Meysydd Ymchwil
Rydym yn gwneud amrywiaeth eang o waith ymchwil sydd ar flaen y gad yn y byd, a hwnnw’n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas ac ar yr economi, fel y dangoswyd yn ein cyflwyniad i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau'r Fframwaith 2021
Mae ein meysydd ymchwil
Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder
Nod y Cyflymydd Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder yw cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch, heddlua a'r system cyfiawnder troseddol yn fyd-eang. Mae PDC yn rhagori yn y gwaith o fynd i'r afael â heriau go iawn y byd ac addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i wneud ein bywydau'n fwy diogel.
Ein pwrpas yw datblygu sefydliadau a llywio polisi ac ymarfer trwy ein hymchwil amlddisgyblaethol ragorol yn rhyngwladol mewn meysydd sy’n cynnwys heddlua, cyfiawnder ieuenctid, camddefnyddio sylweddau, terfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberddiogelwch, lladdiadau a thrais, gwyddoniaeth fforensig, a pholisi cymdeithasol.
Iechyd a Llesiant
Mae’r Brifysgol wedi darparu addysg iechyd a gofal, ac addysg gysylltiedig ers degawdau. Yn unol â hynny, mae ganddi gyfoeth o brofiad ac arbenigedd, ac mae wedi’i rhwydweithio’n wych, ar draws ecosystem addysg iechyd a darparu gofal iechyd Cymru.
Mae ein harbenigedd ymchwil mewn anhwylderau datblygiadol, anableddau deallusol, seicoleg wybyddol, a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn helpu i fynd i'r afael ag ystod eang o faterion yn ymwneud â heneiddio'n iach, hybu iechyd y boblogaeth, a lleihau bylchau yn ansawdd y gofal a brofir gan grwpiau agored i niwed.
Rydym yn sicrhau bod ein haddysgu a’n dysgu yn seiliedig ar ymchwil, ac mewn rhai achosion, yn cael eu harwain gan ymchwil, gan sicrhau bod ein graddedigion yn derbyn gwybodaeth a sgiliau cyfoes, yn barod i gyfrannu at ein cymdeithas a’n heconomi.
Arloesedd Creadigol
Mae'r Cyflymydd Arloesedd Creadigol yn gweithio i greu ymyriadau creadigol ac uchel eu heffaith sy'n helpu ein budd-ddeiliaid, ein partneriaid a'n cymunedau, trwy ddefnyddio creadigrwydd ac arloesedd i gynorthwyo trawsnewid busnes a sector. Gan weithio gyda’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol i gyd, byddwn yn manteisio’n llawn ar arbenigedd o bob rhan o PDC er mwyn arloesi a darparu atebion i heriau sy'n wynebu'r llu o bartneriaid a diwydiannau rydym yn gweithio gyda nhw.
O gefnogi ecosystem arloesi ar gyfer piblinell o gynnyrch a gwasanaethau’r cyfryngau newydd, i ddatblygu cwricwla ac Academi Trawsnewid Digidol Dysgu Dwys a fydd yn helpu arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon i gleifion, mae ein harbenigwyr ar flaen y gad o ran arloesi a datrys roblemau’n greadigol.
Amgylchedd Cynaliadwy
Rydym yn helpu i greu byd mwy diogel a chynaliadwy gyda'n hymchwil amlddisgyblaethol arloesol mewn hydrogen, ecoleg, datgarboneiddio diwydiannol, treulio anaerobig, a systemau pŵer datblygedig. Mewn partneriaeth â chwmnïau lleol a byd-eang, rydym yn gweithio i gyflawni'r allbwn mewn ffyrdd sydd o fudd i'r brifysgol ac i'r gymuned ehangach.
Mae ein harbenigwyr, sy'n arwain y byd yn eu meysydd, yn defnyddio eu hymchwil arloesol i ddatblygu cwricwlwm sy'n helpu ein myfyrwyr i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r byd, nawr ac yn y dyfodol.
Mae ein Grwpiau Ymchwil ac Arloesi
Mae ein Grwpiau Ymchwil ac Arloesi yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, ac o bob sector, i ddatblygu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy'n datrys problemau penodol. Rydym yn darparu atebion i'r gymdeithas a'r economi, gan gefnogi ein cymunedau lleol a rhyngwladol. Rydym yn helpu llunwyr polisi i gasglu tystiolaeth i ddeall anghenion a phrofiadau’r sector neu’r diwydiant i lywio atebion yn well.GANOLFANNAU A GRWPIAU
Mae gennym ni hefyd Ganolfannau a Grwpiau Ymchwil sy'n gweithio'n strategol gyda phartneriaid i gynhyrchu incwm ymchwil ac ymgymryd â phrosiectau ymchwil ac arloesi sy'n mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Mae'r rhain wedi'u halinio â Grwpiau Ymchwil ac Arloesi.
Archwiliwr Ymchwil
Dewch o hyd i wybodaeth am ein hymchwilwyr academaidd ac ôl-raddedig, gweithgaredd ymchwil, ac allbynnau ymchwil. Mae'n darparu rhyngwyneb hygyrch i'r cyhoedd, y gellir ei chwilio'n llawn a'i lywio, gyda gwybodaeth wedi'i dynnu'n uniongyrchol o System Rheoli Ymchwil y Brifysgol sef ‘Pure’.