Ein Strategaeth

EIN TRAWSNEWID GWEITHREDOL

Mae ein rhaglen eang o drawsnewid gweithredol yn ein harfogi a’n paratoi i ddarparu dysgu ac addysgu sy’n addas ar gyfer y dyfodol i’n myfyrwyr.

Ein Strategaeth Amdanom ni
three members of university staff having an informal meeting, smiling

Bydd ein prosesau syml, ystâd fodern, a seilwaith digidol uwch yn arwain at amgylcheddau gweithio, dysgu ac addysgu sy’n arwain y sector, wedi’u cyd-greu gyda’n myfyrwyr a’n staff.


Staff â Ffocws, Sy'n Ddawnus ac Uchelgeisiol

Gydag ymdeimlad dwfn o berthyn, ffocws a balchder yn ein gwaith, bydd gennym ddiwylliant ‘un brifysgol’ sy’n seiliedig ar werthoedd.

Bydd gan bob cydweithiwr ethos o welliant parhaus mewn dysgu ac addysgu, gyda staff wedi’u grymuso i arloesi a chydweithio i ddatblygu ein harfer addysgegol arloesol.

Byddwn yn weithlu sy’n perfformio’n dda ac sy’n arloesi’n ddigidol, sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd craidd, ein nodau a’n blaenoriaethau gwaith.

Bydd gennym amgylchedd gweithle cynhwysol sy’n cefnogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydweithredu a llesiant.



Gweithrediadau Ffit-ar-gyfer-y-dyfodol

Byddwn yn atgyfnerthu ein hystâd ac yn gwella ein seilwaith digidol.

Byddwn yn defnyddio mannau hyblyg a thechnolegau newydd i alluogi arferion addysgegol a gwaith arloesol.

Bydd ein gwasanaethau yn effeithlon ac yn arloesol ac yn bodloni anghenion ein myfyrwyr, staff a phartneriaid.

Byddwn yn darparu gwybodaeth fusnes amserol a chyson, gyda fframwaith llywodraethu a rheoli data effeithiol, i lywio a grymuso gwneud penderfyniadau.



Cryfder Ariannol

Bydd ein sefydliad yn raddadwy ac yn gynaliadwy, gyda modelau gweithredol a masnachol sy'n cofleidio ein heffeithlonrwydd a'n heffeithiolrwydd.

Byddwn yn tyfu ac yn amrywio ein hincwm i gynhyrchu gwarged i'w ail-fuddsoddi yn ein pwrpas craidd.