Pori cyrsiau yn ôl pwnc
-
Addysg
Mae gan ein cyrsiau addysg agwedd ymarferol. Gyda lleoliadau gwaith a chlinigau ar y campws, byddwch yn cael pob cyfle i ennill sgiliau, hyder a phrofiad.
-
Addysgu
Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, mae PDC ar eich cyfer chi. Byddwch yn cael mynediad rheolaidd i ystafelloedd dosbarth arbenigol, a phrofiadau addysgu byd go iawn gwarantedig mewn ysgolion cynradd neu golegau addysg bellach.
-
Amgylchedd Adeiledig
Prifysgol De Cymru yw darparwr mwyaf cyrsiau tirfesur a chyrsiau rheoli prosiect a achredir gan ddiwydiant yng Nghymru, wedi’i hachredu’n llawn gan y Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS.
-
Animeiddio a Gemau
Gyda technoleg dal symudiadau ar y campws, sgrin werdd, VR ac AR, byddwn yn eich dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol creadigol.
-
Astudiaethau Crefyddol
Byddwch yn archwilio credoau, gwerthoedd ac arferion pobl ledled y byd i gael dealltwriaeth lawn o amrywiaeth ddiwylliannol a chrefyddol.
-
Busnes a Rheolaeth
Bydd ein graddau busnes yn eich dysgu am bob agwedd ar sut mae busnes llwyddiannus yn cael ei redeg a byddwch yn datblygu sgiliau mewn rheoli pobl, gwneud penderfyniadau a thrafod.
-
Bydwreigiaeth
Dysgwch trwy wneud wardiau mamolaeth efelychiedig a'n lleoliadau ysbyty yn rhan fawr o'ch dysgu. Byddwch chi'n cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnoch chi hefyd, gyda thiwtoriaid a mentoriaid yn y Brifysgol ac ar leoliadau.
-
Ceiropracteg
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Ceiropracteg sy'n canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i rôl yn y diwydiant a bodloni gofynion cofrestru'r DU i ymarfer.
-
Celf
O serameg a gwneud printiau, i gerflunio i beintio, gallwch ddarganfod ffyrdd newydd o fynegi'ch hun a'ch syniadau artistig.
-
Cerddoriaeth a Sain
Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.
-
Chwaraeon
Mae gan Brifysgol De Cymru gefndir chwaraeon cryf, enw rhagorol am raddau chwaraeon, a chyfleusterau trawiadol i’n myfyrwyr astudio a hyfforddi ynddynt.
-
Cyfrifiadura
Mae cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru wedi'i gynllunio nid yn unig gyda'r diwydiant mewn golwg, ond mae'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan bartneriaid proffesiynol a staff â chysylltiadau da.
-
Cyfrifeg a Chyllid
Wedi'i addysgu gan gyfrifwyr cymwys ac arbenigwyr sy'n weithgar yn y diwydiant, mae gennym ddewis gwych o gyrsiau cyfrifeg a chyllid o lefel israddedig i ôl-raddedig.
-
Cymdeithaseg
Ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn astudio damcaniaethau a phynciau cymdeithasegol amrywiol, o brynwriaeth i gomiwnyddiaeth, hiliaeth i freindal, ac undebau llafur i hysbysebu ar y teledu.
-
Drama a Pherfformio
Mae ein holl raddau perfformio yn eich arfogi â chydbwysedd gwych o weithgaredd ymarferol, perfformiadau byw a theori, ac maent wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau i chi adeiladu eich gyrfa.
-
Dylunio
Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.
-
Ffasiwn
Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng masnacholdeb a chreadigedd. Ein nod yw cynhyrchu graddedigion ffasiwn â gweledigaeth sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd manwerthu a ffasiwn.
-
Ffilm ac Effeithiau Gweledol
Trwy Ysgol Ffilm a Theledu Cymru, gallwn gynnig y cyfleoedd gorau yn y DU i fyfyrwyr adeiladu gyrfa lwyddiannus ym myd ffilm a theledu.
-
Ffotograffiaeth
Gyda chyrsiau mewn Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol, mae Prifysgol De Cymru wedi ennill enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth. Fe welwch stiwdios ffotograffiaeth o safon fyd-eang ar y campws a chymuned o bobl angerddol sy'n ymwneud â llunio dyfodol diwylliant gweledol.
