Amdanom ni
Ein Strategaeth | PDC 2030
Yn PDC, ein gweledigaeth yw newid bywyday a’n byd er gwell. Byddwn yn un o brifysgolion blaenllaw’r du, gan sicrhau’r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl I fyfyrwyr, partneriaid a chymunedau.
Amdanom ni
Yn PDC, rydym yn dal ein gwerthoedd yn agos at ein calonnau. Mae ein cymuned yn broffesiynol, ymatebol, creadigol, ysbrydoledig a cydweithredol.
Ein Pwrpas
Yn PDC, rydym yn:
- Uchelgeisiol ar ran ein myfyrwyr a staff, ac wedi ymrwymo i sicrhau effaith gadarnhaol
- Canolbwyntio ar gynhwysiant, menter a thwf
- Partner dibynadwy er budd a llwyddiant hirdymor i'r ddwy ochr
- Creawdwr arloesol gwybodaeth ac atebion ar gyfer y dyfodol
- Falch o fod wedi ein hangori yn ne Cymru gyda chyrhaeddiad byd-eang.
Ein Huchelgeisiau
Dros y degawd nesaf, ein huchelgeisiau yw:
- Bod yn Brifysgol fawr, ranbarthol gyda chynnig academaidd amser llawn a rhan-amser nodedig sy'n ddeniadol i farchnadoedd cartref a byd-eang
- Darparu profiad rhagorol, cynhwysol, ymgysylltiol i fyfyrwyr
- Sicrhau bod ein myfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus a sicrhau cyflogaeth yn eu meysydd arbenigedd
- Ymgysylltu â phartneriaid i gael yr effaith fwyaf bosibl ar eu hymdrechion
- Ymrwymo i wella llesiant y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn y dyfodol trwy weithredu unigol a chyfunol
- Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ar draws y rhanbarth a thu hwnt i gymryd rhan a symud ymlaen i addysg uwch
- Bod yn gyflogwr ymgysylltiol, seiliedig ar werthoedd
- Bod yn ariannol gynaliadwy yng nghyd-destun amgylchedd addysg uwch deinamig.
Strategaeth 2023 PDC
Ym Mhrifysgol De Cymru, mae ymgysylltu, cydweithio, a gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd y cyfan a wnawn. Rydyn ni’n gweithio i adeiladu dyfodol gwell i'n myfyrwyr, ein partneriaid, a'n cymunedau – yn economaidd, yn gymdeithasol, ac yn ddiwylliannol.