Cyngor Diwrnod Canlyniadau
P’un a oes gennych y graddau sydd eu hangen arnoch i astudio gyda ni, neu os dydych chi heb wneud cais eto ac yn chwilio am gyngor ar ble i ddechrau, mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar beth i’w wneud nesaf.
Cyngor Diwrnod Canlyniadau
Dyma eglurhad cyflym o sut olwg sydd ar Ddiwrnod Canlyniadau Lefel A. P’un a ydych chi’n nôl graddau, yn meddwl am Glirio, neu’n meddwl am eich camau nesaf, mae’r canllaw un funud hwn yn cwmpasu’r wybodaeth hanfodol.
Beth i ddisgwyl
Mae gwneud rhywfaint o ymchwil a chynllunio ymlaen llaw yn ffordd wych o deimlo’n fwy parod ar gyfer unrhyw ganlyniadau rydych yn eu hwynebu ar ddiwrnod canlyniadau, yn enwedig os ydych yn dymuno ystyried cyrsiau eraill trwy’r broses Glirio.
Ystyriwch gymryd ychydig o amser i feddwl am beth y byddech yn ei wneud os bydd eich graddau’n well neu’n waeth nag yr oeddech yn disgwyl. Fel hyn, os ydych eisiau gwneud cais am gwrs gwahanol, bydd gennych syniad yn barod o ble neu beth hoffech ei astudio cyn y diwrnod – gan arbed amser gwerthfawr a llawer o straen.
Efallai yr hoffech wneud rhestr o gyrsiau a sefydliadau sy’n apelio atoch, fel y gallwch weld a oes ganddynt leoedd trwy’r broses Glirio ar y diwrnod yn gyflym. Bydd gan y rhan fwyaf o brifysgolion gyngor Clirio ar gael ar eu gwefannau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar unrhyw wybodaeth sydd ar gael.
Os ydych wedi gwneud cais am brifysgol trwy UCAS, mae ganddyn nhw gyngor gwych ar sut i baratoi ar gyfer diwrnod canlyniadau lefel A, rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu ar y diwrnod.
Croeso i #TeuluPDC! Mae’r holl oriau o astudio’n galed wedi talu ar ei ganfed a gall cam nesaf eich taith ddechrau.
Dyma beth fydd angen i chi ei wneud nesaf:
- Mewngofnodwch i Hwb UCAS, i wirio eich bod wedi cadarnhau eich cynnig.
- Bydd eich gwybodaeth sefydlu a chofrestru yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost, felly peidiwch â phoeni am y rheini am y tro, gwnewch yn siŵr ein bod ni ar eich rhestr anfonwyr diogel.
- Os nad ydych chi wedi gwneud cais am lety eisoes, bydd y tîm llety yn anfon e-bost atoch yn egluro’r camau nesaf.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ni waeth pa mor fawr neu fach, cysylltwch â ni.
Llongyfarchiadau unwaith eto a rhowch ddechrau i’r dathlu!
Os na chawsoch chi’r graddau roeddech yn gobeithio amdanynt, peidiwch â phoeni. Gallwn eich helpu gyda’ch camau nesaf.
Os ydych chi’n dal i obeithio dod i’r brifysgol ym mis Medi, beth am edrych ar ein rhestr o gyrsiau a gweld a oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ystyried ei astudio? Cadwch feddwl agored am gyrsiau eraill, er nad oeddent yn eich dewis cyntaf, dydych chi byth yn gwybod beth y gallech chi ddod o hyd iddo!
Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’n tîm derbyniadau anhygoel cyn gynted ag y byddwch yn barod i gymryd y camau nesaf. Gallant eich helpu gyda chyngor ar gyrsiau i’w hystyried, sut i wneud cais, a lleddfu unrhyw straen arall a allai fod gennych chi am Ddiwrnod Canlyniadau a Chlirio.
Awgrymiadau galwad Clirio