Cyfreithiau (Cyfraith Fasnachol Ryngwladol)
Mae Cyfreithiau LLM yn cyfuno dyfnder academaidd â dysgu ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer llwyddiant yn y proffesiwn cyfreithiol a thu hwnt.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£11,060*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,229*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Gyda dewis astudio hyblyg, darlithwyr arbenigol, a phrofiad o’r byd go iawn, byddwch yn datblygu gwybodaeth arbenigol a sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr yn y gyfraith, y llywodraeth, busnes, a’r sectorau rhyngwladol.
Wedi’i gynllunio ar gyfer
Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio ym myd y gyfraith neu unigolion sy’n awyddus i adeiladu eu gwybodaeth a mynd â’u gyrfa i gyfeiriad newydd.
Llwybrau gyrfa
- Cyfreithiwr
- Swyddog Rheoleiddio neu Gydymffurfio
- Swyddog Diogelu Data
- Cynghorydd Cyfreithiol
- Symud ymlaen i Gwrs Hyfforddi'r Bar (ar ôl cwblhau cymwysterau ychwanegol)
Sgiliau a ddysgir
- Siarad cyhoeddus
- Ymchwil Gyfreithiol
- Rhwydweithio
- Gofal cleientiaid
- Ysgrifennu proffesiynol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
I gyflawni’r cwrs LLM arbenigol hwn, byddwch yn astudio modiwlau gorfodol sydd wedi’u cynllunio i roi sylfaen gadarn i chi gwblhau eich astudiaethau. Byddwch hefyd yn gallu dewis modiwlau dewisol pellach i ategu eich astudiaethau a’ch diddordebau cyfreithiol.
Modiwlau gorfodol
Sgiliau a Dulliau Cyfreithiol Uwch
Cyfraith Rhwymedigaethau
Traethawd Hir
Modiwlau dewisol
Cyfraith Fasnachol a Gwerthiannau Nwyddau Rhyngwladol
Cyfraith Gorfforaethol a Llywodraethu
Cyfraith Seiber
Cyfraith Busnes a Chystadleuaeth Ryngwladol
Deallusrwydd Artiffisial a'r Gyfraith
Cyfraith Eiddo Deallusol Rhyngwladol
Methodoleg Ymchwil ar gyfer y Gyfraith
* Gall modiwlau dewisol newid yn dibynnu ar ffactorau fel argaeledd staff a meintiau dosbarthiadau. I gadarnhau modiwlau dewisol sy'n cael eu hastudio yn y flwyddyn rydych chi'n ymuno â'r cwrs, cysylltwch â Hannah Menard.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac astudiaeth hunangyfeiriedig. Cyflwynir darlithoedd yn bersonol ac ar-lein, sy’n dod gyda gweithdai sy’n rhoi’r gyfraith mewn cyd-destunau byd go iawn ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau fel dadlau achos a siarad yn gyhoeddus.
Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd - o draethodau ac adroddiadau i gyflwyniadau, posteri, a phrofion yn y dosbarth - fel y gallwch ddangos eich cryfderau mewn ystod o fformatau.
Yn ystod y cam traethawd hir byddwch yn cwblhau traethawd hir 15,000 o eiriau gyda chefnogaeth goruchwyliwr academaidd, a fydd yn eich galluogi i archwilio pwnc o'ch dewis yn fanwl.
Staff addysgu
Mae ein tîm addysgu yn cynnwys cyfreithwyr cymwys sydd â phrofiad proffesiynol ac addysgu helaeth. Maent yn dod â mewnwelediad byd go iawn o ymarfer cyfreithiol, ynghyd ag ystod eang o sgiliau arbenigol. Rydym yn ymfalchïo yn ein polisi drws agored, gan sicrhau eich bod yn derbyn arweiniad a chefnogaeth bersonol drwy gydol eich astudiaethau, yn academaidd ac yn broffesiynol.
Byddwch hefyd yn elwa o gefnogaeth ein llyfrgellydd cyfraith ymroddedig, a all eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil, ennill tystysgrifau ymchwil, a chael mynediad at lyfrau a chyfnodolion allweddol.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Gall myfyrwyr wella eu hastudiaeth trwy wirfoddoli yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol. Gan weithio o dan arweiniad cyfreithwyr ymarferol a darlithwyr profiadol, byddwch yn mynd i’r afael â materion cyfreithiol gwirioneddol y mae cleientiaid yn eu hwynebu. Mae’n gyfle gwerthfawr i ennill profiad ymarferol, meithrin sgiliau proffesiynol, a chryfhau eich CV cyn i chi raddio.
Cyfleusterau
Bydd eich dysgu yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau astudio o’r radd flaenaf, gan gynnwys ystafell llys sydd wedi’i chyfarparu’n llawn â’r cyfleusterau fideo digidol diweddaraf, llyfrgell ymarfer cyfreithiol, ac ystafelloedd addysgu ac ymarferol pwrpasol. Bydd cyfleoedd hefyd i chi roi eich gwybodaeth ar waith drwy ein Clinig Cyngor Cyfreithiol drwy ddarparu cyngor, darparu gofal i gleientiaid ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol cyfreithiol.
Ar wahân i’n cyfleusterau ar y campws, rydym yn trefnu teithiau i lefydd fel y Senedd yng Nghaerdydd a’r Goruchaf Lys yn Llundain. Mae’r profiadau hyn yn rhoi cyfle i chi weld y gyfraith ar waith, dyfnhau eich dealltwriaeth o’r system gyfreithiol, a chysylltu â gweithwyr proffesiynol.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf mewn unrhyw ddisgyblaeth, neu gymhwyster proffesiynol perthnasol fel Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol, ac eraill sy'n cynnwys rhyw elfen o'r gyfraith.
Ar gyfer ymgeiswyr nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol, gellir ystyried profiad proffesiynol perthnasol trwy'r fecanwaith Achredu Dysgu Blaenorol (APL) / Achredu Dysgu Profiadol Blaenorol (APEL) (bydd rheoliadau'r Brifysgol yn berthnasol).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2026 Rhan-amser
- Medi 2027 Rhan-amser
- Chwefror 2027 Llawn Amser
- Medi 2027 Llawn Amser
- Chwefror 2027 Rhan-amser
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.