Gwasanaethau Prifysgol
Mae ganddon ni ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau ar ein campysau, o gaeau chwaraeon o’r radd flaenaf, cyngor cyfreithiol am ddim, cymorth busnes, gwasanaethau iechyd a llawer mwy.
Amdanom Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/12-campus-spaces/campus-spaces-newport-library-15265.jpg)
Gwasanaethau Prifysgol A-Y
Ffoniwch ein switsfwrdd i gael eich cyfeirio at wasanaeth penodol: 03455 76 77 78.
Mae ganddon ni amrywiaeth o gaffis, bwytai a siopau coffi ar draws ein campysau sydd ar agor i’r cyhoedd yn ogystal â’n cydweithwyr a’n myfyrwyr. Gyda lluniaeth poeth ac oer ar gael – gan gynnwys popeth o goffi go iawn a phwdinau cartref, i salad iach, brechdanau, a phrydau o bob rhan o’r byd – mae rhywbeth at ddant pawb.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth Clicio a Chasglu ym mwyty Stilts ac yn siop goffi Crawshays ar Gampws Trefforest.
Mae Meithrinfa Acorns Trefforest yn feithrinfa annibynnol wedi'i lleoli ar ein Campws ym Mhontypridd. Mae gan dîm rheoli'r feithrinfa fwy nag 20 mlynedd o brofiad o weithio o fewn Acorns. Mae croeso i blant ein myfyrwyr a'n cydweithwyr yn PDC, yn ogystal â phlant o'r gymuned ehangach, i'r lleoliad meithrinfa hardd.
Mae gan bob grŵp eu hystafell sylfaen eu hunain a mynediad i'r ardd â choed ar ei hyd, sy'n eu galluogi i symud yn rhydd rhwng gweithgareddau ysgogol yn yr amgylchedd dan do ac awyr agored. Mae ein holl offer wedi'i ddewis am ei botensial chwarae a dysgu ac mae'n briodol i'w oedran i sicrhau bod babanod a phlant yn dysgu trwy chwarae.
Mae Sefydliad Ceiropracteg Cymru (WIOC), sydd wedi'i leoli ar ein Campws ym Mhontypridd, yn cynnig ystod o ofal clinigol a thriniaethau ceiropracteg. Gall unrhyw un wneud apwyntiad – nid oes angen cael eich atgyfeirio gan ddarparwr gofal iechyd arall.
P'un a ydych chi'n profi poen cefn cronig neu'n chwilio am gymorth i wneud diagnosis o broblemau gyda'ch cymalau neu'ch cyhyrau a'u trin, mae ein gwasanaethau clinigol yn cynnig y cyfle i asesu'ch cyflwr a'ch cynghori ar eich opsiynau triniaeth.
Mae Canolfan Gynadledda PDC, ar ein campws ym Mhontypridd, yn darparu lle hyblyg ac addasadwy ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gyda'r fantais ychwanegol o lety ar y safle yn ystod misoedd yr haf.
Mae ein canolfan gynadledda bwrpasol, sy'n cael ei rhedeg gan dîm profiadol o weithwyr proffesiynol digwyddiadau, yn lleoliad delfrydol ar gyfer popeth o gyfarfodydd bach, dethol i gynadleddau mawr.
Mae'r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar dadansoddol ymddygiad cymhwysol, wedi'u lleoli mewn clinigau, i blant 6 oed ac iau sydd ag awtistiaeth ac oedi datblygiadol cysylltiedig (er nad oes angen diagnosis ffurfiol arnom i dderbyn gwasanaethau). Mae ein gwasanaeth yn cael ei arwain gan Arweinydd Clinigol cymwysedig BACB ac mae'n cael ei staffio gan fyfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig sy'n astudio dadansoddi ymddygiad yn PDC. Mae plant yn derbyn therapi dadansoddol ymddygiad cymhwysol (ABA) unigol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, un-i-un mewn amgylchedd hwyliog, egnïol a meithringar.
Rydym yn cynnal apwyntiadau cyhoeddus am ddim lle mae myfyrwyr (gyda goruchwyliaeth gyfreithiol gymwys) yn cyfweld ac yn asesu cleientiaid ac yn llunio cyngor cyfreithiol mewn sawl maes cyfreithiol megis cyflogaeth, tai, dyled, materion teuluol a chontractau.
