Diwrnodau Agored
Mae Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i ddarganfod sut brofiad yw astudio ym Mhrifysgol De Cymru wrth eich helpu i ddewis y cwrs iawn i chi.
Neilltuwch eich lle
Archwiliwch ein campysau a darganfyddwch ddinasoedd bywiog Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd mewn Diwrnod Agored.
Diwrnodau Agored i ddod
Archwiliwch ein campysau a darganfyddwch ddinasoedd bywiog Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd mewn Diwrnod Agored PDC.
DigwyddiadauNEILLTUWCH EICH LLE
Cadwch eich lle ar un o'n diwrnodau agored gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Nid oes angen unrhyw beth wrth law, a dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd i'w gwblhau.
Neilltuwch Eich LleNoson Agored Ôl-raddedig
Mae ymuno ag un o’n Digwyddiadau Agored yn ffordd ddelfrydol o ddarganfod mwy am ein cyrsiau ôl-raddedig rhan-amser a llawn amser, yn ogystal â chymwysterau ôl-gofrestru ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Cwestiynau Cyffredin
Mae cofrestru ar gyfer un o'n diwrnodau agored yn broses hawdd. Llenwch ein ffurflen ar-lein a byddwch wedi’ch cofrestru ar gyfer eich digwyddiad dewisol.
Mae mynychu diwrnod agored yn rhoi cyfle i chi sgwrsio â darlithwyr, myfyrwyr ac aelodau eraill o staff a gweld unrhyw gyfleusterau y gallech fod yn eu defnyddio yn ystod eich astudiaethau. Byddwch yn gweld ac yn profi popeth o lygad y ffynnon ac yn teimlo naws y lle i’ch helpu chi i benderfynu os mai prifysgol yw'r dewis iawn i chi.
Mae gan bob un o'n campysau gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog ac maent i gyd yn hawdd eu cyrraedd mewn car. Ewch i'n gwybodaeth Cyrraedd Yma isod i gael gwybodaeth fanylach am deithio i'r campws.
Mae cymaint o bethau wedi’u cynllunio i chi eu profi yn ystod ein diwrnodau agored.
Byddwch yn gweld sut le yw'r campws a'r ardal leol, siarad â staff a myfyrwyr presennol, mynychu sgyrsiau a chyflwyniadau am y brifysgol, teithiau campws a llety, cwrdd â gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a mwy!
Cymerwch olwg ar ein rhestr wirio diwrnod agored a'r rhestr hon o gwestiynau i'w gofyn ar ddiwrnod agored i'ch helpu i baratoi.
Os na allwch ymweld â ni wyneb yn wyneb, peidiwch â phoeni! Mae sawl ffordd arall i'ch helpu i benderfynu a yw PDC ar eich cyfer chi. Edrychwch o gwmpas y wefan, edrychwch ar ein tudalennau cwrs a darllenwch straeon myfyrwyr i ddeall mwy am fywyd yn PDC.
Rydym yn cynnal diwrnodau agored ar-lein drwy gydol y flwyddyn, lle gallwch wylio cyflwyniadau byw gan ein staff addysgu a chymorth, cymryd rhan mewn sgyrsiau byw gyda staff a myfyrwyr a mynychu sesiynau holi ac ateb.
Mae ein teithiau rhithwir yn ffordd wych arall o ddelweddu'r hyn sydd gan PDC i'w gynnig, a gallwch sgwrsio â staff a myfyrwyr ar-lein trwy Unibuddy os oes gennych unrhyw gwestiynau brwd.