Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

Bwriad strategol WIHSC yw bod yn rhan allweddol o'r gwaith o lywio a dylanwadu ar weithredu gwasanaethau iechyd a gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar draws y sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol.

Grŵp Ymchwil ac Arloesi Iechyd, Gofal a Lles
A landscape view of Glyntaff Campus behind flowers

Ers 1995, mae Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) wedi bodoli i bontio bylchau rhwng y byd academaidd, polisi ac ymarfer.

Mae gan WIHSC enw da yn genedlaethol am effaith fel sefydliad ymchwil polisi iechyd a gofal blaenllaw, sy'n seiliedig ar blatfform hunangyllidol cadarn sy'n deillio o ddarparu ymchwil academaidd, gwerthuso ac ymgynghoriaeth ragorol.

Mae gan WIHSC y meysydd blaenoriaeth canlynol sy'n adlewyrchu ein cryfderau ymchwil presennol a'n dyheadau ar gyfer meysydd gwaith a dylanwad newydd.

  • Integreiddio Iechyd a Gofal 
    Dadansoddi’r dulliau y mae’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector annibynnol wedi’u halinio’n gynyddol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal. Daw tystiolaeth o hyn o'n gwaith i ddeall effaith 'Cronfa Integreiddio Rhanbarthol' (RIF) Llywodraeth Cymru. Mae WIHSC yn arwain y Gwerthusiad Cenedlaethol o RIF sef rhaglen flynyddol gwerth £150 miliwn i helpu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal. Rydym wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau hyd yn hyn (Gwerthusiad o Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Chwefror 2023 i Hydref 2024 | LLYW.CYMRU) a'r trosolwg mwyaf defnyddiol o'r gwaith a gyhoeddwyd ar ddiwedd Blwyddyn 1 yw hwn: O theori i ymarfer: cysyniadoli egwyddorion arweiniol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol [HTML] | LLYW.CYMRU.

  • Gwerthusiad polisi sy'n canolbwyntio ar egwyddorion
    Mae myfyrio ar y newidiadau dyheadol mewn gwasanaethau cyhoeddus a ddaeth yn sgil ymgorffori egwyddorion mewn deddfwriaeth wedi bod yn nodwedd o'r blynyddoedd diwethaf. Arweiniodd ein gwaith i werthuso rôl egwyddorion mewn deddfwriaeth at ein gwerthusiad cenedlaethol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Roedd y gwerthusiad yn cynnwys gwahanol gamau, a phob un ohonynt yn arwain at wahanol fathau o dystiolaeth a lywiodd yr adroddiad terfynol. Gwnaeth yr adroddiad argymhellion i'r sector gofal cymdeithasol bwrw ymlaen â nhw.

  • Modelau gofal arloesol  
    Darparu sail tystiolaeth a fydd yn sail i ddulliau newydd o 'gyflawni’ – boed yn llwybrau newydd, timau newydd, technoleg newydd neu bartneriaethau newydd – gyda'r dulliau hyn yn gwella canlyniadau.  
     
    Mae gwaith diweddar yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar yr arloesedd gwasanaeth a gynhyrchwyd gan y tro at bresgripsiynu cymdeithasol i gefnogi pobl mewn cymunedau i gyflawni canlyniadau lles. Ein cydweithiwr, yr Athro Carolyn Wallace, yw Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) ac mae staff o WIHSC wedi cefnogi datblygiad sylfaen dystiolaeth i ategu dulliau newydd, a ddatblygir yn aml gan y sector gwirfoddol.

  • Ymchwil i Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
    Mae Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn fater iechyd cyhoeddus, gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol a hawliau dynol mawr ledled y DU a ledled y byd. Mae mynd i'r afael â phob math o VAWDASV yn flaenoriaeth i lywodraethau'r DU a llywodraethau datganoledig e.e. Deddf VAWDASV Cymru (2015), Deddf DA (2021), Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022-26.

