Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Astudiwch Gerddoriaeth, Drama a Pherfformio yn PDC ac archwiliwch ble mae creadigrwydd yn cwrdd â chrefft. O'r llwyfan i'r stiwdio, o stori i gân, fe gewch chi ysbrydoliaeth ac ennill y profiad ymarferol i gyfansoddi, perfformio, cyfarwyddo neu gynhyrchu eich ffordd i'r diwydiannau creadigol.
Gweld Cyrsiau Archebu Diwrnod Agored
Gyda mynediad at stiwdios proffesiynol, mannau perfformio ac arweiniad arbenigol, byddwch yn datblygu'r hyder, y sgiliau a'r wybodaeth am y diwydiant i wireddu eich gweledigaeth greadigol.
Dod o hyd i'ch cwrs
Y cwrs delfrydol i unrhyw un sy'n angerddol am gerddoriaeth o bob genre neu sy'n edrych i archwilio eu talent gerddorol ymhellach.
Creu, Cydweithio, Arloesi. Gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn cerddoriaeth a sain gyda'n cwrs arloesol BA Cynhyrchu Cerddoriaeth.
Bydd y rhaglen Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu arloesol hon yn eich ysbrydoli i ddatblygu eich llais artistig eich hun a gwneud cysylltiadau parhaol o fewn y byd cyfansoddi caneuon.
Elfen bwysig o’r radd Meistr Peirianneg Cerddoriaeth yw cymhwyso’ch gwybodaeth yn ymarferol i gynhyrchu gwaith creadigol iawn. Archwilir meysydd perthynol hefyd, sy’n caniatáu i raddedigion gymhwyso eu sgiliau i lawer o feysydd eraill sy’n gysylltiedig â chyfryngau, gan gynnwys ffilm ac animeiddio.
Dysgwch sut i greu cynnwys a chynhyrchu perfformiadau byw a chyfryngau wedi eu recordio.
Dysgwch sut i ddarparu systemau diogel, dibynadwy o ansawdd uchel sy'n gwneud perfformiadau'n dechnegol anhygoel.
Chi sydd pia’r llwyfan ar y cwrs gradd theatr a drama ymdrochol ac eang hwn. Ym mhob un o dair blynedd y cwrs, bydd eich astudiaethau’n seiliedig ar ŵyl theatr ac ar berfformiadau.
P'un a ydych chi'n artist profiadol sy'n dymuno cael yr amser a'r lle i ddatblygu eich ymarfer neu'n dechrau ar eich gyrfa fel gwneuthurwr theatr, ymarferydd drama, storïwr neu addysgwr, bydd y cwrs MA Theatr a Pherfformio yn eich helpu i gyflawni eich potensial.
Oeddech chi'n gwybod?
Oeddech chi'n gwybod?
Mae Cerddoriaeth yn PDC ar y brig yng Nghymru o ran Ansawdd Addysgu.
(Canllaw Prifysgolion Da The Times a The Sunday Times 2025)
Cysylltiedig â'r Diwydiant
Mae ein cyrsiau Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio wedi'u datblygu mewn partneriaeth ag arbenigwyr yn y diwydiant a'u cyflwyno gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes. Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn rhan o Bartneriaeth Academaidd Cerddoriaeth y DU (MAP), cydweithrediad sy'n cysylltu addysg, ymchwil a'r diwydiant cerddoriaeth ehangach, gan roi cysylltiadau uniongyrchol i chi â rhwydweithiau creadigol go iawn.
Astudiwch yng nghanol Caerdydd
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
Eich Profiad Myfyrwyr
Diwrnodau Agored i ddod
Prosbectws digidol
Creu prosbectws digidol personol eich hun ac archwiliwch Brifysgol De Cymru yn ffordd eich hun. Edrychwch ar gyrsiau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd, gweld sut beth yw bywyd myfyrwyr, ac adeiladu rhywbeth o amgylch yr hyn sy'n bwysig i chi.