-
Gwaith Cymdeithasol
Mae gwaith cymdeithasol yn broffesiwn sy'n canolbwyntio ar bobl - o fabanod i'r henoed, lle rydych chi'n gweithio gydag unigolion a theuluoedd, gan eu galluogi i fyw mor annibynnol â phosib.
-
Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
Wedi’i chyflwyno gan weithwyr ieuenctid profiadol ac arobryn, bydd y radd hon mewn gwaith ieuenctid a chymunedol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau, gan eu helpu i wella eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol.
-
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gan edrych ar faterion pŵer a gwneud penderfyniadau, byddwch yn ymchwilio i sut mae penderfyniadau'n digwydd, pwy sy'n eu gwneud a pha wahaniaeth maen nhw'n ei wneud yn y byd go iawn.
-
Gwyddor Data
Ar y cwrs Gwyddor Data, byddwch yn dysgu sut i gymhwyso sgiliau a gwybodaeth ddadansoddol lefel uchel i ddatrys ystod o broblemau byd go iawn.
-
Gwyddorau Amgylcheddol
Mae ein cyrsiau Gwyddorau Amgylcheddol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau a datrys problemau newid hinsawdd, adnoddau adnewyddadwy, llygredd amgylcheddol, cadwraeth ar gyfer bioamrywiaeth a rheolaeth amgylcheddol.
-
Gwyddorau Biolegol
Gyda’r cyfuniad cywir o wybodaeth wyddonol, profiad ymarferol a gwaith maes rhyfeddol, rhyngwladol yn aml, mae ein graddedigion Gwyddorau Biolegol yn wyddonwyr cyflawn.
-
Gwyddorau Cemegol a Fferyllol
Mae galw mawr am raddedigion medrus gwyddoniaeth sy’n seiliedig ar gemeg, felly os mai’ch uchelgais yw darganfod y cyffur poblogaidd nesaf neu ymateb i’r her o addysgu gwyddoniaeth, ein cyrsiau ni yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni’ch nod.
-
Gwyddorau Fforensig
P'un a oes gennych gefndir gwyddoniaeth ai peidio, mae ein cyrsiau'n eich datblygu i ddod yn raddedig profiadol a chymwys o un o'n graddau Fforensig achrededig.
-
Gwyddorau Meddygol
Yn ogystal â bod yn gymhwyster gwyddonol cryf, mae ein cwrs Gwyddorau Meddygol yn cynnwys cymhwyso gwybodaeth wyddonol i senarios clinigol gan ddefnyddio efelychiad a dysgu seiliedig ar achosion.
-
Hanes
Mae graddau hanes ym Mhrifysgol De Cymru yn rhoi’r cyfle i astudio amrywiaeth o hanesion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, deallusol a diwylliannol o hanes Prydain ac Ewrop, yr Americas o’r cyfnod trefedigaethol hyd heddiw, ac agweddau ar hanes byd-eang o Giwba i Tsieina.
-
Heddlua a Diogelwch
Dechreuwch eich gyrfa gyda hyfforddiant lleoliad trosedd realistig mewn cyfleusterau addysgu drwy drochi, a addysgir gan gyn-staff yr heddlu sy'n gallu rhannu cyfoeth o wybodaeth weithredol.
-
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn PDC, rydych chi'n dechrau eich gyrfa cyn i chi raddio. Trwy gyfuno dysgu ymarferol â chyfleusterau o safon diwydiant a lleoliadau mewn byrddau a sefydliadau iechyd.
-
Iechyd Perthynol
Rydym yn cynnig cyfleusterau efelychu clinigol anhygoel a chlinigau cleifion allanol sy'n efelychu ystod amrywiol o leoliadau ysbyty, cymunedol a chlinigol.
-
Marchnata
Bydd ein graddau marchnata yn eich paratoi ar gyfer y dyfodol trwy brofiad byd go iawn. Ni waeth pa yrfa rydych chi'n gweld eich hun yn dechrau arni, byddwch chi'n graddio'n hyderus, gan wybod yn union pa sgiliau a gwerth y gallwch chi eu cynnig i gyflogwr.
-
Mathemateg
Os oes gennych feddwl dadansoddol ac yn mwynhau datrys problemau, gall gradd Mathemateg ym Mhrifysgol De Cymru agor opsiynau gyrfa di-ri.
