Telerau ac Amodau Gwefan
Ymwadiad
Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i holl gynnwys y wefan o dan yr enw parth southwales.ac.uk (“y wefan”). Yn y telerau ac amodau hyn, cyfeirir at Brifysgol De Cymru fel (“ni ac ein”) a chyfeirir at ddefnyddwyr a/neu ymwelwyr y wefan fel (“chi a/neu eich”).
Mae Prifysgol De Cymru yng nghanol y De, gyda champysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n colegau partner, ac mae gennym ddau is-gorff sy’n eiddo i ni’n llwyr, sef Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Merthyr Tudful. Nid yw’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i’n colegau partner, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Merthyr Tudful sydd oll â thelerau ac amodau ar gyfer eu gwefannau eu hunain.
Mae ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim.
Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys arno, bob amser ar gael nac yn ddi-dor. Gallwn atal neu dynnu'n ôl neu gyfyngu ar argaeledd y cyfan neu unrhyw ran o'n gwefan am resymau busnes a gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi os caiff y wefan ei hatal neu ei thynnu’n ôl.
Rydych chi hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy'n cyrchu ein gwefan trwy eich cysylltiad rhyngrwyd yn ymwybodol o'r telerau gwasanaeth hyn a thelerau gwasanaeth cymwys eraill, a'u bod yn cydymffurfio â nhw.
Darperir yr wybodaeth ar y wefan hon "fel y mae" heb unrhyw sylwadau neu warantau, datganedig neu goblygedig.Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau mewn perthynas â chywirdeb neu gyflawnrwydd yr wybodaeth a geir ar y wefan hon. Er ein bod yn ymdrechu i gadw'r wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd o unrhyw fath am gyflawnrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd y wefan na'r wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau neu’r graffeg gysylltiedig a gynhwysir ar y wefan at unrhyw ddiben. Eich cyfrifoldeb chi felly yw unrhyw ddibyniaeth a roddwch ar wybodaeth o'r fath.
1. Derbyn telerau
Trwy gyrchu a defnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau canlynol sy'n dod i rym o'r dyddiad y'i defnyddir gyntaf, a chael eich rhwymo ganddynt. Os nad ydych yn cytuno ag unrhyw ran o’r telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon. Mae'r telerau hyn yn rheoli’r defnydd o'n gwefan yn unig ac nid ydynt yn rheoli ein gwasanaethau fel darparwr addysg nac unrhyw berthynas arall lle mae gennych gontract ar wahân gyda ni.
2. Newidiadau i delerau
Rydym yn cadw'r hawl i addasu'r telerau hyn ar unrhyw adeg. Bob tro y byddwch yn dymuno defnyddio ein gwefan, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy'n berthnasol bryd hynny. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu postio ar y dudalen hon, ac mae eich defnydd parhaus o'r wefan yn gyfystyr â derbyn newidiadau o'r fath.
3. Defnydd o'r wefan
Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig ac mewn modd nad yw’n tresmasu ar hawliau, yn cyfyngu nac yn atal unrhyw un arall rhag defnyddio a mwynhau’r wefan. Mae ymddygiad gwaharddedig yn cynnwys torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol cymwys, aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw berson, trosglwyddo cynnwys anweddus neu dramgwyddus, trosglwyddo unrhyw ddata yn fwriadol, anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys firysau, neu darfu ar lif arferol deialog o fewn y wefan.
Gwaherddir defnyddio systemau neu feddalwedd awtomataidd sy'n tynnu data o'n gwefan heb ein caniatâd.
Ac eithrio fel y caniateir at ddibenion academaidd, personol neu anfasnachol eraill, rhaid i ddefnyddwyr beidio â chopïo, ailargraffu neu atgynhyrchu'n electronig o'r wefan unrhyw ddogfen, testun, graffeg neu ddelwedd yn gyfan gwbl neu'n rhannol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Brifysgol De Cymru, neu yn unol â Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Os byddwch yn argraffu, copïo, lawrlwytho, rhannu neu ail-bostio unrhyw ran o'n gwefan gan dorri'r telerau gwasanaeth hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o'r deunyddiau rydych wedi’u gwneud (ac eithrio bod caniatâd i chi argraffu copi o'r telerau gwasanaeth hyn).
4. Eiddo deallusol
Ein heiddo ni neu ein cyflenwyr cynnwys yw’r holl gynnwys ar y wefan hon, gan gynnwys testun, graffeg, logos a delweddau, ac fe’i diogelir gan hawlfraint a chyfreithiau eiddo deallusol eraill. Ni chewch atgynhyrchu, dosbarthu na defnyddio unrhyw gynnwys fel arall heb ganiatâd ysgrifenedig gennym ni ymlaen llaw.
5. Cyfyngiad atebolrwydd
Ni fyddwn mewn unrhyw achos yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o golli data neu elw sy'n deillio o ddefnyddio'r wefan hon, neu sydd mewn cysylltiad â hi.
6. Dolenni i wefannau eraill
Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill nad ydynt o dan ein rheolaeth. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys ac argaeledd y gwefannau hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni yn awgrymu ein bod yn argymell nac yn cefnogi'r safbwyntiau a fynegir ynddynt na'r cynnwys y gallwch ei gael ganddynt.
7. Hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd a’n defnydd o gwcis i’w gweld yn www.southwales.ac.uk/cy/polisi-preifatrwydd
8. Cyfraith llywodraethu
Mae’r telerau ac amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, ac rydych chi’n ymostwng yn ddi-droi'n-ôl i awdurdodaeth unigryw’r llysoedd yn y lleoliad hwnnw.
9. Gwybodaeth gyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y telerau ac amodau hyn, anfonwch e-bost i [email protected].
Os byddwch yn darganfod unrhyw ddeunydd ar ein gwefan:
- y credwch ei fod yn anghyfreithlon,
- y mae ei hawlfraint yn eiddo i chi ac nad ydych yn cydsynio i’w ddefnyddio yn unol â’n telerau ac amodau,
- y credwch ei fod yn anweddus neu'n ddifenwol,
cysylltwch â [email protected] drwy e-bost a rhowch yr wybodaeth ganlynol:
- Eich manylion cyswllt,
- Manylion yr adnodd, gan gynnwys yr URL y canfuwyd y deunydd ynddo,
- Os ydych yn cwyno am dor hawlfraint, nodwch ai chi yw perchennog yr hawliau neu a oes gennych awdurdod i weithredu ar eu rhan,
- Y rheswm dros eich cais/cwyn (e.e., cyfraith hawlfraint, diogelu data, deunyddiau tramgwyddus).
Gweithdrefn ddileu
Ar ôl derbyn cwyn, dilynir y weithdrefn ganlynol o ran hysbysu a dileu:
- Byddwn yn cydnabod bod eich cwyn wedi dod i law trwy e-bost.
- Byddwn yn cynnal asesiad cychwynnol o ddilysrwydd y gŵyn.
- Os bydd angen, byddwn yn ceisio cyngor cyfreithiol pellach gan ein tîm cyfreithiol.
- Os bydd y gŵyn yn cael ei chefnogi, byddwn yn dileu'r deunydd dan sylw o’n gwefan.
Byddwn yn ysgrifennu at yr achwynydd trwy e-bost i gadarnhau ein camau.