Sant Cadog yn Ne-Ddwyrain Cymru
Rhoi Sylw i Ddiwylliannau Paganaidd a Christnogol Cynnar Cymru
Ymchwil Canlyniadau'r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-case-studies-st-cadoc.jpg)
Ac yntau’n cael ei gydnabod am ddod â Christnogaeth i Gymru, ac yn un a fyddai o bosibl wedi gallu bod yn nawddsant, prin yw’r hyn y bydd pobl yn ei wybod am Sant Cadog – Abad Llancarfan, ger y Bont-faen o’r 5ed-6ed ganrif. Mae hynny’n wir yn y de-ddwyrain, hyd yn oed, lle mae llawer o eglwysi a phedwar pentref wedi’u henwi ar ei ôl.
Mae ymchwil yr Athro Kevin Mills, gan gynnwys ei gasgliad barddoniaeth, Stations of the
Boar, a’r ddrama ar y cyd, Cadoc and the Drowned Boys, wedi cyflwyno straeon Sant Cadog i gynulleidfa ehangach.
Drwy ennyn diddordeb pobl y de-ddwyrain yn straeon eu rhanbarth, ardal lle mae dirywiad ôl-ddiwydiannol a’r lleihad yn y defnydd o’r Gymraeg yn aml yn cuddio arwyddocâd yr hanes lleol, mae’r gwaith ymchwil hwn wedi hwyluso dealltwriaeth ddyfnach o le’r bobl hyn yn hunaniaeth genedlaethol Cymru.