Campws Glyn-taf
Astudiwch, canolbwyntiwch ac ymarferwch eich proffesiwn yng Nghampws Glyn-taf. Cymuned groesawgar wedi'i lleoli mewn amgylchedd gwyrdd, lle gallwch feithrin sgiliau a thyfu mewn hyder.
Cyfarwyddiadau i'r campws Lawrlwythwch fap o'r campws
Lle i ganolbwyntio, lle i ffynnu
Mae Campws Glyn-taf yn cynnig amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, lle gallwch ymgartrefu a chanolbwyntio ar eich astudiaethau. Mae'n fan lle mae'n hawdd dod o hyd i'ch rhythm, dod i adnabod pobl a theimlo'n rhan o fywyd y campws o'r cychwyn cyntaf.
Wedi'i leoli wrth ymyl Afon Taf ac wedi'i amgylchynu gan fryniau gwyrdd, bydd gennych le i weithio, myfyrio a chael eich cefn atoch rhwng darlithoedd. P'un a ydych chi'n astudio neu'n cymryd seibiant, mae'r lleoliad yn eich helpu i ganolbwyntio ac ymdawelu.
Cymerwch daith rithwir o amgylch y campwsPam Glyn-taf
Cymuned glos
Mae Glyn-taf yn darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle mae'n hawdd gwneud cysylltiadau a theimlo'n rhan o fywyd y campws o'r diwrnod cyntaf.
Lle i ganolbwyntio a chael eich cefn atoch
Mae amgylchoedd gwyrdd, llwybrau glan yr afon a chyflymder arafach yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich astudiaethau a chymryd amser i gael eich gwynt atoch.
Wedi'ch cysylltu â phopeth
Gyda chysylltiadau teithio hawdd, gallwch gael mynediad at fwy o fywyd myfyrwyr, archwilio'r ardal leol a gwneud y gorau o'ch amser yn y brifysgol.
Eich cartref oddi cartref
Ewch i fyw yn agos at y campws mewn llety sy'n addas i'ch ffordd o fyw. Gyda mannau ymarferol i ymlacio, cael eich cefn atoch a chysylltu â myfyrwyr eraill, bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch wrth astudio yng Nglyn-taf.
Archwiliwch y campws
Dewch i gael blas ar fywyd yng Nghampws Glyn-taf cyn i chi gyrraedd.
Ewch ar daith rithwir a gweld y mannau lle byddwch chi'n astudio, yn ymlacio ac yn treulio'ch amser o ddydd i ddydd.
Mae cyrraedd Campws Glyn-taf yn syml. Mae llwybrau clir a gwasanaethau rheolaidd yn ei gwneud hi'n hawdd cyrraedd y campws, p'un a ydych chi'n teithio mewn car neu drên.
Prifysgol De Cymru
Campws Glyn-taf
Cemetery Road
Pontypridd
CF37 4BD
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: +44 (0)345 576 0101
E-bost: [email protected]
Mae Glyn-taf yn hawdd i'w gyrraedd o'r M4 a'r A470.
- Gadewch yr M4 wrth gyffordd 32 ac ymunwch â'r A470 i'r gogledd tuag at Ferthyr Tudful a Phontypridd
- Ar ôl tua 6 milltir, dilynwch yr arwyddion ar gyfer yr A473 a Phrifysgol De Cymru
- Cymerwch yr ail allanfa wrth y gylchfan a throwch i'r dde ar Cemetery Road
- Mae'r brif fynedfa a'r dderbynfa ar eich ochr dde cyn y gylchfan fach.
Cod post ar gyfer y llyw lloeren: CF37 4BD
Mae Glyn-taf o fewn pellter cerdded byr o orsaf drenau Trefforest.
- Mae trenau uniongyrchol yn rhedeg o Gaerdydd Canolog a Heol y Frenhines, Caerdydd
- Mae taith fel arfer tua 20 munud
- Mae'r campws tua 10 munud ar droed o'r orsaf
Mae Campws Glyn-taf yn hygyrch o sawl maes awyr mawr.
- Mae Maes Awyr Caerdydd tua 11 milltir i ffwrdd, gyda chysylltiadau bws a rheilffordd
- Mae Maes Awyr Bryste yn cynnig gwasanaethau rheolaidd ac ychydig dros awr i ffwrdd
- Mae Heathrow Llundain tua 2.5 awr mewn car
Bywyd myfyrwyr a chymorth
Archwiliwch y mannau, y gymuned a'r profiadau sy'n llunio bywyd myfyrwyr yn PDC.
Dysgwch fwy am gostau byw nodweddiadol myfyrwyr a'r cymorth ariannol sydd ar gael.
Sicrhewch y cymorth sydd ei angen arnoch, o les a chyllid i sgiliau astudio a gyrfaoedd.