    Cyd-sefydlwyd Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru gan Dr Sarah Wallace a'r Athro Emily Underwood-Lee, a nhw'n dwy sydd hefyd yn ei gyd-arwain. Nod y Rhwydwaith yw bod yn gymuned ymchwil gynhwysol i Gymru sy'n darparu fforwm diogel ac agored i ddod â'r rhai sy'n gweithio tuag at roi terfyn ar VAWDASV ynghyd i osod yr agenda ymchwil ar gyfer y dyfodol, meithrin cydweithio a datblygu ceisiadau am grantiau, ymgymryd ag ymchwil o ansawdd uchel a gweithio tuag at ddileu VAWDASV.  

    Mae mwy na 200 o aelodau yn cynrychioli dros 90 o sefydliadau gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth, gwasanaethau arbenigol VAWDASV, cyfiawnder troseddol, addysg a'r byd academaidd – yn bennaf ledled Cymru, ond gyda chynrychiolaeth gynyddol o bob cwr o'r DU. Mae prosiectau gweithredol yn cynnwys:  

 


PROSIECTAU YMCHWIL

Nod y Fframwaith Aml-Broffesiynol yw cefnogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau cymunedol cydgysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth, trwy fodel gofal aml-broffesiynol sy'n seiliedig ar le. Mae cydweithio trwy systemau gofal sy'n seiliedig ar le yn cynnig y cyfle gorau i ddiwallu anghenion cyfannol unigolion a'r boblogaeth leol. Bydd hyn yn herio rhai o'r ffiniau traddodiadol rhwng proffesiynau a rhwng gwasanaethau.  

Datblygwyd y Fframwaith Aml-broffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig mewn partneriaeth â'r Athro Mark Llewellyn a'r Athro Carolyn Wallace gan gydweithio'n agos â chydweithwyr o'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, rhan o Weithrediaeth GIG Cymru. Fe wnaethon ni helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth o amgylch y gwaith hwn - trwy adolygiad cwmpasu o'r llenyddiaeth ac ymarfer adeiladu consensws ar-lein - cyn ymchwil weithredu gydweithredol gydag ymarferwyr i gyd-ddylunio'r Matrics Datblygu, sef offeryn hunanasesu sy'n caniatáu i ymarferwyr leoli eu lle mewn matrics sy'n disgrifio 'sut olwg sydd ar dda'. Yn ogystal â'r offeryn, cynhyrchwyd cyfres o adnoddau wedi'u recordio i gefnogi'r dasg o roi'r dull ar waith: (2062)Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Aml-Broffesiynol - YouTube. 

Ariannwyd yr ymchwil gan Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Fe'i cynhaliwyd gan WIHSC mewn partneriaeth â'r Ganolfan Effeithiolrwydd Elusennol yn Ysgol Fusnes Bayes. Ffocws yr ymchwil oedd gwirfoddoli mewn cartrefi gofal preswyl i gefnogi pobl hŷn yng Nghymru.

Canfu'r adroddiad fod cartrefi gofal yn gwerthfawrogi'r rolau y mae gwirfoddolwyr yn eu chwarae yn eu lleoliadau. Yn aml, mae'r rolau hyn yn canolbwyntio ar dreulio amser o safon gyda phreswylwyr mewn ffordd nad yw bob amser yn bosibl i staff cyflogedig. Mae gwirfoddolwyr yn gwella gofal cymdeithasol trwy gynyddu ystod a dyfnder y berthnasoedd sydd ar gael i breswylwyr, yn ogystal ag ehangu ystod y gweithgareddau y gallant gymryd rhan ynddynt. Gwelsom fod rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr yn barhaus yn cymryd cryn dipyn o amser, egni a sgiliau. Nid oedd gan sawl cartref gofal a oedd yn rhan o'r ymchwil y capasiti na'r adnoddau i wneud hyn mor effeithiol ag y byddent yn hoffi. 

Cafodd y prosiect gorffenedig hwn ei amlygu gan Rwydwaith Arloesi Cymru (RhAC) fel prosiect rhagorol a gwahoddwyd Dr Sarah Wallace i'r Senedd ar gyfer lansiad eu hadroddiad effaith. Dilynodd gwahoddiad pellach i fod yn rhan o symposiwm yn trafod y prosiect hwn a’i ganfyddiadau gan RhAC a Chydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan.

