Paratoi eich myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch
Mae'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i gynorthwyo myfyrwyr i symud ymlaen i Addysg Uwch, i ddarparu cyngor ac arweiniad ar geisiadau, cyllid myfyrwyr ac opsiynau astudio. Mae'r tîm yn cynrychioli PDC mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd ledled y DU ac Iwerddon, ac yn trefnu ymweliadau ar y campws a diwrnodau agored fel y gall myfyrwyr gael profiad o PDC.
Gellir cyflwyno ein sesiynau ar adeg sy'n addas i'ch myfyrwyr Blwyddyn 12 a 13 (neu fyfyrwyr coleg cyfatebol). Mae ein sesiynau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Ein Canllaw UCAS
Rydyn ni wedi datblygu Canllaw UCAS i gynorthwyo'ch myfyrwyr drwy'r broses ymgeisio UCAS. O waith ymchwil cychwynnol, cwestiynau i'w gofyn ar ddiwrnodau agored, i awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar ysgrifennu datganiad personol, mae'r canllaw’n cynnwys popeth sydd ei angen ar eich myfyrwyr i baratoi ar gyfer eu ceisiadau UCAS.
Lawrlwythwch Pencyn UCASYsgoloriaethau a Bwrsariaethau
Mae gennym ni amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gynorthwyo eich myfyrwyr - mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Gallwch lawrlwytho ein deunyddiau i hyrwyddo ein hysgoloriaethau a'n bwrsariaethau yn eich ysgol neu goleg hefyd.