Opsiynau astudio
Gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau pan rydych chi’n bwriadu ehangu eich addysg neu yrfa. Yn PDC mae gennym lu o opsiynau astudio a llwybrau i’ch helpu chi i ehangu eich gorwelion.
Gweld opsiynau
Graddau israddedig yw’r lle i ddechrau os rycyh chi’n bwriadu astudio eich gradd gyntaf. Rydym yn cynnig graddau mewn amrywiaeth o feysydd i’r rhai sy’n awyddus i ddechrau eu taith addysg uwch.
Mae ein graddau ychwanegol yn caniatáu i fyfyrwyr sydd â chymwysterau presennol eisoes, megis HND neu gyfwerth, roi hwb i’w cwrs i gael gradd faglor lawn mewn llai na blwyddyn.
Gallwch ennill wrth ddysgu gydag un o’n graddau prentisiaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i ennill profiad gwaith wrth astudio gradd.
Mynnwch gip ar ein cyrsiau ôl-raddedig os ydych yn awyddus i symud ymlaen yn eich gyrfa, gwella eich sgiliau, ac ennill cymwysterau pellach.
Byddwch yn rhan o ymchwil mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau sydd o fudd i fusnesau yn uniongyrchol, cymunedau a llunwyr polisïau.
Gall cyrsiau DPP iechyd yn PDC sicrhau bod eich sgiliau yn gyfredol, gwella eich dealltwriaeth o bynciau newydd a’ch helpu i symud i feysydd newydd.
Cyrsiau Blwyddyn Sylfaen
Mae blwyddyn sylfaen yn gam perffaith i'r brifysgol. Mae'n darparu sgiliau academaidd hanfodol, gwybodaeth am y pwnc, a hyder i'ch helpu i lwyddo yn eich gradd ddewisol.
Yn ystod blwyddyn sylfaen, byddwch yn ennill dealltwriaeth o'ch maes astudio ac yn datblygu sgiliau academaidd allweddol a hyder sydd eu hangen i symud ymlaen i'r rhaglen radd tair blynedd lawn. Os byddwch yn cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen yn syth i flwyddyn gyntaf gradd mewn pwnc cysylltiedig.
Campysau PDC
Gyda phump o gampysau mewn tri lleoliad, gallwch astudio mewn mannau ysbrydoledig a fydd yn cynnwys addysgu arobryn a llu o gyfleoedd i gael profiad ymarferol, cynnydd academaidd a newid a fydd yn rhoi atgofion am oes i chi.