Comisiynwyd WIHSC gan Lywodraeth Cymru i gwblhau adolygiad tystiolaeth o amrywiad o ran telerau ac amodau contractau cyflogaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn dangos bod rhywfaint o dystiolaeth o amrywiad mewn cyflogau ac amodau o fewn a rhwng pob un o'r sectorau gofal cymdeithasol a rhyngddynt hwy a'r GIG. 

Cefnogwyd yr ymchwil gan nifer o randdeiliaid allweddol a weithredodd fel grŵp cyfeirio ar gyfer y prosiect. Roedd y rhanddeiliaid yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Fforwm Gofal Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Gofal Cymdeithasol Cymru, ADSS Cymru, UNSAIN Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru, Uwch Reolwyr Adnoddau Dynol ALlau, Uwch Weithlu'r GIG a Rheoli Datblygu Sefydliadol.  

Comisiynodd Llywodraeth Cymru bartneriaeth o academyddion ar draws pedair prifysgol yng Nghymru i ddarparu gwerthusiad o'r Ddeddf. Cynhaliwyd y gwerthusiad cenedlaethol hwn – astudiaeth IMPACT– o fis Tachwedd 2019 hyd fis Hydref 2022. Arweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Mark Llewellyn, cyfarwyddwr WHISC yn PDC. Mae Adroddiad Terfynol ar ein gwaith (ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar ffurf crynodeb ac ar gael mewn fformat Hawdd i’w Ddarllen) wedi’i gyhoeddi erbyn hyn.

Dyfarnwyd contract gwerth mwy na £1m i WIHSC i arwain gwerthusiad o Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, gwerth £146 miliwn.

Mae RIF yn rhaglen ariannu pum mlynedd gyda'r nod o  sefydlu a phrif ffrydio chwe model cenedlaethol newydd o ofal integredig  i gyflawni gweledigaeth 'Cymru Iachach: cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol'. Mae darparu gofal integredig, lle mae sefydliadau a gweithwyr gofal proffesiynol wedi'u halinio, yn hanfodol i wella canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.  

EIN PARTNERIAID

Rydym yn cydweithio'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda phartneriaid o ddiwydiant a'r byd academaidd i ddarparu gwybodaeth ac effaith o'r radd flaenaf, ac mae gennym berthnasoedd cryf ag amrywiaeth o randdeiliaid/defnyddwyr ymchwil allweddol.

Mae gan WIHSC hanes rhagorol o ymgysylltu a gweithio'n agos gyda'r GIG, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, y trydydd sector a phartneriaid allanol eraill, gan gynnwys:

  • Llywodraeth Cymru  
  • Gofal Cymdeithasol Cymru  
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru  
  • Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru  
  • Gweithrediaeth GIG Cymru  
  • Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol  
  • Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

O safbwynt VAWDASV, mae gan y rhwydwaith dros 200 o aelodau sy'n cynrychioli dros 90 o sefydliadau – fel yr adlewyrchir ar ein gwefan yma – https://vawdasv.wales/aelodau/. Yn benodol mae gennym berthnasoedd cryf â'r canlynol:

  • Bawso  
  • Calan DVS  
  • Uned Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru  
  • Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu - De Cymru  
  • Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu - Gwent  
  • Tîm VAWDASV Llywodraeth Cymru

PRIME PDC

Canolfan PRIME Cymru

Mae Canolfan PRIME Cymru yn ganolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar  ofal sylfaenol a gofal brys, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru  er mwyn datblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr. Nod Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru) yw gwella iechyd a lles drwy gynnal ymchwil o ansawdd uchel ar bynciau sy'n flaenoriaeth polisi cenedlaethol mewn gofal sylfaenol a gofal brys a sicrhau bod canfyddiadau'n cael eu trosi'n bolisi ac yn ymarfer. Mae'n ganolfan i Gymru gyfan a arweinir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe. Arweinir PRIME PDC gan yr Athro Carolyn Wallace ac mae'n rhan o faes ymchwil WP4 Gofal yn nes at Gymunedau.  

