Cyfleusterau Ysgol Busnes De Cymru

Glinig Cyngor Cyfreithiol

O dan oruchwyliaeth gweithwyr cyfreithiol proffesiynol cymwys, gall myfyrwyr sy'n gwirfoddoli yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol lunio cyngor mewn sawl maes o'r gyfraith i helpu cleientiaid.

Graddau yn y Gyfraith Ysgol Busnes De Cymru
an acadmic is giving legal advice to two other people sat at a table.

Mae'r clinig hefyd yn helpu ein myfyrwyr i baratoi ar gyfer y dyfodol trwy brofiadau byd go iawn trwy wella eu sgiliau ymarferol a'u dealltwriaeth o ofal cleientiaid. Rydym yma i’r gymuned leol yn ogystal â’n myfyrwyr, a dyna pam y gall aelodau’r cyhoedd dderbyn cyngor cyfreithiol am ddim gan ein myfyrwyr y gyfraith.


  • Mae ein Clinig Cyngor Cyfreithiol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio gyda chleientiaid go iawn. Rydym yn cynnal apwyntiadau cyhoeddus rhad ac am ddim lle byddwch yn cyfweld ac yn asesu cleientiaid cyn llunio cyngor cyfreithiol – i gyd dan oruchwyliaeth gweithwyr cyfreithiol proffesiynol cymwys. Bydd y clinig yn eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, gwella eich cyflogadwyedd, a gweld sut mae'r gyfraith yn effeithio ar fywydau pobl go iawn wrth rwydweithio â gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sy'n weithgar yn y diwydiant. Gall yr amser y byddwch yn ei dreulio yn y clinig hefyd gael ei gyfrif fel Profiad Gwaith Cymhwysol (QWE), y gellir ei gynnwys tuag at y ddwy flynedd o QWE sydd eu hangen arnoch i gymhwyso fel cyfreithiwr trwy'r llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

  • Byddwch yn cael hyfforddiant yn y gwaith a goruchwyliaeth gan gyfreithwyr cymwys a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol. Byddwch hefyd yn cael cymorth a chyfarwyddyd parhaus mewn materion fel moeseg, rheoli swyddfa a thrin achosion. Rydym yn cynnig cyngor mewn sawl maes cyfreithiol y gyfraith, megis cyflogaeth, tai, teulu, busnes, profiant a chontract. Mae gennym hefyd gysylltiadau â nifer o gwmnïau cyfreithiol megis Capital Law, Watkins & Gunn, Howells Solicitors, Gomer Williams a First Line Family Law, sy’n gweithio ochr yn ochr â ni i ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol am ddim i’r clinig.

  • Mae ein Clinig Cyngor Cyfreithiol yn canolbwyntio ar wneud cyfiawnder yn hygyrch i aelodau'r cyhoedd trwy gynnig cyngor am ddim. Gallwch gymryd rhan naill ai trwy wirfoddoli ar gyfer un o'n prosiectau neu fel rhan o'ch astudiaethau. Yn aml nid oes gan gleientiaid broblem gyfreithiol wedi’i nodi’n glir pan fyddant yn cyrraedd y clinig – byddwch yn dysgu eu cynorthwyo i drosi eu pryderon yn gategorïau y gellir eu hadnabod yn gyfreithiol. Byddwch hefyd yn dysgu rhoi esboniadau cryno o gysyniadau a phrosesau cyfreithiol a all fod yn hollol newydd iddynt.


Cysylltwch â ni

P'un a ydych yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol neu'n gwmni sy'n edrych i weithio gyda ni neu'n fyfyriwr y gyfraith sy'n dymuno gwirfoddoli, cysylltwch â ni.

E-bostiwch ni