Dewis y cwrs cywir I chi
Rydych chi wedi penderfynu astudio gradd yn y brifysgol, ond sut allwch chi fynd ati i ddewis y cwrs cywir i chi?
Astudio Gweld cyrsiauMae llawer i feddwl amdano wrth ddewis y gradd gywir i chi, a bydd y cwrs a ddewisoch yn y pen draw yn pennu pa ddyfarniad fyddwch chi’n ei chael ar y diwedd.
O’ch lefel addysg bresennol i’ch meysydd o ddiddordeb, mae rhai ffactorau i’w cadw mewn cof wrth benderfynu ar eich camau nesaf ym maes addysg uwch.
Ry’n ni yma i’ch helpu chi ddeall yr holl fathau gwahanol o gyrsiau sydd ar gael yma yn PDC – beth maen nhw’n ei olygu, y gofynion mynediad sydd eu hangen, a sut byddant yn rhoi hwb i’ch gyrfa yn ogystal â’ch addysg.
Beth yw Gradd Israddedig?
Fel arfer, byddwch yn astudio gradd israddedig os ydych yn bwriadu cyflawni eich cwrs cyntaf mewn addysg uwch. Gradd faglor – sydd hefyd yn cael ei galw’n radd ag Anrhydedd neu radd gyntaf – yw’r math mwyaf cyffredin o gymhwyster israddedig.
Mae graddau Baglor fel arfer yn para rhwng tair a phedair blynedd. Fodd bynnag, nid dyma’r unig opsiwn astudio ar gyfer eich cwrs cyntaf yn y brifysgol, oherwydd gallwch hefyd ddewis astudio Tystysgrif Addysg Uwch neu Dystysgrif Graddedig.
Mae’r gofynion mynediad yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs – mae’r rhan fwyaf o raddau baglor yn gofyn am Lefelau A perthnasol, cymwysterau cyfwerth neu brofiad gwaith perthnasol, fodd bynnag mae llwybrau eraill at astudio gradd israddedig os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf ar hyn o bryd.
Mathau eraill o radd
-
Mae graddau â blwyddyn sylfaen wedi’u dylunio ar gyfer y rhai nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer cwrs penodol. Fel arfer, maen nhw’n para pedair blynedd ar sail amser llawn yn hytrach na thair blynedd, gan fod y flwyddyn gyntaf yn paratoi myfyrwyr nad ydynt yn hollol barod i ddechrau astudio’r radd. Mae’r flwyddyn sylfaen yn arwain yn union at astudio gradd â’r un brifysgol.
-
Cyrsiau baglor yw graddau carlam sy’n dod i ben mewn dwy flynedd yn hytrach na thair blynedd llawn amser. Bydd y radd yn cwmpasu’r un cynnwys, ac fe fyddwch yn cael yr un cymhwyster ag y byddech ar gwrs tair blynedd (ond mae’n golygu trafod rhagor o gynnwys mewn cyfnod byrrach o amser).
-
Bydd graddau ychwanegol yn caniatáu i chi adeiladu ar gymwysterau lefel 5 presennol, megis Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu NVQ Lefel 5, i ennill credydau a graddio gyda gradd faglor lawn. Gallwch fynd yn syth o’ch cymhwyster blaenorol i gymryd saib cyn dechrau ar radd ychwanegol. Y nod yw sicrhau nad oes angen i chi ddechrau o’r dechrau wrth droi’n ôl at addysg, a bod cyfwerth â’r flwyddyn olaf o astudio israddedig.
-
Gradd â blwyddyn ryngosod yw gradd israddedig sy’n cynnwys blwyddyn ychwanegol ar gyfer lleoliad gwaith. Mae’r lleoliad, sydd fel arfer yn cael ei gynnal rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn o astudio, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio yn y diwydiant i gael profiad gwerthfawr yn y maes.
-
Mae gradd feistr integredig yn cyfuno astudio israddedig ac ôl-raddedig ar gyfer pwnc yn un cwrs. Fel arfer, mae graddau meistr integredig yn para am bedair blynedd o astudio llawn amser.
