Dyniaethau
gydnabyddedig yn rhyngwladol, sy’n cael effaith, cyfoethogi gwybodaeth ac yn effeithio cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang yn gadarnhaol.
Mae ein gwaith yn dylanwadu ar addysg, cadwraeth ddiwylliannol, llunio polisïau a’r celfyddydau, gan gryfhau dealltwriaeth gymdeithasol a meithrin arloesedd.
ARBENIGEDD AC AELODAU
Mae ein hymchwil blaengar yn cyfoethogi gwybodaeth ac yn effeithio ar gymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang yn gadarnhaol, gan ddylanwadu ar addysg, cadwraeth ddiwylliannol, llunio polisïau a’r celfyddydau.
Mae ein hymchwil yn cwmpasu sawl disgyblaeth, gan gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL), Hanes, Astudiaethau Rhywedd ac Astudiaethau Bwdhaidd.
EFFAITH
Mae ein hymchwil wedi llunio polisi Llywodraeth Cymru mewn meysydd allweddol fel dad-drefedigaethu gwybodaeth hanesyddol a hyrwyddo addysg Saesneg ar gyfer mudwyr gorfodol. Drwy archwilio arferion crefyddol Cymru ganoloesol, rydym wedi dylanwadu ar fentrau sy’n hyrwyddo twristiaeth ffydd a diogelu treftadaeth ddiwylliannol Cymru.
- Mae 79% o allbynnau ymchwil Saesneg yn flaengar neu’n rhagorol yn rhyngwladol
- Mae 50% o effaith ymchwil Saesneg yn flaengar
- Mae 78% o allbynnau ymchwil Hanes yn flaengar neu’n rhagorol yn rhyngwladol
- Mae 100% o effaith ymchwil Hanes yn flaengar neu’n rhagorol yn rhyngwladol
Cyflawniadau
PROSIECTAU ALLWEDDOL
Hanes Llafar Cyn-filwyr Prawf Niwclear Prydain
Mae ‘Hanes Llafar Cyn-filwyr Prawf Niwclear Prydain’ yn defnyddio dull hanes bywyd i recordio cyfweliadau â phersonél y llu awyr, y fyddin, sifiliaid a’r llynges a wasanaethodd mewn treialon niwclear Prydain yn y 1950au a’r 60au.Ffeministiaeth yn Ne Cymru, 1970 -1999: O’r Mudiad Rhyddhad Menywod i’r Cynulliad Cenedlaethol
O’r grwpiau bach o fenywod, heb adnoddau ac oedd i weld i fod yn anghyson a ddaeth i’r amlwg yn y 1970au cynnar, tyfodd mudiad cydlynol a gynhaliodd ymgyrchoedd amrywiol a gwnaeth gynnydd amlwg wrth wella cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Mae stori ffeministiaeth yn Ne Cymru yn y cyfnod hwn yn un nodedig, ond yn anhysbys i raddau helaeth.Archwilio Cynrychioliadau o’r Meddwl, yr Ymennydd ac Iechyd Meddwl
Mae’r prosiect hwn yn ymgynnull ymchwilwyr mewn seiciatreg, niwroleg a hanes i archwilio cynrychioliadau o’r meddwl, yr ymennydd ac iechyd meddwl drwy gydol hanes tua 1500 hyd heddiw.CYDWEITHREDIADAU A PHARTNERIAETHAU
Rydym yn cydweithio â sefydliadau diwylliannol enwog, amgueddfeydd, cymdeithasau hanesyddol, cyhoeddwyr, a rhwydweithiau academaidd i ehangu effaith ein hymchwil. Mae’r partneriaethau hyn â Llywodraeth Cymru, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac eraill yn ein galluogi i gryfhau cadwraeth ddiwylliannol a gyrru arloesedd yn y dyniaethau.
Mae cydweithio ag ymarferwyr creadigol, fel awduron, artistiaid gweledol a thecstilau, a cherddorion, hefyd yn ganolog i’n gwaith, gan alluogi dulliau arloesol o ymdrin â materion cymdeithasol a diwylliannol.
Mae gan y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd bartneriaeth hirhoedlog ag Archif Menywod Cymru, sy’n noddi Darlith Goffa Ursula Masson flynyddol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, gan hyrwyddo astudiaethau rhywedd a hanes menywod Cymru.
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Cymru
- Eisteddfod Genedlaethol
- Swyddfa Materion Cyn-filwyr (o fewn Swyddfa Gabinet y DU)
- Llywodraeth Cymru
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru
- Archif Menywod Cymru
- Cymdeithas Llên Saesneg Cymru
Gweithio gyda ni
Rydym yn croesawu cydweithio â phartneriaid diwydiant, llywodraeth, academaidd, elusennau, a chyrff anllywodraethol i yrru arloesedd ac ymdrin â heriau’r byd go iawn. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn cyd-ddatblygu atebion, archwilio cyfleoedd ariannu, neu i bartneru ar brosiectau ymchwil, rydym yn agored i drafod sut y gallwn gydweithio i gyflawni canlyniadau effeithiol.
I ddysgu mwy neu i drafod cydweithrediadau posibl, cysylltwch â’r Athro Diana Wallace ar [email protected].