EIN TÎM

Mae WIHSC wedi datblygu arbenigedd mewn ymchwil gymhwysol a methodoleg werthuso ac mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddarparu sylfaen dystiolaeth y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch polisi ac ymarfer ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector arni.

Mae Alka Ahuja MBE yn Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac yn arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Canolfan Gofal â Galluogi Technoleg Llywodraeth Cymru. Hi yw Cadeirydd etholedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych) yng Nghymru ac mae wedi dal nifer o rolau yn flaenorol yng Nghyngor Datganoledig RCPsych Cymru, gan gynnwys Cadeirydd Cyfadran Plant a Phobl Ifanc a Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Hi hefyd oedd is-gadeirydd cyfadran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion tan yn ddiweddar.

Mae Alka yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymunodd â Phrifysgol De Cymru fel Cymrawd Gwadd yn 2006 ac mae bellach yn Athro Gwadd ers 2014.

Mae ei diddordebau'n cynnwys ymchwil ansoddol, anhwylderau niwroddatblygiadol a chyd-gynhyrchu mewn gofal iechyd ac iechyd digidol. Mae hi wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i'r GIG yn ystod y pandemig.

Yn y gorffennol, mae hi wedi gwneud ei hyfforddiant seiciatreg yn India ac wedi gweithio fel darlithydd ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Mumbai. Mae ei hymchwil a'i hysgrifennu ar faterion seicogymdeithasol ymhlith plant stryd yn India wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

Mae gan Jeremy gysylltiad hirdymor â PDC, gan fod yn Gysylltydd cyntaf WIHSC ym 1993. Mae Jeremy wedi gweithio ers dros 20 mlynedd yn y sector cyhoeddus, yn bennaf ym maes iechyd, mewn rolau a oedd yn amrywio o reoli ysbytai i gynllunio strategol ar gyfer GIG Cymru. Rhoddodd hyn fewnwelediad dwfn iddo i sut mae'r sector cyhoeddus yn gweithio a'r heriau y mae rheolwyr ar bob lefel yn eu hwynebu. Yn ogystal, treuliodd Jeremy 19 mlynedd yn y sector preifat ledled y DU ac Ewrop mewn rolau a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â gofal iechyd. Rhoddodd y profiad hwn bersbectif ehangach i Jeremy ar ddarparu gwasanaethau gan roi cipolwg amhrisiadwy ar sut y gall gwahanol sectorau gydweithio. Mae gan Jeremy brofiad yn y sector academaidd hefyd, fel darlithydd ac arholwr allanol. Yn fwy diweddar, mae wedi gweithio mewn partneriaeth â'r byd academaidd mewn prosiectau ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiant fferyllol. Mae hefyd yn cyflwyno darlithoedd i PDC.

Mae gan Tony bron i 40 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol, yn gyntaf gyda chyn Awdurdod Addysg Sir Forgannwg cyn symud i Wasanaethau Cymdeithasol gyda Chyngor Sir Forgannwg Ganol. Daeth yn gyfarwyddwr gyda Phen-y-bont ar Ogwr ym 1999 lle rheolodd yr ystod lawn o wasanaethau gofal cymdeithasol a thai. Roedd yn gyfrifol am arwain rhaglen drawsnewid y Cyngor.

Mae Tony yn gyn-gynghorydd polisi i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol a diogelwch cymunedol ac roedd yn llefarydd ar faterion y gweithlu ar gyfer ADSS Cymru. O ganlyniad i'w sgiliau cyfathrebu, roedd yn aml yn gwneud sylwadau ar faterion gofal cymdeithasol ar y radio, y teledu a chyfnodolion cenedlaethol. Chwaraeodd ran bwysig hefyd wrth ymateb i'r cyhoeddusrwydd byd-eang a ddeilliodd o farwolaethau cynamserol nifer o bobl ifanc yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn 2008.

Mae wedi bod yn aelod o nifer o gyrff cenedlaethol, gan gynnwys Cyngor Gofal Cymru lle bu’n cadeirio Pwyllgor Datblygu’r Gweithlu. Roedd yn Aelod o Fwrdd Cynghrair y DU (Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Gofal a Datblygu). Yn fwyaf diweddar roedd yn aelod o Banel Cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau ac mae wedi ymarfer fel hyfforddwr gweithredol a mentor.

