Amdanom ni

EIN STRWYTHUR

Mae gan y Brifysgol dair cyfadran - y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth; y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol; a'r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg.

Amdanom ni Arweinyddiaeth
an image for the masthead split

Mae gan bob cyfadran nifer o feysydd pwnc sydd wedi’u grwpio yn wahanol ddisgyblaethau ac arbenigedd.

Mae ystod gynhwysfawr o adrannau gwasanaethau proffesiynol, o Gyllid ac Adnoddau Dynol i Yrfaoedd a Gwasanaethau Myfyrwyr, sy’n cefnogi gwaith y cyfadrannau a PDC.

Mae ganddon ni hefyd grwpiau a chanolfannau ymchwil ac arloesi, lle mae ymchwilwyr yn gweithio gyda chyllid a phartneriaid allanol i gyflawni ymchwil gymhwysol a dylanwadol.

Y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth

Mae’r Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth yn cynnwys 8 maes pwnc:

  • Peirianneg Awyrofod a Mecanyddol
  • Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau 
  • Gwyddorau Biolegol a Fforensig
  • Amgylchedd Adeiledig a Pheirianneg Sifil
  • Cyfrifiadureg a Gwyddorau Mathemategol
  • Seiberddiogelwch
  • Gwybodeg ac Electroneg


 Dr Paul Davies yw Deon y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth.

Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael a’r ymchwil a gyflawnir yn y gyfadran.

Y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol

Mae’r Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol yn cynnwys 12 maes pwnc:

  • Cyfrifeg a Chyllid 
  • Rheoli Busnes 
  • Diwylliant ac Animeiddio 
  • Ffasiwn, Marchnata a Ffotograffiaeth
  • Ffilm a Theledu 
  • Gemau a Dylunio 
  • Busnes Byd-eang 
  • Y Gyfraith 
  • Arweinyddiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus 
  • Cerddoriaeth a Drama 
  • Rheoli Gweithrediadau 
  • Datblygiad Proffesiynol 

 

Yr Athro Barry Atkins yw Deon y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol.

Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael a’r ymchwil a gyflawnir yn y gyfadran.

Y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg

Mae’r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg yn cynnwys 14 maes pwnc: 

 

  • Iechyd Perthynol a Cheiropracteg
  • Ymarfer Nyrsio Cymunedol a Phroffesiynol
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Addysg Gychwynnol i Athrawon ac Ymarfer Addysgol
  • Nyrsio (Oedolion)
  • Nyrsio (Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl, Plant)
  • Plismona Gweithredol
  • Plismona a Throseddeg
  • Addysg Ôl-orfodol
  • Dysgu Proffesiynol mewn Addysg
  • Seicoleg 
  • Chwaraeon
  • Astudiaethau Therapiwtig
  • Gwaith Ieuenctid, Cymunedol a Chymdeithasol


Dr James Gravelle yw Deon y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg. 

Edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael a’r ymchwil a gyflawnir yn y gyfadran.

Gwasanaethau Proffesiynol

Mae’r Gofrestrfa Academaidd yn helpu i gynnal uniondeb safonau academaidd y Brifysgol, ac mae’n gyfrifol am reoli’r agweddau gweinyddol ar amser myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru.

O ddatblygiad proffesiynol a Rhwydwaith Cyfnewid PDC i wasanaethau cefnogi digwyddiadau a cynadledda, mae yna nifer o ffyrdd y gall eich sefydliad weithio gyda PDC.

Mae’r Ganolfan ar gyfer Gwella Dysgu ac Addysgu (CELT) yn helpu i gefnogi, datblygu a chydnabod cydweithwyr a myfyrwyr fel datblygwyr, ymarferwyr, ymchwilwyr ac arweinwyr addysgol.

Mae’r Gaplaniaeth yn wasanaeth agored a chynhwysol, sy’n cynnig cymorth cyfrinachol heb feirniadaeth i gefnogi cydweithwyr a myfyrwyr waeth beth fo’u ffydd, diwylliant, rhywedd, neu gyfeiriadedd rhywiol. 

