Datganiad Hygyrchedd Ardal Gynghori Ar-lein

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r Ardal Gynghori ar-lein, y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer eich holl ymholiadau myfyrwyr.

https://advicezone.southwales.ac.uk/student/home.html?locale=cy 



Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol De Cymru. Darperir y gwasanaeth hwn gan gyflenwr trydydd parti, Target Connect. Ni sy’n ffurfweddu'r gwasanaeth ond nid ni sy’n rheoli’r cod sy’n sail iddo. Mae rhai cyfyngiadau hygyrchedd yn deillio o elfennau trydydd parti a ddefnyddir gan y cyflenwr o fewn y cynnyrch. 

We want as many people as possible to be able to use this website. For example, that means you should be able to:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 200% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais 
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae AbilityNet yn darparu cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch mae'r wefan hon

Rydym yn gwybod bod rhannau o'r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch. Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw drafferthion rydym yn gwybod amdanynt arc hyn o bryd yn adran cynnwys nad yw'n hygyrch y datganiad hwn.

  • Nid yw peth o'r testun ar ein gwefan mor hawdd ei ddarllen ag y gallai fod oherwydd cyferbyniad gwael.
  • Nid oes labeli na thestun defnyddiol ar rai o'n elfennau rhyngweithiol fel ffurflenni a botymau, sy'n eu gwneud yn anoddach i'w defnyddio.
  • Weithiau nid yw strwythur ein tudalen mor eglur ag y dylai fod yn ei gwneud yn anoddach gwneud synnwyr o'r wybodaeth yn seiliedig ar ei strwythur. 

Fformatau gwahanol

Rydym wedi cynllunio ein cynnwys i fod mor hygyrch â phosibl. Fodd bynnag, os byddwch yn dod ar draws rhwystrau, gallwch ofyn am fformatau gwahanol.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.

Adborth a manylion cyswllt  

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Cysylltwch â ni os oes gennych ymholiad hygyrchedd gan gynnwys:

  • Os ydych yn cael trafferth gyda chyrchu gwybodaeth neu ddefnyddio'r wefan
  • Os dewch o hyd i broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y datganiad hwn
  • Os oes gennych adborth ar yr ystyriaethau hygyrchedd a wnaed.

Wrth gysylltu â ni, rhowch:   

  • cyfeiriad gwe (URL) y dudalen lle y daethoch o hyd i'r broblem
  • beth yw'r broblem, ac oeddech chi'n defnyddio dyfais symudol neu bwrdd Gwaith
  • enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe roeddech chi'n ei ddefnyddio
  • unrhyw dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio, er enghraifft darllenydd sgrin

E-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â ni.

Enforcement procedure

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHA) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Os nad ydych chi'n hapus â sut rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (CHCG) fersiwn 2.2  oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

  1. Delweddau heb destun amgen: Mae sawl delwedd heb destun amgen, sy'n hanfodol i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (Cynnwys nad yw'n destun).
  2. Problemau cyferbyniad lliw: Mae gan rai elfennau gyferbyniad lliw annigonol, sy’n eu gwneud yn anodd eu darllen i ddefnyddwyr ag amhariad golwg. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.2 (Lleiafswm Cyferbyniad).
  3. Problemau cyrchu bysellfwrdd: Ni ellir cyrraedd rhai rheolyddion a theclynnau calendr gyda bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.2 (Bysellfwrdd). 
  4. Dangosyddion ffocws: Mae rhai elfennau rhyngweithiol heb gyflwr ffocws gweladwy. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.2 (Ffocws Gweladwy).
  5. Ffurflenni heb labeli clir: Mae rhai meysydd ffurflen heb labeli clir, cysylltiedig. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd), 3.3.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau), a 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth). 
  6. Pwrpas dolen ddim yn glir: Mae rhai dolenni heb deitl ystyrlon pan fyddant yn cael eu darllen allan o'u cyd-destun. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.2 (Diben Dolen).
  7. Teitlau tudalennau: Mae rhai tudalennau heb deitl i adlewyrchu eu cynnwys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.2 WCAG 2.2 (Teitl Tudalen).
  8. Strwythur tirnod: Mae'r prif dirnod ar goll ar rai tudalennau, mae peth cynnwys y tu allan i dirnodau, ac mae tirnodau llywio dyblyg heb labeli unigryw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2  (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).
  9. ARIA a semanteg: Mae'r ddewislen proffil defnyddiwr yn defnyddio "dewislen" rôl ARIA yn anghywir ac yn colli rolau plant angenrheidiol; mae rhai strwythurau rhestr heb fod yn semantig. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (Enw, Rôl, Gwerth) a 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Os dewch o hyd i fater nad ydym wedi ei adnabod eto, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r ffyrdd a ddisgrifir yn adran 'Adrodd ar broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon' y datganiad hwn.

Gwneir gwelliannau parhaus yn ddeinamig drwy gydol y flwyddyn yn dilyn adborth drwy ein prosesau archwilio parhaus a'n defnyddwyr.

Baich anghymesur

Nid ydym yn hawlio baich anghymesur ar gyfer y wefan hon.

European Accessibility Act (EAA)

Er bod y wefan hon wedi'i chynllunio i fodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â Lefel AA WCAG 2.2, rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein cynnwys a'n gwasanaethau yn unol â Deddf Hygyrchedd Ewropeaidd (EAA), a ddaw i rym ar 28 Mehefin 2025.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon dechnegol EN 301 549 v.3.2.1. Gweler yr adran Cynnwys nad yw'n hygyrch am fwy o fanylion.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae Prifysgol De Cymru yn gwneud y canlynol er mwyn gwella hygyrchedd:

  • Rydym yn datblygu Polisi Hygyrchedd Digidol
  • Mae gennym Weithgor Hygyrchedd Digidol er mwyn monitro a chydlynu Hygyrchedd Digidol ein Gwasanaethau a'n Systemau

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Profwyd tudalennau a dogfennau o bob rhan o'r wefan yn erbyn CHCG 2.2 AA gan ddefnyddio Axe DevTools Pro fersiwn 4.10.3 a Chrome Lighthouse 12.8.2. Cynhaliwyd y profion ar Mac OSX a Windows o fewn Firefox a Chrome. NVDA v2025.3.1.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar  20/07/2020.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar  04/02/2025.

Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar  17/02/2025.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol.

Hygyrchedd Digidol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os ydych chi'n profi unrhyw anhawster, cysylltwch â ni.

[email protected]