Ystâd ailwylltio yn yr Alban yn cynnal ymchwil iechyd meddwl arloesol Prifysgol De Cymru

19 Awst, 2026

Golwg o’r awyr o ystâd ailwylltio Dundreggan.

Mae disgyblion ysgol cefn gwlad sy’n ymweld ag ystâd ailwylltio Trees for Life yn Dundreggan ger Loch Ness wedi bod yn helpu i ffurfio rhaglen ymchwil sy’n seiliedig ar fyd natur er mwyn rhoi hwb i iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc.

Gan weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru, mae disgyblion o ysgolion Ucheldiroedd yr Alban wedi bod yn archwilio sut y gall treulio amser ym myd natur wella llesiant, helpu pobl ifanc i ymdopi ag adegau anodd, a chefnogi iechyd meddwl y rhai sy’n byw mewn cymunedau anghysbell a chymunedau gwledig.

Mae llawer o bobl ifanc yn wynebu iechyd meddwl gwael o ganlyniad i broblemau, gan gynnwys bwlio, pryderon ynghylch delwedd y corff a gorbryder ynghylch hinsawdd yn ôl ymchwilwyr. Mae myfyrwyr mewn ysgolion gwledig hefyd yn profi rhwystrau seilwaith a rhwystrau cymdeithasol, gan gynnwys teimlo’n ynysig. 

Mae Healthy Young Minds yn rhaglen ymyrraeth gynnar sy’n seiliedig ar fyd natur sy’n cynnwys ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru, University of the Highlands and Islands, a Phrifysgol Dundee. Mae’n cynnwys disgyblion ysgolion uwchradd rhwng 11 ac 14 oed yn cyd-gynhyrchu gweithgareddau i gefnogi llesiant pobl ifanc.

Fel rhan o’r fenter, y gwanwyn hwn, ymwelodd dau grŵp o blant o Ysgolion Uwchradd Farr a Kinlochleven â Chanolfan Ailwylltio Dundreggan Trees for Life yn Glenmoriston. Cymerodd y bobl ifanc ran mewn taith dywys ailwylltio a gweithgaredd dipio pyllau dŵr gan ddysgu am adnabod coed, gwneud bara ceirch, a chynnau tanau traddodiadol.

Yn ystod gweithdai a hwyluswyd gan Ewen’s Room, sef elusen iechyd meddwl yn Ucheldiroedd yr Alban, helwyd syniadau ar gyfer gweithgareddau awyr agored i roi hwb i lesiant meddwl, gan gynnwys gwersylla, caffis awyr agored, adeiladu tanau, gweithgareddau i deuluoedd, cerdded bryniau, nofio gwyllt, cribo’r traeth, chwaraeon, gemau bwrdd, a chrefftau naturiol.

Rhoddwyd adborth ar bob syniad gan y bobl ifanc eraill a’r arbenigwyr ym meysydd iechyd gwyrdd ac iechyd meddwl pobl ifanc. Pennodd y bobl ifanc eu syniadau ac yna fwrwyd pleidlais ar gyfer eu hoff weithgareddau.

Yn aml, mae heriau iechyd meddwl yn codi yn ystod llencyndod cynnar a bwriad y prosiect yw hyrwyddo llesiant trwy ymgysylltu â byd natur a mannau gwyrdd lleol.

Dywedodd Franny Schlicke, Goruchwyliwr Profiad Ymwelwyr a Gweithrediadau Trees for Life yn Dundreggan: “Mae cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn bwysig iawn ac roedd gweld myfyrwyr yn mwynhau’r dirwedd sy’n gyfoeth o fyd natur ac yn ymgysylltu â’r gweithgareddau a’r trafodaethau yn wych.

“Mae’r prosiect ymchwil hwn yn amlygu’r rheswm y dylai pawb gael cyfle i brofi byd natur, i fwynhau ei fuddion iechyd a llesiant, a gweld i’w hunain pam bod angen ei warchod a’i adfer.” 

Fel rhan o’r broses ymchwil, dysgodd pobl ifanc am bum ffordd at lesiant – cysylltu â phobl ifanc, dysgu sgiliau newydd, ymroi i bobl eraill, bod yn gorfforol weithredol, a thalu sylw i’r pethau bychain. 

Dywedodd Dr Sara Bradley, Uwch-gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru: “Mae ein prosiect yn galluogi pobl ifanc i greu eu syniadau eu hunain ynghylch sut y gall byd natur gefnogi eu hiechyd a’u llesiant. Roedd yn ysbrydoledig i’r tîm a’r myfyrwyr allu ymweld â Chanolfan Ailwylltio ardderchog Dundreggan a’i thirwedd wyllt odidog fel rhan o hyn.

“Mae cyd-greu â phobl ifanc yn ffordd bwysig ac effeithiol iawn o ennyn eu diddordeb o ran mynd i’r afael â heriau. Mae’r prosiect wedi creu cyfleoedd ar gyfer mynd i’r afael ag anawsterau iechyd meddwl mewn ffordd ataliol trwy fod yn yr awyr agored a chael mynediad at fyd natur.”

Mae rhaglen Healthy Young Minds wedi cael ei datblygu mewn partneriaeth â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (GIG Ucheldiroedd yr Alban), Ewen’s Room, ac elusen i bobl ifanc, Kinlochlovin’. Mae wedi’i chefnogi gan Trees for Life a Highland Green Health Partnership, ac mae wedi’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.