Prentisiaethau gradd
Mae prentisiaethau gradd yn ffordd wych i fyfyrwyr gael profiad mewn diwydiant tra’n gweithio tuag at radd israddedig llawn. Mae cyflogwyr, prifysgolion a chyrff proffesiynol yn dylunio prentisiaethau gradd yn benodol fel bod myfyrwyr a chyflogwyr yn elwa fel ei gilydd. Gall myfyrwyr ennill cyflog isel wrth iddynt ddysgu gyda phrentisiaethau gradd sy’n cyfuno dysgu addysg uwch a phrofiad gwaith bywyd go iawn.
Beth yw Cwrs Ôl-raddedig?
Fel arfer, byddwch yn astudio ar lefel ôl-raddedig os ydych chi’n bwriadu ehangu eich astudiaethau neu ragolygon gyrfa ac yn meddu ar radd faglor. Mae amryw o fathau gwahanol o raddau ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil, sy’n para am gyfnodau amrywiol o amser.
Gradd feistr yw’r cymhwyster ôl-raddedig mwyaf poblogaidd, ac yn aml mae’n cael ei ystyried fel cam rhesymegol ar ôl gradd israddedig. Mae gradd feistr yn para un neu ddwy o flynyddoedd, a gall eich helpu i ddod yn arbenigwr tra’n ehangu eich sgiliau a chyflogadwyedd. Gall arwain at fwy o swyddi arbenigol ac astudio ymhellach fel PhD.
Mae’r gofynion mynediad yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs – er bod y rhan fwyaf o raddau ôl-raddedig yn gofyn am radd israddedig, weithiau bydd ymgeiswyr heb radd yn cael eu hystyried os oes ganddynt brofiad gwaith perthnasol. Mae graddau ôl-raddedig yn opsiwn gwych os ydych yn bwriadu symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mathau o astudio ôl-raddedig
Gradd feistr ôl-raddedig yw gradd Meistr yn y Celfyddydau, neu MA, a all gael ei dyfarnu mewn amrywiaeth o bynciau – o Saesneg a Drama i Hanes a Ffasiwn.
Gradd feistr ôl-raddedig yw gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, neu MSc, a all gael ei dyfarnu mewn amrywiaeth o bynciau STEM – o Fioleg a Chemeg i Seiberddiogelwch a’r Gwyddorau Meddygol.
Gradd ôl-raddedig achrededig a phroffesiynol yw gradd Meistr mewn Peirianneg, neu MEng, sy’n dyfarnu gradd i fyfyrwyr peirianneg mewn amryw o feysydd STEM megis Awyrofod, Cerbydol, Sifil, Trydanol a Mecanyddol.
Mae gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes, neu MBA, yn datblygu sgiliau ar gyfer gyrfaoedd mewn busnes a rheoli. Gellid defnyddio MBAau i agor drysau i’r maes rheoli yn y sector cyhoeddus a phreifat, ac maen nhw’n grymuso unigolion gyda’r sgiliau i ddechrau a rhedeg busnesau eu hunain yn llwyddiannus. Caiff MBAau eu cydnabod yn rhyngwladol, ac fel arfer, mae angen gradd israddedig i gofrestru.
Gradd feistr ôl-raddedig yw Meistr yn y Gyfraith, neu LLM, a all gael ei dyfarnu am astudio meysydd amrywiol o’r gyfraith – o’r gyfraith gyffredinol i gyfraith droseddol neu ymarfer cyfreithiol. Mae’r cyrsiau hyn fel arfer ar gyfer graddedigion yn y gyfraith neu unigolion sy’n gweithio yn y sector cyfreithiol.
Mae Diploma Ôl-raddedig, sydd hefyd yn cael ei alw’n PgDip, yn ddelfrydol os hoffech fwrw ymlaen â’ch astudiaethau israddedig heb ymrwymo i radd feistr lawn. Mae’r diploma cyfwerth â 120 o gredydau, maen nhw’n aml yn alwedigaethol a gallent roi mantais i raddedigion a bod yn addas i waith ar yr un pryd. Gall PgDip arwain at radd feistr lawn.
