Ymchwil
Mae ein hymchwil fywiog ac effeithiol yn cyfrannu at ddatrys problemau gwirioneddol a wynebir gan ein cymdeithas, ac mae ein timau ymchwil amlddisgyblaethol yn cydweithio â diwydiant, cymunedau a sefydliadau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau.
Mae gennym hanes cryf o ddarparu ymchwil effeithiol o ansawdd uchel. Mae ein hymchwilwyr yn darparu atebion arloesol i gymdeithas a'r economi, gan gefnogi ein cymunedau lleol a rhyngwladol.
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, ac o bob sector, i ddatblygu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy'n datrys problem benodol. Rydym yn helpu llunwyr polisi i gasglu tystiolaeth er mwyn deall anghenion a phrofiadau sector neu ddiwydiant i lywio atebion yn well a gwella bywydau.
Ein Cyflawniadau
Strategaeth Ymchwil ac Arloesi PDC 2023
Mae ein gweledigaeth yn glir ac yn hyderus - rydym am newid bywydau a'n byd er gwell.