YMCHWIL ÔL-RADDEDIG
P'un a ydych chi'n dilyn PhD, MPhil, neu Radd Meistr trwy Ymchwil, byddwch chi'n cael eich tywys gan arbenigwyr angerddol a blaenllaw, gan wneud effaith gadarnhaol ar unigolion, cymunedau, elusennau, busnesau a llywodraethau ledled y byd. Rydym yn croesawu ceisiadau o'r DU a rhyngwladol am raddau ymchwil. Astudiwch yn llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell, yn dibynnu ar eich ardal. Gall gweithwyr proffesiynol sydd â chorff gwaith presennol hefyd fod yn gymwys ar gyfer PhD trwy Bortffolio.
Mae ein myfyrwyr ymchwil yn rhan annatod o'n tîm. Maent yn elwa o gyfleusterau ymchwil rhagorol, ardaloedd astudio pwrpasol, a chyfleoedd i gyflwyno eu gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
Addysgu sy’n seiliedig ar ymchwil
Mae ein hymchwil yn llunio cynnwys modiwlau israddedig ac ôl-raddedig mewn Hanes a Saesneg, gan roi cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â dadleuon academaidd cyfredol a safbwyntiau ffres. Wedi’u haddysgu gan yr ymchwilwyr eu hunain, mae myfyrwyr yn elwa o ddysgu’n uniongyrchol gan y rhai sydd ar flaen y gad yn eu meysydd.
Graddau Ymchwil Ôl-raddedigHanes
Mae rôl yr Athro Cyswllt Chris Hill fel Prif Ymchwilydd ar y prosiect a ariannwyd gan Swyddfa Gabinet y DU, ‘Hanes Llafar Cyn-filwyr Prawf Niwclear Prydain’, wedi trawsnewid profiad y myfyrwyr yn y modiwl Hanes y Rhyfel Oer. Trwy’r prosiect hwn, rydym wedi gwahodd cysylltiadau, fel ymgyrchwyr blaenllaw, myfyriwr PhD o Hiroshima, a chyn-filwyr prawf lleol o Dde Cymru, i siarad yn ein hystafell ddosbarth. Mae myfyrwyr wedi cael y cyfle i wrando ar yr arbenigwyr hyn a dysgu ganddynt. Maent hefyd yn ymgysylltu ag adnoddau a gynhyrchwyd gan yr ymchwilwyr, gan gynnwys 40 o hanesion bywyd sy’n cynnig potensial cyfoethog ar gyfer archwilio hanes gwleidyddol, cymdeithasol a milwrol. Mae’r cyfweliadau hyn yn annog myfyrwyr i ystyried nid yn unig tystiolaeth llafar a gwybodaeth hanesyddol ond hefyd ei rôl mewn hawliadau cyfreithiol ac ymholiadau cyhoeddus. Ymhell y tu hwnt i ddysgu o ymchwil arloesol yn unig, mae myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, gan ei lunio a’i lywio. Er enghraifft, fe wnaethant ddarparu adborth gwerthfawr i’r gwneuthurwyr ffilmiau yn ystod dangosiadau peilot o ffilmiau’r prosiect.
Saesneg
Mae Llenyddiaeth Gothig: Dyheadau Tywyll yn fodiwl trawsddisgyblaethol arloesol sy’n tynnu ar arbenigedd ymchwil y beirniad llenyddol yr Athro Diana Wallace a’r awdur creadigol Barrie Llewelyn. Mae’r Athro Wallace wedi cyhoeddi’n helaeth ar y Gothig, gan gynnwys ei hastudiaeth Female Gothic Histories: Gender, History and the Gothic (2013) sy’n olrhain traddodiad ffuglen hanesyddol Gothig gan awduron benywaidd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd heddiw. Mae Barrie Llewelyn yn awdur straeon byrion sydd â phrofiad helaeth o ddefnyddio ysgrifennu creadigol yn yr ystafell ddosbarth a’r gymuned i hwyluso meddwl creadigol, sgiliau iaith a lles.
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddarllen a dadansoddi detholiad o destunau Gothig – gan gynnwys straeon ysbryd, ffuglen fampirod a bleidd-ddynion, Frankenstein Mary Shelley, a Sing, Unburied, Sing Jesmyn Ward. Mae myfyrwyr yn defnyddio’r ymgysylltiad testunol hwn fel man cychwyn ar gyfer ymarferion ysgrifennu creadigol a gweithdai er mwyn archwilio themâu Gothig a chonfensiynau naratif yn ymarferol. Yna gallant gynhyrchu gwaith beirniadol a chreadigol ar gyfer asesiadau, gan gynnwys traethodau, barddoniaeth, ffuglen a llyfrau ffeithiol.
Myfyrwyr ymchwil
Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn y Dyniaethau yn elwa o oruchwyliaeth gan arbenigwyr blaenllaw sydd ar flaen y gad yn eu meysydd yn ogystal ag amgylchedd cefnogol a meithringar. Mae gan y Grŵp enw da ers tro byd am arloesi mewn ysgrifennu creadigol gyda’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ôl-raddedig yn mynd ymlaen i gyhoeddi ac yn aml yn ennill gwobrau mawreddog. Mae ymchwilwyr ôl-raddedig mewn Hanes yn elwa o gysylltiadau cydweithredol y pwnc, cyfranogiad mewn rhwydweithiau academaidd a phartneriaethau gydag amrywiaeth o archifau, amgueddfeydd, orielau celf, sefydliadau diwylliannol, cymdeithasau hanesyddol a sefydliadau gwirfoddol.
Mae Joanne Spearman yn fyfyriwr Meistr drwy Ymchwil yng Nghrŵp Ymchwil ac Arloesi’r Dyniaethau.
Darllenwch Stori Joanne