-
Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau
Mae graddau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau PDC yn rhoi’r sgiliau ymarferol i ddod yn rhan o’r diwydiant neu gallwch ddewis cwrs seiliedig ar theori sy’n rhychwantu ystod lawn y cyfryngau modern, o newyddiaduraeth brint draddodiadol i flogio, gwneud ffilmiau, radio a chyhoeddi.
-
Nyrsio
Ychydig iawn o yrfaoedd sydd yr un mor werth chweil, neu sy'n caniatáu ichi weithio gyda chymaint o amrywiaeth o bobl. Bydd ein cyrsiau Nyrsio yn rhoi'r sgiliau, addysg a hyfforddiant arbenigol i chi i'ch paratoi ar gyfer y gweithle.
-
Peirianneg (Awyrofod)
Gyda chysylltiadau cryf â diwydiant, cyrsiau sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol a mynediad at gyfleusterau arbenigol sy’n darparu mannau dysgu cyffrous, rydym yn rhoi’r llwyfan i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
-
Peirianneg (Electronig)
Rydym yn cynnig cyrsiau peirianneg traddodiadol fel peirianneg sifil, mecanyddol, trydanol ac electronig, neu gyrsiau mwy arbenigol gan gynnwys peirianneg cynnal a chadw awyrennau a pheirianneg modurol.
-
Peirianneg (Fecanyddol)
Mae ein graddau peirianneg fecanyddol wedi'u hachredu gan yr IMechE a'r Sefydliad Ynni. Mae hyn yn golygu bod diwydiant yn cydnabod eu bod yn cyrraedd y safon uchaf o addysg ac yn darparu llwybr i ennill statws Peiriannydd Siartredig.
-
Peirianneg (Modurol)
Bydd y graddau Peirianneg Modurol sydd ar gael gan Brifysgol De Cymru yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn y diwydiant modurol modern, gyda ffocws ar dechnoleg cerbydau ymreolaethol.
-
Peirianneg (Sifil)
Rydym yn ymfalchïo yn ein ehangder o gyrsiau peirianneg sifil sy’n seiliedig ar ofynion diwydiant, felly maen nhw’n rhoi’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu y byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â chwmnïau.
-
Rheoli Gwesty a Lletygarwch
Mae ein gradd Rheoli Gwesty a Lletygarwch yn darparu’r unig gyfle yn y DU i ddysgu tra’n ennill profiad ymarferol o fewn gwesty pum seren.
-
Saesneg
O Shakespeare a'r Saesneg i ysgrifennu cyfryngau, bydd ein graddau Saesneg yn eich helpu i ddatblygu a gwella'ch mynegiant, ysgrifennu beirniadol a'ch sgiliau meddwl.
-
Seiberddiogelwch
Mae ein cyrsiau Seiber wedi ennill gwobrau gyda llawer o gyrsiau wedi'u hachredu gan y BCS. Wedi'ch addysgu gan arbenigwyr yn eu maes, gallwch fod yn hyderus o wybod y cewch eich cefnogi a'ch datblygu i'ch llawn botensial trwy gydol eich astudiaethau.
-
Seicoleg
Mae seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru yn agor drysau i fwy o yrfaoedd nag yr oeddech chi'n meddwl oedd yn bosibl, gan ganiatáu bod ein graddedigion yn gallu ystyried mwy na'r meysydd traddodiadol yn unig a gwneud gwahaniaeth yn y broses.
-
Seicotherapi a Chwnsela
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau seicotherapi a chwnsela sy’n cael eu cydnabod a’u hachredu gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
-
Troseddeg
Rydym yn cynnig cyfres amrywiol o gyrsiau troseddeg gydag ystod eang o bynciau i’w hastudio, o ryfela gangiau, diwylliannau gynnau a chyfiawnder ieuenctid, i’r ffordd y caiff trosedd ei adrodd yn y cyfryngau sy’n eich galluogi i ddewis modiwlau sy’n adlewyrchu eich diddordebau.
-
Y Gyfraith
Bydd cyrsiau’r gyfraith o Ysgol Busnes De Cymru yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyfodol o fewn y diwydiant cyfreithiol a thu hwnt trwy brofiadau byd go iawn.
-
Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy
O ddatgarboneiddio gwres a phŵer i'r economi gylchol, ynni hydrogen, a gwyrddu diwydiant, mae defnyddio technoleg adnewyddadwy a chynaliadwy yn dod â chyfleoedd newydd yn ei sgil.