Mae Tystysgrif Ôl-raddedig, sydd hefyd yn cael ei alw’n PgCert, yn ddelfrydol os hoffech fynd â’ch astudiaethau israddedig ymhellach heb ymrwymo i radd feistr lawn. Maen nhw’n aml yn alwedigaethol, a gwerth 60 o gredydau. Maent yn rhoi mantais i raddedigion ac yn haws eu ffitio o amgylch gwaith. Gall PgCert arwain at PgDip a allai, yn ei dro, arwain at radd feistr lawn.
Doethur mewn Athroniaeth
Gradd ddoethurol yw Doethur mewn Athroniaeth, sydd hefyd yn cael ei alw’n PhD. Maen nhw’n seiliedig ar ymchwil unigol a gwreiddiol sy’n arwain at draethawd ymchwil neu brosiect manwl. Does dim dosbarthiadau, gan fod gradd PhD yn dibynnu ar hunan-astudio ac ymchwil.
Gallwch gyflawni PhD ar sail amser llawn neu ran amser, ar y campws neu o bell yn dibynnu ar natur eich ymchwil. Mae sawl ffordd o gyflawni PhD, yn dibynnu ar eich profiad ymchwil a/neu hanes cyhoeddi hyd yma.
Graddau Galwedigaethol
Dysgu
Drwy wneud gyda pdc
-
Cymhwyster Lefel 4 yw Tystysgrif Cenedlaethol Uwch, sydd hefyd yn cael ei alw’n HNC. Mae’n cymryd blwyddyn ar sail llawn amser i’w gyflawni neu dwy flynedd ar sail rhan amser.
-
Cymhwyster Lefel 5 yw Diploma Cenedlaethol Uwch sy’n cymryd dwy flynedd ar sail llawn amser i’w gyflawni neu bedair blynedd ar sail rhan amser.
Graddau Galwedigaethol
Cymwysterau
galwedigaethol neu ar sail gwaith sy’n darparu sgiliau a gwybodaeth am yrfa neu broffesiwn benodol.
Archwilio cyrsiau gyda PDCCymhwyster Lefel 4 yw Tystysgrif Cenedlaethol Uwch, sydd hefyd yn cael ei alw’n HNC. Mae’n cymryd blwyddyn ar sail llawn amser i’w gyflawni neu dwy flynedd ar sail rhan amser.
Cymhwyster Lefel 5 yw Diploma Cenedlaethol Uwch sy’n cymryd dwy flynedd ar sail llawn amser i’w gyflawni neu bedair blynedd ar sail rhan amser.
Cymwysterau ar gyfer darpar-athrawon
Mae Statws Athro Cymwys, neu QTS, yn gymhwyster gofynnol er mwyn gweithio fel athro yng Nghymru neu Loegr mewn ysgol a gynhelir (cyhoeddus). Er nad oes angen gradd addysgu ffurfiol i gyflawni QTS, bydd angen gradd faglor arnoch yn ogystal ag o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith a gradd 4 neu gyfwerth mewn TGAU Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Os ydych chi’n bodloni safonau’r athro, gellir cwblhau QTS naill ai gyda rhaglen hyfforddiant athrawon neu drwy fynd ar lwybr 12 wythnos asesiad yn unig. Bydd cymhwyso gyda QTS yn eich galluogi chi i addysgu yng Nghymru a Lloegr, fodd bynnag mae’n bosibl y bydd angen cymwysterau ychwanegol i addysgu mewn mannau eraill yn y DU.
Cymhwyster academaidd ôl-raddedig yw Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg, sydd hefyd yn cael ei alw’n PGCE. Rydych chi’n cyflawni’r cymhwyster drwy fynd ar hyfforddiant i athrawon. Does dim angen PGCE arnoch i fod yn athro cymwys yng Nghymru a Lloegr, ond gall ddatblygu gwybodaeth a sgiliau addysgu.
Yn yr un modd â QTS, mae angen i fyfyrwyr sy’n astudio PGCE fod â gradd faglor a bodloni gofynion mynediad eraill.