Datganiad Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd: Gwefan Prifysgol De Cymru
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.decymru.ac.uk
Prifysgol De Cymru sy'n gyfrifol am y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
- Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae AbilityNet yn darparu cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch mae'r wefan hon
Mae nifer o adrannau i’n gwefan, sy'n cael eu darparu gan wahanol systemau. Rydym wedi casglu’r trafferthion rydym yn ymwybodol ohonynt o dan yr adrannau perthnasol. Gobeithiwn y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Mae gan y brif wefan recriwtio (sy'n dechrau yn www.decymru.ac.uk) y trafferthion canlynol
Rydym yn gwybod bod rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch. Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw drafferthion rydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran cynnwys nad yw'n hygyrch y datganiad hwn.
Fformatau gwahanol
Rydym wedi cynllunio ein cynnwys i fod mor hygyrch â phosibl. Fodd bynnag, os byddwch yn dod ar draws rhwystrau, gallwch ofyn am fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.
Adborth a manylion cyswllt
Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd gan gynnwys:
- Os ydych yn cael trafferth gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
- Os dewch o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn
- Os oes gennych adborth cadarnhaol ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.
Wrth gysylltu â ni, rhowch:
- Gyfeiriad gwe'r dudalen lle daethoch ar draws y broblem.
- Disgrifiad o'r broblem (ac a oedd hyn o ddyfais symudol neu fwrdd gwaith).
- Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe a ddefnyddiwyd.
- Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol a ddefnyddiwyd (er enghraifft, darllenydd sgrin).
E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n ateb gofynion hygyrchedd, e-bostiwch [email protected].
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHA) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni
Sut i gysylltu â ni.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (CHCG) fersiwn 2.2 oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Rydym yn profi hygyrchedd ein gwefan yn ffurfiol yn rheolaidd yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (CHCG) fersiwn 2.2.
Efallai na fydd rhai rhannau o'r wefan yn gweithio i bawb. Isod mae materion hysbys y mae angen i ni naill ai eu trwsio, na allwn eu trwsio, neu nad oes angen i ni eu trwsio ar hyn o bryd. Os dewch o hyd i rywbeth nad yw'n gweithio yr ydym wedi'i golli, cofiwch gysylltu â ni.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Rydym wedi nodi'r hyn rydym yn ei wneud i ddatrys y trafferthion a'r dyddiadau penodedig i ddatrys y materion.
Efallai y bydd angen i ni weithio gyda chyflenwyr trydydd parti i ddatrys rhai problemau.
Prif Wefan y Brifysgol
Pryderon Hygyrchedd Byd-eang:
- Diffygion Testun Amgen: Nid oes gan nifer o ddelweddau ar draws y wefan ddisgrifiadau testun amgen priodol, sy’n rhwystr i ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar raglenni darllen sgrin.
Mae hyn yn methu CHCG 1.1.1 Cynnwys Nad yw'n Destun (A)
Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus. - Mae nifer o'n dolenni'n agor mewn tabiau newydd heb egluro ymddygiad i'r defnyddwyr.
Mae hyn yn methu CHCG 3.2.5 Newid ar Gais (A).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr. - Does dim teitl dilys gan rhai o’n dogfennau PDF.
Mae hyn yn methu CHCG 2.4.2 Tudalen a Enwyd (A)
Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus. - Mae angen tagio rhai o'n dogfennau PDF mewn trefn darllen ddilys ar gyfer hygyrchedd.
Mae hyn yn methu CHCG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A).
Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus. - Weithiau, does dim teitlau hygyrch ar ddogfennau wedi’u mewnblannu (iframe). Mae hyn yn methu CHCG:
Rydym yn gweithio i wella hyn yn barhaus. - Ar draws y wefan mae yna wahanol fethiannau dangosiad ffocws lle nad yw elfennau'n derbyn dangosiad ffocws amlwg, fel rhai rheolaethau rhyngweithiol nad ydynt yn cael eu dewis yn glir, neu ar adegau, lle mae yna eiconau cyfryngau cymdeithasol anweledig sy'n tarfu ar ffocws a’r daith bysellfwrdd.
Methu CHCG 2.4.7 Ffocws Gweladwy (AA).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr.
Materion Hygyrchedd Penodol sy'n Gysylltiedig â Chynnwys:
- Rhyngweithioldeb Cyffwrdd Carwselau: Nid yw carwselau arddangos tystebau wedi'u hoptimeiddio ar gyfer rhyngweithioldeb cyffwrdd ar ddyfeisiau llai, gan eu bod heb y gofod a maint targed cyffwrdd angenrheidiol.
Mae hyn yn methu CHCG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr. - Labelu Llywio Carwselau: Does dim labeli hygyrch ar eiconau llywio o fewn y carwselau tystebau, sy’n golygu nad oes modd eu llywio trwy dechnolegau cynorthwyol.
Mae hyn yn methu CHCG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr. - Delweddau cyfryngau grid: Pan fydd ein gwefan yn cael ei gweld ar sgriniau bach fel ffonau symudol, mae angen i ni sicrhau nad yw tudalennau'n sgrolio mewn dau ddimensiwn. Mae hyn yn methu CHCG 1.4.10 Ail-lif (AA)
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr. - Penawdau Eitemau mewn Llithryddion Digwyddiadau: Mae teitlau wedi’u codio'n amhriodol ar gyfer eu penawdau. Mae hyn yn methu CHCG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A).
Amserlen atgyweirio i’w gadarnhau gyda chyflenwr.
Os dewch o hyd i fater nad ydym wedi ei adnabod eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd a ddisgrifir yn adran 'Adrodd ar broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon' y datganiad hwn.
Gwneir gwelliannau parhaus yn ddeinamig drwy gydol y flwyddyn yn dilyn adborth drwy ein prosesau archwilio parhaus a'n defnyddwyr.
Baich anghymesur
Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar gyfer y wefan hon.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Ein prosesau profi
Profwyd tudalennau a dogfennau o bob rhan o'r wefan yn erbyn CHCG 2.2 AA gan ddefnyddio Axe DevTools Pro fersiwn 4.10.0 a Chrome Lighthouse 12.2.0. Cynhaliwyd y profion ar Mac OSX a Windows o fewn Firefox a Chrome.
Ar gyfer elfennau trydydd parti, rydym wedi cael datganiadau hygyrchedd gan gyflenwyr yn uniongyrchol (lle bynnag y bo modd).
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae Prifysgol De Cymru yn gwneud y canlynol er mwyn gwella hygyrchedd:
- Rydym yn datblygu Polisi Hygyrchedd Digidol
- Mae gennym Weithgor Hygyrchedd Digidol er mwyn monitro a chydlynu Hygyrchedd Digidol ein Gwasanaethau a'n Systemau
- Rydym yn penodi cyflenwyr i gynorthwyo gyda hyfforddiant hygyrchedd
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 01/10/2024.
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 01/10/2024.
Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 28/05/2025.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.
Hygyrchedd Digidol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os ydych chi'n profi unrhyw anhawster, cysylltwch â ni.
[email protected]