Gwneud Cais

Derbyniadau Cyd-destunol

Derbyniadau Cyd-destunol yw derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r defnydd o wybodaeth ychwanegol, a ddarperir ar eich cais UCAS, i roi cyd-destun y tu hwnt i’ch graddau a’ch graddau a ragwelir.

Gwneud Cais
A person sat with their laptop in the Newport library talking to other people that are sat with them. You can see the reflections of other people in the screens of their devices.

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad a sicrhau bod y rhai sydd â’r potensial i lwyddo, waeth beth fo’u hamgylchiad, yn cael eu hannog i wneud cais i astudio gyda ni.  Mae’r wybodaeth ychwanegol a geir trwy ddata cyd-destunol yn ein cefnogi i gydnabod cyflawniadau myfyriwr ac yn ein helpu i nodi’r potensial i lwyddo yng nghyd-destun cefndir a phrofiad unigolyn. 

student-25

Astudio cwrs gofal iechyd wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru?

Mewn partneriaeth â chyrsiau comisiynwyr gofal iechyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) Llywodraeth Cymru, bydd gwybodaeth ychwanegol am dderbyniadau cyd-destunol yn cael eu hystyried hefyd ar gyfer ymgeiswyr.


Sut rydym yn defnyddio data cyd-destunol 

Ystyrir pob cais ar sail unigol a bydd y wybodaeth a ddefnyddiwn yn dod o’ch cais UCAS. 

Ystyrir pob cais ar sail unigol .    

Bydd y wybodaeth gyd-destunol ganlynol yn cael ei hystyried: 

  1. Mae’ch cod post mewn Cymdogaeth Cyfraniad Isel

Os ydych chi’n byw ar hyn o bryd mewn cod post a neilltuwyd i gwintel isaf POLAR4, darperir y wybodaeth hon i ni gan UCAS yn eich cais.  Felly rydym yn cydnabod yr ymgeiswyr hynny sydd â sgôr POLAR4 o 1 neu 2 fel y’i cyflenwyd i ni gan UCAS. Gwiriwch yma i weld a yw eich cod post o fewn Cwintel 1 neu 2 POLAR4.   

  1. Y genhedlaeth gyntaf i fynychu Addysg Uwch 

Darperir y wybodaeth hon ar eich cais UCAS, felly mae’n bwysig eich bod yn ymateb yn gywir i’r cwestiwn hwn os mai chi yw’r genhedlaeth gyntaf yn eich teulu i fynychu Addysg Uwch. 

  1. Rydych wedi bod mewn gofal neu wedi derbyn gofal am dri mis neu fwy

Darperir y wybodaeth hon ar eich cais UCAS, felly mae’n bwysig bod y rhai sy’n gadael gofal yn datgan hyn wrth wneud cais. 

Beth mae Prifysgol De Cymru yn ei gynnig i ymgeiswyr sy’n cael eu hadnabod drwy dderbyniadau cyd-destunol? 

Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu hadnabod trwy dderbyniadau cyd-destunol, ac y rhagwelir eu bod yn cwrdd â’r meini prawf mynediad, naill ai’n cael cynnig sy’n is na’r cynnig nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwnnw neu rhoddir ystyriaeth i hyn pan fydd y canlyniadau’n cael eu rhyddhau, a lleoedd yn cael eu cadarnhau. 

Cwestiynau Cyffredin

Yn PDC rydym bob amser wedi ystyried eich cais cyfan wrth wneud a chadarnhau cynigion. Rydym yn ystyried eich datganiad personol, eich geirda a'ch graddau a ragwelir. Mae hyn yn ein helpu i adeiladu darlun o'r math o fyfyriwr y byddwch chi. Mae dull derbyn cyd-destunol yn rhoi gwybodaeth bellach inni y gallwn ei defnyddio wrth wneud neu gadarnhau eich cynnig. Rydym yn edrych y tu hwnt i'ch graddau ac yn gweld y person y tu ôl i'r cais.  

Ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais trwy UCAS, yn ogystal â'ch graddau disgwyliedig, datganiad personol a geirda, byddwn nawr yn ystyried y ffactorau a restrir isod: 

  • os ydych chi'n byw mewn ardal dan anfantais neu mewn ardal â dilyniant is i Addysg Uwch (data POLAR 4). Cesglir y data hwn o godau post cartref yr ymgeisydd. 
  • os ydych chi o fewn cenhedlaeth gyntaf eich teulu agos (rhieni, llys-rieni, gwarcheidwaid) i wneud cais i ymgymryd â chymhwyster Addysg Uwch.  Mae'n bwysig bod y wybodaeth hon yn cael ei chasglu yng nghais UCAS gan mai dyna'r ffynhonnell a ddefnyddir i'w chasglu. 
  • os ydych wedi bod mewn gofal cyhoeddus am dri mis neu fwy. Mae'n bwysig bod y wybodaeth hon yn cael ei chasglu yng nghais UCAS gan fod dau faes yn cael eu defnyddio fel y ffynhonnell i'w chasglu. 

Gan ystyried pob un o'r rhain, efallai y gallwn ystyried gwneud cynnig is i chi neu byddwn yn ystyried y ffactorau hyn pan fyddwn yn derbyn eich graddau terfynol ac yn cadarnhau eich lle. 

Byddwn yn casglu pob ffactor o'ch cais UCAS. Sicrhewch eich bod yn cwblhau'r adrannau hyn yn gywir fel bod gennym y wybodaeth fwyaf cywir ar gael i'w hystyried. 

Gallwch wirio https://www.officeforstudents.org.uk/data-and-analysis/young-participation-by-area/search-by-postcode/ a gweld a yw eich cod post wedi’i gynnwys yng Nghwintel 1 neu Gwintel 2. 

Nagoes. Byddwn yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom o'ch cais UCAS.

Yn PDC rydym yn trin pob ymgeisydd fel unigolyn, felly fe welwch y gall cynigion fod yn wahanol. Os ydych am drafod eich cynnig eich hun, cysylltwch â ni ar [email protected].

E-bostiwch [email protected] gyda manylion pellach a byddwn yn ychwanegu nodyn o'r manylion hyn at eich cais. Rhaid i chi hefyd gysylltu ag UCAS a gofyn iddynt ddiweddaru'ch cais gyda'r wybodaeth goll. Os ydym eisoes wedi gwneud cynnig i chi, byddwn yn ailedrych ar eich cais i wirio bod gennych y cynnig cywir. 

Na. Mae gan rai cyrsiau ofynion gan gyrff proffesiynol ac ni allwn wneud na chadarnhau cynigion sy'n is na'r cynnig safonol. O ganlyniad, mae BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol wedi'i eithrio o'r Polisi hwn. 

Os nodwyd eich bod yn gymwys i gael cynnig cyd-destunol, bydd hyn yn cael ei esbonio’n glir i chi yn yr e-bost cynnig a anfonwyd o PDC. Cadwch lygad ar eich e-byst. 

Ni allwn ond cyflwyno cynigion cyd-destunol i ymgeiswyr UCAS. Dim ond ar gais UCAS y mae'r data sydd ei angen arnom yn cael ei ddal. Os ydych chi'n ymgeisydd cartref ac wedi gwneud cais uniongyrchol i ni am gwrs israddedig amser llawn a bod gennych amgylchiadau sydd wedi effeithio ar eich astudiaethau, cysylltwch â ni ar [email protected] a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu i'ch cefnogi gyda chynnig cyd-destunol. 

Yn gyntaf, gwiriwch nad yw'ch cwrs wedi'i eithrio o'r polisi (gweler pwynt bwled 8 uchod). Os na chaiff eich cwrs ei eithrio, efallai y rhagwelir y byddwch yn cwrdd â brig y band meini prawf mynediad. Os yw hyn yn wir, rydym wedi gwneud y cynnig safonol i chi. Fodd bynnag, pan fyddwch yn derbyn eich canlyniadau, os nad ydych wedi sicrhau'r graddau sy'n ofynnol yna byddwn yn adolygu ac yn blaenoriaethu'ch cais, gan ystyried y data cyd-destunol ar eich cais UCAS. 

Mae'r polisi Derbyniadau Cyd-destunol yn berthnasol i fyfyrwyr cartref yn unig gan ei fod yn seiliedig ar ddata sy’n berthnasol i ymgeiswyr cartref yn unig. 

Mae'r Polisi Derbyniadau Cyd-destunol yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio yn PDC yn unig. Mae gan ein Colegau Partner eu polisïau a'u gweithdrefnau derbyn eu hunain.