Joanne Spearman

Mae Joanne Spearman yn fyfyrwraig Meistr drwy Ymchwil yn y Grŵp Ymchwil ac Arloesi Dyniaethau.

Dyniaethau
Joanne Spearman, Postgraduate Research Student English

Dewisais PDC gan mai dyma lle astudiais ar gyfer fy ngradd israddedig a chefais brofiad gwych.


Ffocws ymchwil

Dwi’n ymchwilio i ffuglen hanesyddol William Godwin a Mary Shelley a’r berthynas rhwng genre a gwleidyddiaeth yn eu gwaith. Mae’r nofelau hyn – Mandeville a St Leon gan Godwin a Valperga gan Shelley – wedi cael eu cysgodi’n aml gan weithiau mawr eraill yr awduron, sef Ymholiad Godwin ynghylch Cyfiawnder Gwleidyddol a stori ffuglen wyddonol broto Shelley, Frankenstein. Mae diffyg gwaith beirniadol ynghylch y nofelau hanesyddol hyn wedi golygu nad yw eu cyfraniad at ddatblygiad ffuglen hanesyddol fel genre a gwerth eu hysgrifennu gwleidyddol drwy ffuglen wedi’i gydnabod i raddau helaeth. 

Gan symud ymlaen, hoffwn archwilio un arall o straeon ffuglen hanesyddol Shelley, The Fortunes of Perkin Warbeck: A Romance, sydd allan o brint ar hyn o bryd, neu hyd yn oed symud at edrych ar ramant fugeiliol Godwin, Imogen.

Dewisais astudio gradd Meistr ymchwil i ddyfnhau fy nealltwriaeth o Lenyddiaeth ac ymchwil (roeddwn wedi methu astudio ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig rai blynyddoedd ynghynt) a hefyd i gynyddu fy nghyfleoedd cyflogaeth. 

Ymchwil Ôl-raddedig

I ERAILL SY’N YSTYRIED YMCHWIL ÔL-RADDEDIG, FY NGHYNGOR BYDDAI DEWIS RHYWBETH RYDYCH YN EI GARU, PARHAU I SIARAD Â’CH TIWTORIAID, A BYDDWCH YN GAREDIG I’CH HUNAIN.

Joanne Spearman

Myfyriwr PhD

Profiad astudio ôl-raddedig

Dewisais PDC gan mai dyma lle astudiais ar gyfer fy ngradd israddedig a chefais brofiad gwych. Mae’r adran Lenyddiaeth yn anhygoel ac roeddwn yn awyddus i efelychu’r profiad cadarnhaol a gefais yn flaenorol. Ar hyn o bryd dwi’n gweithio fel darlithydd mewn addysg bellach ac wedi bod yn gweithio yn y maes addysg ers nifer o flynyddoedd. Ochr yn ochr ag addysgu mewn coleg, dwi hefyd yn addysgu dosbarthiadau dawns gyda’r nos. 

Er ei bod wedi bod yn anodd rheoli fy llwyth gwaith weithiau, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur iawn yn y gwaith, dwi wedi mwynhau astudio rhywbeth dwi’n malio’n fawr amdano. 

I eraill sy’n ystyried ymchwil ôl-raddedig, fy nghyngor fyddai dewis rhywbeth rydych yn ei garu, parhau i siarad â’ch tiwtoriaid, a bod yn garedig i’ch hunain. Gall fod yn waith caled ar adegau, ac mae mor hawdd rhoi llawer o bwysau arnoch chi’ch hun, ond mae sicrhau eich bod yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda’ch goruchwyliwr fel eu bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau ac yn gallu eich cefnogi, yn bwysig iawn. 

Roeddwn yn teimlo bod pwysau disgwyliadau fy hun yn anodd iawn i ymdopi ag ef ar adegau, eisiau traethawd ymchwil perffaith ac eisiau i bethau fod yn union iawn cyn dweud eu bod nhw wedi’u gwneud. Roedd hynny’n fy arafu’n fawr ar adegau. Mae’n frwydr anodd weithiau, ond mae gallu rhoi rhywfaint o amser i chi’ch hun a dathlu’r gwaith rydych wedi’i wneud wedi bod yn bwysig iawn i mi.

Grŵp Ymchwil ac Arloesi’r Dyniaethau
student-25

 diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig?

P'un a ydych chi'n dilyn PhD, MPhil, neu radd Meistr trwy Ymchwil, byddwch chi'n cael eich tywys gan arbenigwyr angerddol a blaenllaw, gan wneud effaith gadarnhaol ar unigolion, cymunedau, elusennau, busnesau a llywodraethau ledled y byd.