WYTH FFORDD Y BYDDWCH CHI’N ELWA O YMCHWIL PRIFYSGOL
Meysydd Ymchwil PDC Graddau ymchwil ôl-raddedigWrth i chi edrych ar brifysgolion, efallai i chi sylwi bod rhai sefydliadau yn dweud eu bod nhw’n ‘weithgar yn y byd ymchwil’ ond beth yw ystyr hynny i chi fel myfyriwr israddedig, neu hyd yn oed fyfyriwr ôl-raddedig, ac a yw hynny’n bwysig go iawn?
Sut rydym wedi elwa
Yn y drydedd flwyddyn, cawson ni ein cyflwyno i waith ymchwil yr Athro Damian Bailey ym maes ffisioleg ar uchder uchel. Roedd hi’n gyffrous dysgu’n uniongyrchol gan yr union academydd a oedd yn gwneud y gwaith ymchwil, ac roedd hynny hefyd yn fuddiol ac yn ddifyr dros ben. Roedd modd i mi weld ei ganfyddiadau diweddaraf yn uniongyrchol, ac fe fûm mewn tiwtorialau am y cyfarpar arbenigol a ddefnyddiwyd yn y gwaith ymchwil. Fe wnaeth hynny gyfoethogi fy mhrofiad dysgu’n fawr. Fe elwais i hefyd o gael gwybodaeth o lygad y ffynnon am feysydd nad ydyn nhw’n cael sylw mewn cyhoeddiadau ymchwil, fel yr heriau ymarferol neu foesegol sydd ynghlwm wrth wneud gwaith ymchwil. Helpodd hyn fi i ddatblygu fy sgiliau ymchwil, ac heb amheuaeth fe daniodd fy niddordeb mewn gwneud gradd ymchwil ôl-raddedig. - Benjamin, a raddiodd mewn BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a myfyriwr PhD
Mae bod yn rhan o waith ymchwil mewn prifysgol wedi fy ngalluogi i feithrin sgiliau cyflogadwyedd, datblygu ffordd ymchwilgar o feddwl, a dod yn ymchwilydd hyderus, annibynnol. Rwyf wedi cael pwnc ymchwil i edrych arno sy’n rhan o waith y grŵp Cemeg (strwythurau gwifrau moleciwlaidd, sydd hefyd yn cael eu galw yn sypynnau moleciwlaidd). Rwy’n defnyddio hyn yn sail i fy nhraethawd hir. Rwyf hefyd wedi gallu defnyddio’r cyfleusterau ymchwil i ymarfer y technegau rwyf wedi dysgu amdanyn nhw yn yr ystafell ddosbarth – y cyfan o dan arweiniad ymchwilwyr cyhoeddedig sy’n gwybod beth yw beth. – Arfon, myfyriwr BSc (Anrh) Cemeg
Mae pob daearegwr wrth ei fodd yn baeddu’i ddwylo, felly fe achubais i’n syth bin ar y cyfle i fod yn rhan o brosiect ymchwil geowyddoniaeth am effaith y newid yn yr hinsawdd ar dirlithriadau yng Nghymru. Roedd yn brofiad hynod o werthfawr wrth fy helpu i feddwl am bethau a mynd atyn nhw mewn ffordd well. Fe ges i brofiad o ddefnyddio dronau i dynnu lluniau 3D o dirlithriadau, gan elwa’n fawr o arweiniad a safonau uchel yr ymchwilwyr. Ar ôl cael y profiad hwn, roedd gen i’n sicr fantais gystadleuol mewn cyfweliadau am swyddi. Mae fy nghyflogwr presennol yn gwneud gwaith tebyg, ac roedd yn gwerthfawrogi’n fawr fy mhrofiad ymarferol yn y maes hwn. – Harry, a raddiodd mewn MSc Gwyddoniaeth Maes Gymhwysol Uwch
Mae gwaith ymchwil yn rhan ganolog o’n hyfforddiant nyrsio, ac rydym i gyd yn dysgu am ymchwil anableddau dysgu PDC, gan gynnwys sut mae’r gwaith yn cael ei wneud, pam ei fod yn cael ei wneud, a pha mor bwysig yw’r gwaith hwn. Fe ges i gyfle i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil a wnaeth PDC i ddatblygu proffil iechyd ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu. A minnau’n siarad Cymraeg, fe helpais i hwyluso grwpiau ffocws yn y gogledd. Mae bod yn rhan o waith ymchwil yn ystod fy astudiaethau wedi meithrin fy hyder a gwella fy ngallu. O ganlyniad, wrth i mi bontio i fod yn nyrs gofrestredig, fe alla’ i wneud fy ngwaith ymchwil fy hun yn hyderus er mwyn casglu tystiolaeth a gwella ymarfer. - Megan Ware, myfyriwr BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu)