Tom

Gallaf adael y brifysgol gan wybod fy mod llawer mwy cyflogadwy

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Drama student, Tom, takes a selfie against a white wall

Prifysgol De Cymru oedd y dewis perffaith i mi oherwydd y cyfleoedd maen nhw’n eu rhoi i’w myfyrwyr i weithio gyda rhai o enwau mwyaf y diwydiant.


Cysylltiadau PDC oedd yn gwneud hi’n ddewis amlwg. 

Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn theatr a drama, ond roeddwn i eisiau gwthio  y tu hwnt i ffiniau theatr draddodiadol, felly dewisais i archwilio'r cwrs BA (Anrh) Perfformio ar Gyfryngau. Prifysgol De Cymru oedd y dewis i mi oherwydd y cyfleoedd maen nhw’n eu cynnig i’w myfyrwyr i weithio gyda rhai o enwau mwyaf y diwydiant. 

Rydyn ni wedi cael y cyfle i gwblhau lleoliadau, a drwy hyn, ces i brofiad o weithio gyda Theatr Hijinx, un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop. Rydyn ni hefyd wedi cael nifer o ddarlithwyr yn dod i mewn i siarad am eu gwaith, ac aethom ar daith i stiwdios Bad Wolf lle cawsom weld a dysgu am set His Dark Materials ac archwilio gwahanol agweddau ar y diwydiant. 

Rwyf wedi mwynhau dysgu am wahanol elfennau’r cyfryngau, o radio i ffilm, ond hefyd cael y cyfle i archwilio sut y gall y cyfryngau fod yn rhan o berfformiadau byw. Uchafbwynt y cwrs hyd yma oedd creu cynhyrchiad byw newydd a gyfunodd arddulliau theatr trochi i greu sioe ryngweithiol am dditectifs yr heddlu. Bellach, gallaf adael y brifysgol gan wybod sut i greu ffilm ger, dram radio neu gynhyrchiad theatr - ac mae hynny’n gwneud i fi llawer mwy cyflogadwy. 

Mae cymaint o offer y gallwn siarad amdano, ond pan ddywedaf beth rwy’n meddwl y byddaf yn defnyddio llawer ohono pan rwy’n graddio, mae’n feddalwedd golygu Adobe. Rydym wedi cael ei ddangos sut i olygu ffilmiau gan ddefnyddio Adobe Audition, sef platfform rwy’n dal i’w ddefnyddio y tu allan i fy astudiaethau i greu fy podlediad fy hun. 

Diddordeb mewn astudio Perfformio a'r Cyfryngau?

RYDYM WEDI CAEL Y CYFLE I GWBLHAU LLEOLIADAU, A TRWY HYN CES I BROFIAD O WEITHIO GYDA THEATR HIJINX, UN O BRIF GWMNI THEATR GYNHWYSOL EWROP.

Tom

Myfyriwr Perfformio a'r Cyfryngau

Cyngor Tom i fyfyrwyr newydd

Fy nghyngor i unrhyw fyfyrwyr newydd fyddai rhoi eich hun ar brawf. Archwiliwch beth sydd yno a beth sydd gan y brifysgol i’w gynnig. Cymerwch risgiau. Efallai na fyddwch yn credu y byddwch yn mwynhau rhywbeth, ond byddwch wastad yn dysgu sgil newydd. Hefyd, parhewch i greu! 

Byddwch chi eich hun a byddwch yn falch o hynny. Yn y brifysgol, efallai y byddwch yn poeni na fyddwch yn ffitio mewn, ond mae’n dda gwybod bod pobl a fydd yn hapus i wrando arnoch ac yn barod i’ch helpu.

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.