Byddwch yn barod am Ddiwrnod Canlyniadau

Cael eich Pecyn Clirio £3K*

Tynnwch y pwysau oddi ar Ddiwrnod Canlyniadau gyda chefnogaeth arbenigol a chymorth ymarferol gwerth hyd at £3,000 i wneud dechrau prifysgol yn fwy fforddiadwy. Mae telerau ac amodau'n berthnasol.

Cael eich Pecyn Clirio Gweld a ydych yn gymwys
Ffotograffydd Myfyrwyr

£1.5K Oddi ar Neuaddau

Arbedwch £1,500 ar ystafell sengl safonol yn Llys Morgannwg pan fyddwch chi'n derbyn eich cynnig ac yn archebu llety Prifysgol cymwys.

Cliniadur am Ddim

Cael gliniadur am ddim pan fyddwch chi'n cofrestru, fel bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch chi i ddechrau arni o'r diwrnod cyntaf.

Ni Sy'n Talu Am Eich Coffi yn y Bore

Mwynhewch £200 i'w wario yng nghaffis a siopau bwyd campws PDC drwy gydol eich blwyddyn gyntaf.


Byddwch yn barod am Ddiwrnod Canlyniadau

Gadewch i ni fod yn onest, gall Diwrnod y Canlyniadau deimlo braidd yn llethol. Rydych chi wedi gwneud cymaint o waith, a chyda phrifysgol ar y gorwel, mae llawer yn dibynnu ar yr hyn y mae'r canlyniadau hynny'n ei ddweud. Mae'n hollol normal teimlo'n bryderus neu'n ansicr ar hyn o bryd. Ond dyma'r peth, does dim rhaid i chi fynd drwyddo ar eich pen eich hun.

Mae cofrestru ar gyfer Pecyn Clirio Prifysgol De Cymru yn rhoi cefnogaeth arbenigol i chi cyn Diwrnod y Canlyniadau, mynediad VIP pan fydd angen i chi siarad â ni, a'r cyfle i sicrhau eich lle yn gynnar os ydych chi'n gymwys i gael cynnig diamod yn seiliedig ar eich graddau rhagfynegol.

Mae hefyd wedi'i gynllunio i wneud dechrau prifysgol yn fwy fforddiadwy. O ostyngiad ar lety a gliniadur am ddim i'ch helpu i astudio, i £200 tuag at fwyd a choffi ar y campws, bydd gennych gefnogaeth ymarferol sy'n eich helpu i ymgartrefu a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig.

 


 

Cofrestrwch i gael ein Pecyn Clirioe

Telerau ac Amodau

Mae’r Pecyn Clirio gwerth 3 mil o bunnau yn cynrychioli uchafswm gwerth cyfunol y cymhellion sydd ar gael. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol. Yn amodol ar delerau ac amodau.

Telerau ac Amodau