Ysgolion a Cholegau

Gweithdai Cyngor Prifysgol

Mae tîm Prifysgol De Cymru o arbenigwyr arobryn yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ledled y DU i ddarparu gweithdai rhyngweithiol sydd â'r nod o roi gwybodaeth i fyfyrwyr am addysg uwch, a'u cefnogi wrth iddyn nhw bontio i'r brifysgol.

An academic presents to a lecture theatre full of people

Ein sesiynau

*Dewis poblogaidd

Mae'r gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i baratoi at y dyfodol drwy archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael ar ôl y chweched dosbarth neu’r coleg. Mae'n ystyried y buddion a ddaw o addysg uwch, llwybrau amgen fel Prentisiaethau Gradd a Rhwydwaith75, ac yn darparu cyngor ymarferol ar wneud y dewisiadau cywir, datblygu sgiliau dysgu annibynnol, a gwneud yn fawr o gyfleoedd addysg ôl-16.

Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno dysgwyr i fuddion Rhwydwaith75 a Phrentisiaethau Gradd, ac yn eu helpu i ddeall y gwahaniaethau allweddol rhwng y llwybrau addysg uwch hyn sy’n seiliedig ar waith. Mae'n esbonio'r broses ymgeisio, beth i'w ddisgwyl yn ystod y cyfnod recriwtio a dethol, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar greu ceisiadau cryf, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a deall yr hyn mae prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae'r gweithdy ymarferol hwn yn tywys dysgwyr drwy broses ymgeisio UCAS, o greu cyfrif i gwblhau pob rhan o'r cais. Gellir ei roi ar ffurf cyflwyniad neu, fel sy’n digwydd amlaf, fel sesiwn gam wrth gam ymarferol lle bydd dysgwyr yn cwblhau eu cais gan ddefnyddio cyfrifiaduron eu hysgol neu goleg, neu ar un o'n campysau prifysgol. Trwy helpu dysgwyr drwy'r broses, mae'r gweithdy hwn yn helpu i leihau'r pwysau ar athrawon a chynghorwyr tra'n sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo'n hyderus ac yn barod i gyflwyno cais o ansawdd.

Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn helpu dysgwyr i ysgrifennu datganiad personol UCAS cryf a diddorol. Bydd pob dysgwr yn derbyn ein Llyfryn Canllaw UCAS, y gallan nhw ei ddefnyddio drwy gydol y sesiwn i wneud nodiadau, cwblhau gweithgareddau, a’u helpu i fwrw ymlaen ag ysgrifennu eu cais. Mae'r gweithdy’n trafod fformat newydd UCAS ar gyfer datganiadau personol, am beth mae prifysgolion yn chwilio, a sut y gall dysgwyr gysylltu eu profiadau, eu diddordebau a'u sgiliau yn effeithiol i ddangos eu brwdfrydedd a'u haddasrwydd ar gyfer cwrs neu faes pwnc dewisol.

Mae'r gweithdy hwn yn arfogi dysgwyr gyda'r sgiliau a'r strategaethau sydd eu hangen i baratoi'n effeithiol ar gyfer arholiadau. Mae'n archwilio ystod o dechnegau adolygu, dulliau rheoli amser ymarferol a chynllunio astudio, a ffyrdd o greu arferion astudio iach. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth o straen, yn deall ei effaith yn ystod cyfnodau arholiadau, ac yn darganfod strategaethau llesiant ymarferol i helpu i reoli pwysau, adeiladu gwytnwch, a pherfformio ar eu gorau.

Mae'r gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i ddeall y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer addysg uwch a sut i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ariannu eu hastudiaethau. Mae'n esbonio'r gwahanol fathau o gyllid myfyrwyr, yn amlinellu opsiynau cymhwysedd a chyllid, ac yn archwilio cymorth ariannol ychwanegol, gan gynnwys ysgoloriaethau, bwrsariaethau a bwrsariaethau GIG lle bo'r rheiny’n berthnasol. Mewn partneriaeth â Blackbullion, mae'r gweithdy hefyd yn cyflwyno sgiliau cyllidebu ymarferol, gan helpu dysgwyr i fagu hyder wrth reoli eu harian a pharatoi'n ariannol ar gyfer bywyd prifysgol.

Wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 13 a myfyrwyr cyfatebol mewn colegau sydd eisoes wedi cyflwyno eu cais UCAS, mae'r cyflwyniad rhyngweithiol hwn yn helpu myfyrwyr i lywio'r cyfnod rhwng cael gwybod am benderfyniadau prifysgolion a dechrau addysg uwch. Mae'n ymdrin â phynciau allweddol fel cyllid myfyrwyr, llety, cyllidebu, a pharatoi ar gyfer bywyd myfyrwyr, gan roi'r hyder i ddysgwyr gymryd eu camau nesaf. Gellir teilwra'r sesiwn i roi cyngor ac arweiniad penodol am astudio yn PDC i ddysgwyr sydd eisoes â chynnig gan Brifysgol De Cymru.

Mynd ag Arbenigedd y Brifysgol i'ch Ystafell Ddosbarth

Ysbrydolwch eich myfyrwyr gyda sesiynau pwnc-benodol wedi’u cyflwyno gan ein academyddion arbenigol.

Gall ein hacademyddion ymweld â'ch ysgol neu'ch coleg i gyflwyno gweithdai diddorol, darlithoedd gwadd a sesiynau gwybodaeth â’r nod o gyfoethogi’r cwricwlwm, cefnogi dilyniant i Addysg Uwch, a rhoi cipolwg i fyfyrwyr dros astudio eu pwnc dewisol yn y brifysgol.

Mae sesiynau ar gael yn y meysydd pwnc canlynol:

Addysg ac Addysgu Cwnsela a Seicotherapi Gwasanaethau Cyhoeddus a Phlismona Iechyd Cynghreiriol
Bioleg a Fforensig Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd Nyrsio a Bydwreigiaeth
Busnes Chwaraeon Gwyddor Amgylcheddol Peirianneg
Celf a Dylunio Drama Gwyddor Fferyllol Seicoleg
Ceiropracteg Ffilm a’r Cyfryngau Y Gyfraith Troseddeg
Cemeg Ffotograffiaeth Hanes Technoleg Dylunio
Cerddoriaeth Gwaith Cymdeithasol lechyd a Gofal Cymdeithasol TGCh

 

Trefnu sesiwn

I drafod eich gofynion neu i drefnu sesiwn ar gyfer eich ysgol neu goleg, cysylltwch â [email protected]

Trefnu sesiwn