Y Gyfraith
Mae gradd yn y Gyfraith yn un o'r cymwysterau academaidd mwyaf addasadwy gan y bydd yn eich dysgu i feddwl yn rhesymegol, mynegi dadleuon clir a chryno, a sut i ddefnyddio tystiolaeth a rheolau.
Gweld ein Cyrsiau Diwrnodau AgoredGallwch ddisgwyl cyfuniad o addysgu a dysgu ar sail her mewn gweithdai, efelychiadau, ac yn ystod lleoliadau gyda phartneriaid yn y diwydiant a’r Clinig Cyngor Cyfreithiol gan fod cyflogadwyedd ac ymgysylltu â diwydiant wrth wraidd ein Hysgol Gyfraith.
-
Bydd ein graddau yn y Gyfraith yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn eich gyrfa wrth iddynt ganolbwyntio ar sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, fel yr argymhellir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau’r Bar. Bydd astudio LLB Ymarfer Cyfreithiol (ACC) gydag Ysgol Busnes De Cymru nid yn unig yn eich paratoi i sefyll yr Arholiadau Cymhwyster Cyfreithiwr cyntaf, ond bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau allweddol sy'n hanfodol i gyfreithwyr. Bydd y sgiliau hyn hefyd yn eich cynorthwyo gyda'ch asesiadau SQE2.
-
Rydym yn gweithio gyda’r sector gwasanaethau cyfreithiol i gynnig lleoliadau gwaith gwerthfawr sy’n eich galluogi i ymarfer eich sgiliau cyfreithiol newydd tra’n deall realiti’r gweithle. Mae’r Senedd, Cyngor ar Bopeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Hugh James ymhlith rhai o’r lleoliadau gwaith sydd wedi’u cynnal gan ein Myfyrwyr LLB y Gyfraith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gydag Addysg Gyfreithiol Glinigol wedi’i gwreiddio ym mhob un o’n cyrsiau, bydd pob myfyriwr yn rhan o’r broses i alluogi mynediad at gyfiawnder dan oruchwyliaeth cyfreithwyr a darlithwyr gweithredol yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol De Cymru.
-
Mae Ysgol y Gyfraith yn broffesiynol ac mae cyflogadwyedd yn greiddiol i'w chwricwlwm. Mae gan ein darlithwyr a’n staff addysgu gyfoeth o brofiad gan eu bod yn gweithio neu wedi gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o siaradwyr gwadd arbenigol sy'n darparu cyd-destun ac enghreifftiau bywyd go iawn sy'n berthnasol i'r pynciau y byddwch yn eu hastudio. Yn ogystal â’n cysylltiadau cryf â diwydiant, gall ein myfyrwyr hefyd ddisgwyl cyfleoedd rhwydweithio a chinio gwaith.
Cyrsiau Y Gyfraith
Y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol hwn yw’r rhaglen astudio ac asesu a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), y mae’n rhaid i chi ei chwblhau os ydych am gymhwyso fel cyfreithiwr. Mae'r LPC yn gwrs 'dysgu drwy wneud' sy'n seiliedig ar sgiliau ac sy'n rhoi'r sylfaen i chi ddechrau contract hyfforddi mewn swyddfa'r gyfraith. Byddwch yn datblygu sgiliau eiriolaeth, cyfweld, ysgrifennu cyfreithiol, drafftio ac ymchwil.
Mae’r radd LLM hon yn addas ar gyfer unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyfreithiol, yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i wella eu gwybodaeth yn y maes hwn. Y tu allan i’r tymor, cewch gyfle i wirfoddoli yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol y Brifysgol. Yno, cewch gyfle i roi’r wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi’u dysgu ar y cwrs ar waith. Bydd y Clinig yn eich galluogi i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r proffesiwn cyfreithiol, a gweithio gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol dibynadwy.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyfreithiol, yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i wella eu gwybodaeth yn y maes hwn. Gallwch astudio agweddau ar gyfraith fasnachol sy’n berthnasol yn rhyngwladol ac ystyried materion penodol sy’n codi mewn cyfraith fasnachol a chyfraith defnyddwyr. Byddwch hefyd yn archwilio gwahanol agweddau ar globaleiddio a sut mae'r gyfraith yn dylanwadu ar y rhain ac yn ymateb iddynt
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cefnogi ac yn datblygu myfyrwyr i ddysgu ‘yn y swydd’ gyda’n gradd ryngweithiol ac ymarferol yn y gyfraith.