Mae uchafbwyntiau gyrfa Tony yn cynnwys arwain yn llwyddiannus y trosglwyddiad stoc tai gwirfoddol ar raddfa lawn cyntaf yng Nghymru a bod yn awdur 'Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru: Proffesiwn i'w Werthfawrogi', prosiect ymchwil mawr ar recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol a ddaeth i gael ei alw'n gyffredinol yn 'Adroddiad Garthwaite'. Yn ddiweddar, cynhyrchodd ganllawiau newydd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar gydweithio a llywodraethu mewn gwasanaethau cymdeithasol.   

Mae Marcus Longley yn Athro Emeritws Polisi Iechyd Cymhwysol ym Mhrifysgol De Cymru. Cafodd ei addysg ym mhrifysgolion Rhydychen, Caerdydd a Bryste, a gweithiodd yn y GIG am 14 mlynedd, mewn amrywiaeth o swyddi rheoli a chynllunio ac am ddwy flynedd gyda Fforwm Cynllunio Iechyd Cymru, cyn ymuno â PDC ym 1995. Mae ei ddiddordebau cyfredol yn cynnwys ymglymiad y cyhoedd a chleientiaid/cleifion wrth lunio polisi a darparu gwasanaethau; gweithio integredig ar draws gwasanaethau cyhoeddus; a nifer o agweddau ar ailddylunio gwasanaethau.

Mae wedi arwain nifer o astudiaethau o wahanol agweddau ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys adolygiadau diweddar o Gynghorau Iechyd Cymunedol yng Nghymru, a darpariaeth gofal iechyd ar draws cefn gwlad Canolbarth Cymru. Mae wedi bod yn Ymgynghorydd Arbenigol i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi gwasanaethu fel Ymgynghorydd i Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr am flynyddoedd lawer ac roedd yn aelod o Fwrdd Hunanofal Llywodraeth Cymru. Fe’i etholwyd yn Gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd Colegau Brenhinol y Meddygon yn 2008. Mae wedi bod yn aelod o Gomisiwn Bevan, y corff sy’n cynghori’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ac mae bellach yn gwasanaethu fel Ymgynghorydd Arbenigol. Mae hefyd yn Bartner Arweiniol i Gymru, Arsyllfa Ewropeaidd ar Systemau a Pholisïau Iechyd/Cronfa’r Brenin. Yn 2013 fe’i penodwyd yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac mae hefyd bellach yn gwasanaethu fel Aelod Annibynnol ar Gyd-bwyllgor Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Mae gyrfa Margaret mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi ymestyn dros lywodraeth leol a chenedlaethol. Gan ddechrau mewn gwasanaethau preswyl i blant, mae ganddi brofiad sylweddol o bolisi ac arweinyddiaeth ar draws ystod o rolau mewn polisi cyhoeddus yn enwedig mewn gofal cymdeithasol gan gynnwys datblygu a hyfforddi staff, gwella gwasanaethau a rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau. Mae ganddi brofiad o ddatblygu polisi a deddfwriaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a'i weithrediad strategol a gweithredol trwy bartneriaeth a chydgynhyrchu gydag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'u gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys arwain y rhaglen weithredu ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae Margaret yn cadeirio Panel Cynghori Oedolion Comisiynydd Plant Cymru ac mae'n aelod o Fwrdd Gofal a Chymorth Pobl.

Hyfforddodd Jonathan yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, gan gymhwyso ym 1979. Ar ôl blwyddyn fel Uwch-swyddog Preswyl  ymchwil mewn meddygaeth geriatreg, symudodd i Ferthyr Tudful yng Nghymoedd De Cymru i hyfforddi ar gyfer Ymarfer Cyffredinol. Roedd yn Feddyg Teulu ym Merthyr o 1984 i 2015 pan ymddeolodd o waith clinigol gweithredol.

