ei wneud heddiw.