Mae gradd Llwybr Carlam LLB y Gyfraith yn rhedeg ochr yn ochr â rhaglen LLB 3 blynedd draddodiadol a sefydledig Ysgol y Gyfraith, ac mae’n bodloni gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau’r Bar. Mae'r radd yn canolbwyntio ar y saith sylfaen o wybodaeth gyfreithiol sy'n ofynnol at ddibenion elfen academaidd cymhwyster proffesiynol fel bargyfreithiwr neu gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
Os ydych chi'n angerddol am y system cyfiawnder troseddol neu'n awyddus i archwilio cyfraith droseddol, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi. Yn canolbwyntio ar gyfiawnder troseddol a throseddeg, mae'n cyfuno arbenigedd cyfreithiol gyda ffocws ar gyfraith droseddol a chyfiawnder, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes cyfreithiol. Gan gynnig gradd LLB gynhwysfawr yn y gyfraith, mae'r rhaglen hon yn pwysleisio Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg i roi'r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y system gyfreithiol.
P'un ai a ydych yn ddysgwr aeddfed, â phrofiad gwaith perthnasol ond heb gymwysterau ffurfiol, neu heb y pwyntiau UCAS sy'n ofynnol ar gyfer yr LLB safonol, gallai hwn fod y cwrs i chi. Mae'r elfen sylfaen sy'n gysylltiedig â'r LLB yn golygu y gallwch gyflawni eich dyheadau academaidd o astudio'r gyfraith er efallai na fyddwch yn dod o'r cefndir academaidd traddodiadol.
Mae’r cwrs, sy’n cael ei gynnal gan academyddion blaenllaw, yn canolbwyntio ar seminarau a darlithoedd lle byddwch yn gwerthuso’n feirniadol faterion cyfreithiol fel deallusrwydd artiffisial a datblygiadau cyfreithiol a pholisi sy’n deillio o dechnoleg a materion cysylltiedig sy’n dod i’r amlwg. Bydd myfyrwyr o'r DU a thu hwnt yn gallu manteisio ar brofiad academaidd a phroffesiynol blaenorol o wahanol awdurdodaethau.
Mae’r LLM yn cynnwys rhaglen astudio ac asesu wedi'i chymeradwyo gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), y mae’n rhaid i chi ei chwblhau os ydych am gymhwyso fel cyfreithiwr. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o gyfraith busnes ac eiddo, ymgyfreitha a gweithdrefnau llys, ac yn gwella eich gallu i gymryd rhan mewn astudiaeth academaidd ac ymchwil feirniadol drwy brosiect ymchwil, gan eich helpu i ddatblygu'r sgiliau proffesiynol a myfyriol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer.
O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn datrys problemau cyfreithiol go iawn yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, yn ogystal â pharatoi ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (ACC). Mae’r sgiliau a’r profiad ymarferol y byddwch yn eu datblygu yn golygu y byddwch yn cael eich gwerthfawrogi’n fawr gan gwmnïau cyfreithiol a byddwch yn cael dechrau da fel gweithiwr proffesiynol cyfreithiol iau.
Mae’r llwybr LLM mewn Ymarfer Proffesiynol gydag Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn rhoi’r cyfle i chi baratoi ar gyfer yr SQE1, cael cyflwyniad i sgiliau cyfreithiol SQE2, a chael rhywfaint o Brofiad Gwaith Cymwys (QWE). Yn y broses, byddwch yn ennill cymhwyster LLM a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae'r cwrs hwn yn gyfle i fyfyrwyr sy'n dymuno cychwyn PhD ond nad ydynt yn hollol barod gan adeiladu sylfaen gadarn yn y maes. Bydd myfyrwyr o'r DU a thu hwnt yn gallu manteisio ar brofiad academaidd a phroffesiynol blaenorol o wahanol awdurdodaethau.
Pam PDC?
Mae’r Gyfraith yn PDC ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu (The Times and The Sunday Times Good University Guide 2025)
Pam PDC?
Roedd 93% o fyfyrwyr LLB Y Gyfraith PDC yn fodlon ar eu cwrs. (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)
-
Mae’r Gyfraith yn PDC ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu (The Times and The Sunday Times Good University Guide 2025)
-
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nhrefforest yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.