Pedwar myfyriwr prifysgol yn cerdded ac yn siarad

Ymgeisio trwy Glirio

Dewch o hyd i'ch cwrs yn Clirio a gwnewch gais i Brifysgol De Cymru heddiw. Ffoniwch neu sgwrsiwch â ni ar-lein.

Ffoniwch ni:
03455 76 06 06

Sicrhewch gynnig ar unwaith i astudio gyda ni ym mis Medi. Sicrhewch eich lle heddiw.

Dod o hyd i gwrs

Gwneud cais

Ffoniwch ni i wneud cais

Mae'r broses glirio yn rhoi cyfle i wneud cais am gwrs israddedig os nad oes gennych chi gynnig gan brifysgol neu goleg ar hyn o bryd, neu os yw canlyniadau eich arholiadau yn wahanol i'ch disgwyliadau. Gallwch gysylltu â ni yn ystod ein horiau agor i gael help a chyngor. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.

Ymgeiswyr newydd

Os hoffech wneud cais i ni drwy broses Glirio'r Brifysgol, ffoniwch ni ar:

DU: 03455 76 06 06
UE: +44 1443 654450

Wedi ymgeisio eisoes

Os ydych eisoes wedi gwneud cais i Brifysgol De Cymru, ffoniwch ni ar:

DU: 03455 654400
EU: +44 1443 654450

Myfyrwyr rhyngwladol

Os ydych chi dramor ac yn galw o rywle heblaw am yr UE neu'r DU, ffoniwch ar:

+44 1443 654450

Siaradwch â ni ar sgwrs fyw

Os hoffech wneud cais nawr trwy'r system Glirio neu sgwrsio am eich opsiynau gydag un o'n cynghorwyr cyfeillgar, ni allai fod yn haws cysylltu â ni.

yn gallu ein ffonio yn ystod ein horiau agor i gael cynnig ar unwaith, neu, os nad yw sgwrsio ar y ffôn yn addas i chi, peidiwch â chynhyrfu. Gallwch gysylltu trwy Sgwrs Fyw.

Ar ochr dde eich sgrin fe welwch farc cwestiwn mewn cylch coch. Cliciwch hwn a dewiswch ‘Sgwrsio â Ni’ i gychwyn arni.


Eich helpu drwy’r broses Glirio

  • Popeth sydd angen i chi ei wybod am Glirio Prifysgol.

  • Mae gennym lawer o opsiynau llety a byddwn yn eich helpu i deimlo'n gartrefol.

  • Mae ein cynigion gwahanol fel arfer mewn pwnc tebyg ac fe'u cynlluniwyd i'ch helpu i ddychwelyd at y trywydd iawn o ran y cwrs gwreiddiol a ddewiswyd.

  • Rydym yma i'ch cefnogi chi a'ch plentyn wrth iddynt ddechrau ar eu pennod addysg uwch.


Diwrnodau Agored

Parents sat with their daughter in front of a large glass window at a USW Open Day.

Rydym yn cynnig rhaglen o ddigwyddiadau Clirio ar-lein ac ar gampws, i'ch helpu i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Gallwch weld ein campysau, siarad â darlithwyr, gofyn cwestiynau ar Instagram a mwy.


Straeon Clirio

Heb gael y graddau?

Yn PDC, rydym yn gweld y person y tu ôl i'r graddau.

Os byddwch ychydig yn siomedig ar ddiwrnod eich canlyniadau, cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau, efallai y synnwch pa ddrysau sydd ar agor i chi.

Mae Omar yn fyfyriwr gwyddoniaeth biofeddygol a oedd yn siomedig gyda'i ganlyniadau ac fe wnaeth ei ysgol ei helpu i fynd trwy'r broses glirio

Cysylltwch â ni i ymgeisio.

Wedi newid eich meddwl?

Mae eich dyfodol yn eich dwylo chi, ac yn PDC, gallwn eich helpu i gyrraedd yno.

Mae Lilli a Matthew ill dau yn fyfyrwyr Ceiropracteg a newidiodd eu meddwl ynghylch  astudio ym Manceinion ac fe ddaethon nhw i PDC trwy wneud cais uniongyrchol drwy’r broses Glirio.

Os byddwch chi’n newid eich meddwl, cysylltwch â'n tîm derbyn cyfeillgar . Rydym yma i'ch helpu i lywio drwy'r broses ymgeisio ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cysylltwch â ni i ymgeisio.

Ymgeisio’n uniongyrchol i PDC

Rydym yn deall y gall bywyd fod yn brysur, nad yw pethau'n digwydd yn ôl y bwriad weithiau, neu mai newydd benderfynu rydych chi mai nawr yw'r amser iawn i ddewis beth i'w wneud nesaf. Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer mis Medi eleni.

Mae Tasha yn fyfyriwr troseddeg 29 oed sydd â dau o blant ac a astudiodd nyrsio yn wreiddiol cyn ymddiddori mewn astudiaethau troseddu.

Penderfynodd wneud cais i PDC drwy’r broses Glirio i newid ei llwybr gyrfa a dilyn rhywbeth y mae'n ei fwynhau.

Cysylltwch â ni i ymgeisio.

Pam PDC?

A group of students happily chatting on the sofas in Treforest Student's Union.
  • Mae PDC yn gartref i gymuned gydweithredol o fyfyrwyr amrywiol a chroesawgar.

  • Wrth astudio yn PDC, cewch gyfle i fwynhau’r gorau sydd gan Dde Cymru i’w gynnig.

Pam PDC?

Mae ein cyrsiau’n cael eu cynllunio gyda chyflogwyr mawr, yn sicrhau bod pob myfyriwr yn graddio gyda'r sgiliau, y profiad a'r hyder sydd eu hangen ar ddiwydiannau yn y dyfodol.

Pam dewis PDC?
  • Mae PDC yn gartref i gymuned gydweithredol o fyfyrwyr amrywiol a chroesawgar.

  • Wrth astudio yn PDC, cewch gyfle i fwynhau’r gorau sydd gan Dde Cymru i’w gynnig.


GALWAIS LINELL GLIRIO PDC AC FE WNAETHON NHW FY RHOI MEWN CYSYLLTIAD AG ARWEINYDD Y CWRS. GES I GYFWELIAD Y PRYNHAWN HWNNW.

Ava Grant

Myfyriwr Gwyddorau Meddygol

CLIRIO OEDD Y BROSES HAWSAF I FI FOD DRWYDDI YN Y BRIFYSGOL. ROEDD YN GYFLYM IAWN, ROEDD YN ANHYGOEL.

Matthew Wray

Myfyriwr Meistr mewn Ceiropracteg

RWY'N FALCH FY MOD WEDI GWNEUD CAIS DRWY’R BROSES GLIRIO YN HYTRACH NAG AROS TAN Y FLWYDDYN NESAF. GALLWCH DDECHRAU EICH GYRFA NAWR!

Tasha Owen

Myfyriwr Troseddeg

Cysylltwch â Ni

@de_cymru