Efallai y byddwn hefyd yn gallu cynorthwyo mewn meysydd eraill o'r gyfraith, gan ddefnyddio ein cysylltiadau â chwmnïau lleol fel Capital Law, Harding Evans a Howells sydd hefyd yn darparu cyngor a chymorth cyfreithiol am ddim i'r clinig.
Oriel y Bont yw oriel gelf ac amgueddfa'r Brifysgol, wedi'i lleoli y tu mewn i adeilad Tŷ Crawshay ar Gampws Trefforest.
Mae'r oriel ar agor i'r cyhoedd ac yn croesawu ymwelwyr lleol a rhyngwladol i arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gosodiadau celf, casgliadau ffotograffig a mwy, gan ddarparu platfform ar gyfer gwaith gan fyfyrwyr, cydweithwyr a nifer o artistiaid lleol.
Mae Argraffu a Dylunio PDC yn cynnig ystod o wasanaethau argraffu, dylunio, copïo a rhwymo i fyfyrwyr, cydweithwyr a chymuned PDC.
Gall ein tîm cyfeillgar, profiadol a chymwynasgar eich cynorthwyo gyda'ch holl anghenion argraffu a dylunio. Yn ogystal â siop ar-lein, mae'r siop Argraffu a Dylunio yn stocio deunydd ysgrifennu a chyflenwadau celf hanfodol, wedi'i lleoli ar ein Campws Trefforest.
Mae Parc Chwaraeon PDC yn safle 30 erw wedi'i leoli yn Nhrefforest, ac mae'n cynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf fel cae pêl-droed 3G dan do o safon FIFA, System GPS Dan Do CatapultClearSky, ystafell dadansoddi nodiannol, ystafell cryfder a chyflyru, cae pob tywydd, cae 3G awyr agored a nifer o gaeau glaswellt aml-ddefnydd. Defnyddir y Parc Chwaraeon fel canolfan hyfforddi ar gyfer clybiau chwaraeon lleol yn ogystal â chlybiau proffesiynol gan gynnwys Gleision Caerdydd a Chymdeithas Bêl-droed Merched Cymru.
Mae FitZone, sydd wedi'i leoli ar ein Campws ym Mhontypridd, yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau o ioga poeth i kettlebells. Mae gan y ganolfan chwe chwrt badminton, cyrtiau sboncen, wal ddringo, stiwdio dawns a chrefft ymladd, ac ystafell gryfder, tra bod y gampfa yn cynnwys peiriannau ymarfer corff ac offer hyfforddi pwysau o'r radd flaenaf.
Gall y Gwasanaeth Datblygu Dysgwyr (a elwid gynt yn Sgiliau Astudio) gefnogi eich astudiaethau academaidd drwy eich helpu i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i lwyddo mewn addysg uwch. Mae'r rhain yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirio, a sgiliau meddwl beirniadol, yn ogystal â chymorth Mathemateg ac Ystadegaeth.
Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys apwyntiadau 1-1 (ar-lein neu ar y campws), sesiynau sgiliau ar-lein rheolaidd (trwy Teams), canllawiau ar-lein, a chanllawiau fideo. Gellir cael mynediad at yr holl wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar ein gwefan.
Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell yn darparu ystod eang o wasanaethau llyfrgell a gwybodaeth o ansawdd uchel i fyfyrwyr, academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol De Cymru. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael yn gorfforol ac yn ddigidol yn ein llyfrgelloedd, sydd wedi'u lleoli ar ein campysau ym Mhontypridd, Caerdydd a Chasnewydd.
Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at gymorth o’n Hardal Gynghori, sydd wedi'i leoli yn y llyfrgelloedd yn ogystal ag ar-lein, ar gyfer unrhyw ymholiadau a allai fod ganddynt yn ystod eu hamser gyda Phrifysgol De Cymru.
Mae Therapi PDC, sydd wedi'i leoli ar ein Campws yng Nghasnewydd, yn wasanaeth therapiwtig sy'n cynnig amrywiaeth o therapïau seicolegol i weithwyr proffesiynol, busnesau, mudiadau'r trydydd sector a'r cyhoedd. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau cwnsela, yn dibynnu ar eich anghenion.
O'n huned o ystafelloedd cwnsela, gallwn gynnig amrediad o wasanaethau i bobl a mudiadau o ardal De Cymru, gan gynnwys ardaloedd Casnewydd, Caerdydd, Caerffili, Trefforest, Brynbuga, Cwmbrân a Chas-gwent (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).