Yr adran Cyfathrebu, Materion Cyhoeddus a Pholisi sy’n cyfleu gweledigaeth, amcanion a llwyddiannau’r Brifysgol, gan wella ein henw da, a hwyluso ymagwedd strategol tuag at weithgareddau ymgysylltu.

Mae'r adran Ystadau a Chyfleusterau yn gofalu am ystâd gyfan PDC, gan gynnwys cyfleustodau, glanhau, diogelwch, parcio, cynnal a chadw, cynaladwyedd a phrosiectau adeiladu mawr.

Y Tîm Gweithredol sy’n gyfrifol am oruchwylio cyfeiriad strategol PDC, yn ogystal â sicrhau arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol mewn perthynas â’r holl weithgareddau academaidd a chymorth.

Yr Adran Gyllid sy’n rheoli holl weithgareddau ariannol y Brifysgol, gan gynnwys cyfrifon, caffael, yswiriant, y gyflogres, a systemau cyllid ac adrodd.

Nod Myfyrwyr y Dyfodol yw darparu marchnata rhagorol, rhaglenni ysgolion a cholegau, allgymorth, a derbyniadau i ysgogi’r gwaith o recriwtio myfyrwyr ar draws y Brifysgol.

Mae’r adran AD yn darparu swyddogaeth AD bwrpasol ar gyfer y Brifysgol, a chytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Merthyr Tudful.

Yn cynnwys Gwasanaethau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd PDC, Gwasanaethau Llyfrgell, Datblygiad Myfyrwyr a Sgiliau Astudio, mae Gwasanaethau Dysgu yn cydweithio i wireddu profiad a darpariaeth dysgu agored, cynhwysol, o safon uchel i fyfyrwyr, graddedigion a staff.

Mae Gwasanaethau TG yn cefnogi swyddogaethau sydd eu hangen ar gydweithwyr a myfyrwyr, gan gynnwys mynediad e-bost a WiFi, offer a meddalwedd cyfrifiadurol, cymorth TG a mwy.

Mae’r tîm yn cefnogi gweithgareddau cynllunio PDC, yn goruchwylio perfformiad ein Ffactorau Llwyddiant Critigol, Perfformiad mewn Tablau Cynghrair, yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a Rhaglen Trawsnewid PDC 2030. Maen nhw hefyd yn gartref i Ymestyn yn Ehangach, sy’n darparu rhaglen Ymestyn yn Ehangach de ddwyrain Cymru fel ei brif sefydliad, gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae RISe yn cefnogi cydweithwyr academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig, gan ganolbwyntio ar effaith ymchwil; cyllid a grantiau; ac Ysgoloriaeth Sgiliau Cyfnewid Gwybodaeth Prifysgol De Cymru (KESS).

Gwasanaethau Myfyrwyr, gan gynnwys yr Ardal Gynghori; Cymorth Digidol; Gwasanaeth Anabledd; Cyngor Dilyniant; Mae Cyngor Ariannol a Lles Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr trwy gydol eu taith PDC.

Mae’r Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol yn darparu cymorth ar gyfer llywodraethu a rheoli Prifysgol De Cymru, yn ogystal â chydgysylltu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a gweithredu a monitro Safonau’r Gymraeg.

Mae RISe yn cefnogi cydweithwyr academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig, gan ganolbwyntio ar effaith ymchwil; cyllid a grantiau; moeseg ac uniondeb ymchwil; datblygiad a diwylliant ymchwilwyr; a chyflwyniad Prifysgol De Cymru i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).

student-25

Arweinyddiaeth

Mae fframwaith rheoli’r Brifysgol yn cynnwys y Tîm Gweithredol, sy’n gyfrifol am reoli’r Brifysgol, a datblygu cynlluniau strategol a gweithredol; Bwrdd y Llywodraethwyr, sy'n gyfrifol am oruchwylio ei weithgareddau addysgol ac ymrwymiad i gynnal ei fusnes mewn ffordd gyfrifol a thryloyw.