Ein Campysau
Mae ein campysau’n cwmpasu Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Mae lle rydych yn astudio yn dibynnu ar eich cwrs, gyda phob campws yn cynnig profiad unigryw wedi’i adeiladu o amgylch eich pwnc.
Dod o hyd i’ch campws Archebu lle ar ddiwrnod agored
Lle bynnag rydych wedi’i lleoli, byddwch yn rhan o gymuned glos o’r diwrnod cyntaf.
Mae gan bob campws ei gymeriad ei hun, o fwrlwm canol y ddinas i fannau gwyrdd agored, pob un wedi’i gynllunio i gefnogi’r ffordd rydych yn dysgu i gael y gorau o fywyd prifysgol.
Dydych chi ddim wedi’ch cyfyngu i un lleoliad. Mae ein campysau wedi’u cysylltu’n dda, felly mae’n hawdd teithio rhyngddynt a chael mynediad i’n holl fannau cymdeithasol, cyfleusterau chwaraeon, caffis a lleoedd i ymlacio, ochr yn ochr â’r amgylcheddau arbenigol lle mae eich dysgu’n dod yn fyw.
Dod o hyd i’ch campws
Wedi’i leoli ym mhrifddinas Caerdydd, mae Campws Caerdydd yn eich rhoi yng nghanol un o ddinasoedd myfyrwyr mwyaf creadigol a bywiog y DU.
Wedi’i leoli yn nhref Pontypridd, dim ond 20 munud o Gaerdydd, yn cynnig mynediad hawdd i fywyd y ddinas ochr yn ochr â lleoliad mwy hamddenol.
Wedi’i leoli ymhlith bryniau gwyrdd ar lan yr Afon Taf, yn cynnig amgylchedd cefnogol i ganolbwyntio ac ymarfer eich proffesiwn.
Campws chwaraeon pwrpasol gyda chyfleusterau hyfforddi elitaidd a ddefnyddir gan fyfyrwyr, athletwyr a thimau proffesiynol.
Campws glan afon fodern yng nghanol Casnewydd, y ddinas borth i Dde Cymru sy’n llawn egni, syniadau a chyfleoedd.