Mae wedi bod yn Gadeirydd Grŵp Archwilio Gofal Sylfaenol Bro Taf ers ei sefydlu ym 1996. Roedd yn Uwch Ymgynghorydd Clinigol ar gyfer Ansawdd Gofal Sylfaenol, is-adran Iechyd Cyhoeddus Cymru o 2000 i 2016 yn cynghori'r Llywodraeth ynghylch perfformiad a Mesurau Canlyniad. Mae wedi bod yn Athro Allanol Gofal Sylfaenol yn Ysgol y Gwyddorau Gofal, Prifysgol De Cymru ers mis Hydref 1997 ac mae wedi gweithio gyda  WIHSC  ar nifer o brosiectau.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys iselder ôl-enedigol, ansawdd ac effeithiolrwydd clinigol (gyda chyfeiriad arbennig at glefyd y siwgr a chlefyd coronaidd y galon), strategaethau datblygu gofal sylfaenol (yn enwedig mewn cymunedau sy'n profi amddifadedd economaidd-gymdeithasol), yr ymgynghoriad fel profiad trawsddiwylliannol a dysgu amlddisgyblaethol mewn gofal sylfaenol.

Treuliodd Morton Warner hanner cyntaf ei fywyd proffesiynol hyd at 1983 yng Nghanada lle bu'n Gyfarwyddwr y Rhaglen Graddedig mewn Cynllunio Gwasanaethau Iechyd ym Mhrifysgol British Columbia. Ar ôl hyn bu gydag United Medical Enterprises yn y DU, a Sefydliad Iechyd y Byd yn Swyddfa Ranbarthol y Caribî.

Yna bu Morton yn gweithio yn y  GIG  o 1987 ac roedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol Fforwm Cynllunio Iechyd Cymru o 1989 hyd 1995, pan gafodd ei benodi i Brifysgol Morganwg yn Gyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru hyd at fis Ebrill 2008 pan ymddeolodd.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys: datblygu sefydliadau a rhwydweithiau rhithwir mewn gwasanaethau iechyd a chymdeithasol fel cymorth i integreiddio gwasanaethau; cynyddu effeithiolrwydd wrth gysylltu polisi ag ymarfer; ac astudiaeth systematig o amnewid ym meysydd technoleg, y gweithlu a lleoliad gofal fel mecanwaith ar gyfer hyrwyddo effeithlonrwydd wrth gyflwyno.

Mae ganddo PhD mewn Cymdeithaseg Feddygol o Brifysgol Cymru ac mae'n Gymrawd Cyfadran Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae wedi awduro neu gyd-awduro wyth llyfr a dros gant o bapurau. 

Mae Richard Williams yn cyfarwyddo'r Prosiect Seicogymdeithasol ac Iechyd Meddwl ar gyfer Cyfadran Gofal Cyn-Ysbyty Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin. Bu'n seiciatrydd plant a phobl ifanc am 38 mlynedd cyn ymddeol o'r GIG. Diddordeb Richard yw gwydnwch seigoymdeithasol. Arweiniodd dîm rhyngwladol o olygyddion i gyhoeddi'r llyfr Social Scaffolding ym mis Gorffennaf 2019. Mae ei ymchwil gyfredol yn ymwneud â gofalu'n well am staff gwasanaethau gofal iechyd. Mae'n aelod o'r tîm sy'n ymchwilio i effeithiau hirdymor bomio Manceinion yn 2017. Mae'n cynghori llywodraethau a sefydliadau proffesiynol ar reoli agweddau seigoymdeithasol argyfyngau, trychinebau a digwyddiadau mawr ac yn addysgu myfyrwyr ôl-raddedig.

RYDW I WEDI MWYNHAU FY MHROFIAD O GWBLHAU FY PHD TRWY BORTFFOLIO YN FAWR IAWN. MAE TÎM PDC WEDI BOD YN HYNOD GEFNOGOL DRWY GYDOL Y BROSES.

Paul Twose

PhD yn ôl Portffolio

Ein Myfyrwyr Ymchwil

Gareth Cooke, PhD (Portffolio)
Gwyddoniaeth Weithredu Comisiynu a Gweithredu Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Leanne Hadley, PhD 
Beth sy'n bwysig i mi pan fyddaf yn talu am ofal? Astudiaeth Dementia Madeline.

