Astudio

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae cwrs yn PDC yn fwy na gradd. Rydym yn creu graddedigion sy’n barod ar gyfer yfory; pobl sy’n barod i ddatblygu eu gyrfaoedd a sydd â’r meddylfryd i lwyddo.

Astudio
Operating Department Practice students practising technical skills.

Mae cyflogadwyedd mor bwysig fel ein bod wedi’i gynnwys ym mhob un o’n cyrsiau. O brosiectau ar sail arferion gwaith i amser yn y gweithle, byddwn yn eich helpu i adeiladu sgiliau sy’n barod ar gyfer y byd gwaith ac ennill profiad perthnasol i’ch gyrfa.


  • Rydym yn gweithio â chyflogwyr ledled pob sector i gysylltu myfyrwyr â lleoliadau a chyfleoedd i raddedigion. Caiff miloedd o swyddi a lleoliadau eu postio ar ein byrddau swyddi gwag bob blwyddyn, ac mae dros 500 o gyflogwyr yn dod i ymweld â PDC i gwrdd â myfyrwyr yn ein digwyddiadau. 

  • Mae gan PDC dîm penodol i’ch cefnogi chi i ddod o hyd i brofiad gwaith ar sail gyrfaoedd yn y DU a thramor. Mae llawer o wahanol fathau o brofiad gwaith, fel eich bod yn siŵr o ddod o hyd i un sy’n siwtio chi. Mae gan rai o’n cyrsiau ‘flwyddyn ryngosod’ hefyd, sef blwyddyn o brofiad gwaith – y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw gwirio’r opsiynau astudio ger pob cwrs.

  • Mae llawer o gyrsiau yn y Brifysgol wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae hyn yn golygu eu bod o’r radd flaenaf, ac y gallent eich eithrio o arholiadau proffesiynol fel ychwanegiad. Dyma rai o’r achrediadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw: • ACCA • CIPD • RICS • IET • HCPC • APM • ICAEW • IDM • ICE • IOSH


Ennill profiad, magu hyder, a pharatoi ar gyfer yfory

Ewch i wefan Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC

Ewch i wefan Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC

Profiad a lleoliadau gwaith

Lleoliad gwaith yw cyfnod o brofiad gwaith perthnasol dan oruchwyliaeth academaidd, a asesir yn rhan o raglen astudio.  

Mae profiad gwaith yn cynnwys ymgymryd â phrofiad ar sail diwydiant ochr yn ochr ag astudiaethau.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr eisiau recriwtio graddedigion sydd ag ychydig o wybodaeth berthnasol a diweddar am y byd gwaith o ran y diwydiant rydych chi’n bwriadu gweithio ynddo.

 Ystyried eich opsiynau gyrfa 

P’un a oes gennych yrfa dan sylw neu os nad ydych yn siŵr i ble fydd eich gradd yn mynd â chi, mae tîm Gyrfaoedd PDC ar gael i helpu.  

Drwy apwyntiadau un i un a chymorth rheolaidd, gallent eich helpu i archwilio opsiynau gyrfaoedd, nodi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo, dod o hyd i swyddi sy’n addas i’ch cyfres sgiliau a’ch nodau mewn bywyd, a llawer mwy.  

Ysgrifennu CV, cyfweliadau, hyrwyddo eich hun a llawer mwy 

Waeth os ydych chi’n gwneud cais am swyddi, yn chwilio am brofiad, yn mynd i gyfweliadau neu’n rhwydweithio, mae creu argraff gryf a phositif ar y tro cyntaf yn hynod bwysig.  

O CV a llythyrau eglurhaol i gyfweliadau, ceisiadau a mwy, mae gennym yr holl wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i greu effaith bositif, gyda chymorth ar hyd y ffordd.  

student-25

Ydych chi eisiau gweithio’n llawrydd neu ddechrau busnes?

Gall Menter Myfyrwyr eich helpu i archwilio syniadau, dechrau gweithio’n llawrydd neu ddechrau eich busnes eich hun. Gallwn eich helpu bob cam o’r ffordd; o syniad ar bapur i lansiad busnes a thu hwnt!
Rydym yn cynnig cefnogaeth a mentora un i un drwy’r flwyddyn, yn ogystal ag ystod o ddigwyddiadau a gweithdai rhyngweithiol, gan roi’r wybodaeth, yr hyder a’r rhwydweithiau i chi ddechrau gweithio i chi eich hun.


Dechrau Busnes PDC yw’r safle un stop newydd sbon i gael gwybodaeth a gwasanaethau am fenter, entrepreneuriaeth a dechrau eich busnes eich hun.  

Gall Menter Myfyrwyr gynnig cymorth, arweiniad a gweithgarwch i bob myfyriwr a rhai sydd wedi graddio ers hyd at 3 blynedd. Gallwch gael mynediad i gymorth un i un ochr yn ochr â’n gwasanaeth ‘Be My Board’, sy’n fforwm i roi cymorth i ddatrys rhai o’r heriau byddwch chi’n eu hwynebu fel entrepreneur newydd.  

BID (Ffau Syniadau Da ‘Bright Ideas Den’) yw eich cyfle i fidio i gael £1,000 i roi hwb i’ch syniad da. Os oes gennych syniad busnes neu lawrydd yr hoffech roi cynnig arno wrth astudio, neu os ydych wedi penderfynu sefydlu busnes neu weithio’n llawrydd ar ôl graddio, gallai’r cyllid a’r cyngor sydd ar gae yn y Ffau Syniadau Da fod yn berffaith i chi.  

Os oes gennych syniad ac ry’ch chi’n barod i fwrw ymlaen ag ef, mae’r Academi Gweithwyr Llawrydd yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r rhwydwaith i chi i wireddu’ch syniad. Yn ystod y 5 diwrnod dwys, fe fyddwch yn dysgu am agweddau ymarferol ar ddechrau busnes (gan gynnwys marchnata a chyllid) ac yn datblygu sgiliau megis cyflwyno syniadau a rhwydweithio.  

Menter Myfyrwyr

Mae Menter PDC, rhan o Gyrfaoedd PDC, yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau menter, gweithio’n llawrydd, dechrau eu busnes neu fenter gymdeithasol eu hun ac sydd am drafod, datblygu, profi a lansio eu syniadau.

Ewch i wefan Menter Myfyrwyr