Cymru: Gwlad y Pererindod
Ymchwil sy’n Dylanwadu Polisi Twristiaeth Cymru, ac yn Adfywio Llwybrau Pererindod
Ymchwil Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-case-study-wales-pilgrimage-country-castell-dinas-bran.jpg)
Mae ymchwil yr Athro Maddy Gray ynghylch pererindota yng Nghymru’r Oesoedd Canol wedi llywio polisi Llywodraeth Cymru ar dwristiaeth yn uniongyrchol. Mae ei gwaith wedi amlygu potensial llwybrau pererindod i ddenu ymwelwyr i Gymru ac i greu buddion economaidd cynaliadwy mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae Gray wedi bod yn sbardun i’r Ffordd Sistersaidd, llwybr troed pellter hir sy’n cysylltu safleoedd mynachaidd yng Nghymru, ac a agorwyd yn 2016. Wedi’i gynllunio ar y cyd â chymdeithas Y Cerddwyr, a gyda nawdd gan Croeso Cymru, mae’r Ffordd Sistersaidd yn cydblethu â Chynllun Gweithredu Twristiaeth Ffydd (2013) Llywodraeth Cymru, cynllun y bu Gray yn helpu i’w ddrafftio.
Mae ymchwil Maddy Gray wedi edrych ar rôl allweddol yr Urdd Sistersaidd yn natblygiad tirwedd Cymru. Sefydlwyd pymtheg o dai Sistersaidd yng Nghymru’r oesoedd canol, y cyntaf ohonyn nhw yn y 1130au. Byddai eu heffeithiau ysbrydol, gwleidyddol, a materol yn bellgyrhaeddol.
Cafodd y Sistersiaid nawdd y tywysogion Cymreig, a roddodd diroedd i’r urdd ac a ariannodd waith i adeiladu eglwysi a mynachlogydd. Roedd y Sistersiaid, o’u rhan hwy, yn rym dros newid economaidd, nid yn unig drwy gyflwyno arferion amaethyddol newydd ond drwy ddenu a gofalu am bererinion. Cyfrannodd y creiriau a ddelid mewn tai Sistersaidd, ynghyd â chysegrfeydd a ffynhonnau sanctaidd mewn mannau eraill yng Nghymru, at ymdeimlad cryf o hunaniaeth Gymreig yn yr Oesoedd Canol.
Gall manteisio ar yr ymdeimlad hwnnw o hunaniaeth heddiw a denu mwy o ymwelwyr i safleoedd mynachaidd a lleoedd cysegredig fod yn llwybr annisgwyl i adfywio economaidd.
Cysylltu
Madeleine Gray, Yr Athro Emeritus