Katrina Whale, PhD 
Camfanteisio Troseddol ar Blant - Archwiliad o brofiadau'r System Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer Dioddefwr Camfanteisio Troseddol ar Blant.

Paul Twose, PhD (Portffolio) 
Rôl, staffio ac effaith gweithwyr proffesiynol therapi sy'n gweithio mewn gofal critigol.

Xela Dafauce Bouzo, PhD (Portffolio) 
Archwilio Methodoleg Realistig ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd a Chynnwys Rhanddeiliaid mewn Gwneud Penderfyniadau Iechyd a Llywodraeth Leol

Jonathan Prescott, MRes 
Tuag at berthnasoedd agos a theuluol iach: 'beth sy'n bwysig' a lles ymhlith oedolion a gofalwyr sy'n derbyn gofal.

Diana Fologea, PhD 
Rhaglen Ysbrydoliaeth Teuluoedd: Gwerthusiad o'r Prosiect Peilot a Gynhaliwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i Gefnogi Teuluoedd yr Effeithir arnynt gan Drais Domestig sydd wedi Dewis Aros Gyda'i Gilydd.

Maria Rogers, MPhil / PhD 
Ymchwilio i Gelfyddyd ar Bresgripsiwn yng Nghymru: Sut i Gyflawni Ffactorau Llwyddiant Hanfodol ar gyfer Cynaliadwyedd.

Judith Radford, MPhil / PhD 
Archwiliad o hunaniaeth ar wydnwch a phrofiad myfyrwyr mewn myfyrwyr nyrsio oedolion israddedig.

Samantha Pywell, PhD (Portffolio) 
Addysgu cynhwysol ac effeithiol o ragnodi cymdeithasol mewn addysg uwch: cyd-gynhyrchu cwricwla.

Amrit Takhar, DPsych Seicoleg Cwnsela  
Archwilio profiadau cynhwysiant cymdeithasol Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid (ASR) yng Nghymru, a'r rhwystrau iddo: astudiaeth dull cymysg.

ASTUDIWCH GYDA NI

Cwrs Adrodd Straeon Digidol

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn cynorthwyo pobl i gyfleu eu stori neu eu profiadau trwy gyfrwng adrodd storïau digidol.

Bydd y cwrs yn cynnwys y wybodaeth ymarferol sydd ei hangen i greu stori gan ddefnyddio meddalwedd golygu sain a fideo elfennol, ynghyd â'r sgiliau meddal sydd eu hangen i gofnodi storïau ar sail un-i-un.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y myfyrwyr wedi cael profiad o greu stori ddigidol o'r dechrau i'r diwedd, wedi creu stori ddigidol amdanyn nhw eu hunain, ac wedi dysgu am arferion da wrth ddefnyddio storïau, sut i strwythuro a chyflwyno storïau effeithiol, ac ystyriaethau moesegol a llywodraethu ynghylch defnyddio storïau o fewn sefydliadau.

Mae'r pynciau'n cynnwys:

  • Beth yw stori
  • Pam mae storïau’n gweithio
  • Beth yw stori ddigidol
  • Gwrando
  • Myfyrio fel proses
  • Recordio a golygu sain
  • Deall pwysigrwydd delweddau
  • Creu storïau digidol gan ddefnyddio sain a lluniau
  • Ystyriaethau ynghylch gweithio gydag eraill
  • Pwysigrwydd cydsyniad
  • Moeseg adrodd storïau

Byddai'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn adrodd storïau ar gyfer newid, cyfathrebu neu ymchwil.

Archebwch eich lle

Astudiaeth ôl-raddedig

Rydym yn croesawu ceisiadau i ddilyn astudiaethau PhD neu Feistr drwy Ymchwil yn un o'n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol a bod gennych ymchwil ar y gweill eisoes, gallai PhD drwy Bortffolio fod yn addas i chi.   

Mae tîm goruchwylio yn cael ei neilltuo i ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil doethuriaeth, yn eich cynghori ar greu rhwydweithiau a sefydlu eich gyrfa.

Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

Ffioedd Dysgu

Ffioedd a chyllid i ôl-raddedigion

Meddwl gwneud cais?

Ysgol i Raddedigion