Caethwasiaeth Cymru A’r Iwerydd: Lleihau Amnesia Hanesyddol
Datgelu Cysylltiad Cymru â Chaethwasiaeth yr Iwerydd
Ymchwil Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-universitystaff-professor-chris-evans-48105.jpg)
Mae gwaith ymchwil gan yr Athro Chris Evans am hanes Cymru a chaethwasiaeth yr Iwerydd – hanes sydd heb weld llawer o olau dydd – yn effeithio ar sut y mae cyrff cyhoeddus ac artistiaid creadigol yn ymdrin â’r gorffennol anodd, dadleuol.
Mae Evans yn arbenigo yn y berthynas rhwng caethwasiaeth yr Iwerydd a datblygiad diwydiannol yn Ewrop, gyda ffocws penodol ar ddiwydiant Cymru. Datgelodd ei lyfr Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660-1850 (2010) am y tro cyntaf arwyddocâd gwlân o Gymru yng nghaethwasiaeth yr Iwerydd rhwng y 1680au a’r 1840au.
Gan ddefnyddio deunydd yn archifau Prydain ac UDA, roedd modd i Evans ddangos sut roedd ffabrig o Gymru’n cael ei fasnachu ar gyfer caethion ar arfordir Gini, a’i werthu ar raddfa fawr i blanwyr yn y Caribî a Gogledd America. A hwnnw wedi’i farchnata fel “Negro Cloth”, defnyddiwyd gwlân o Gymru i greu dillad i weithwyr caeth.
Slave Wales oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect ymchwil cymunedol, O Wlân i Siwgr: Gwlân Cymru a Chaethwasiaeth, a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Wedi’i leoli yn y gogledd a’r canolbarth, prif ardaloedd cynhyrchu “Negro Cloth”, cyfarwyddwyd y prosiect gan Learning Links International CIC, menter gymdeithasol sy’n arbenigo mewn cynlluniau addysgol sy’n cysylltu Cymru â’r Caribî ac Affrica.
Mae’r prosiect wedi’i gydnabod fel ymateb rhagorol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn ei hadroddiad yn 2020, Astudiaethau Cymreig: Ymchwil am Gymru, i Gymru a’r Byd.
A hithau wedi’i hysbrydoli gan y prosiect, ysgrifennodd yr awdur llwyddiannus Angharad Tomos nofel i oedolion ifanc, Y Castell Siwgr (2020), sy’n edrych ar y cysylltiadau rhwng Cymru a Jamaica drwy ei dau brif gymeriad yn eu harddegau, un yn rhydd ac un yn gaeth.
Ar ôl darllen Slave Wales gan Evans, dyluniodd un artist tecstilau, Jennifer Hodgeman, osodiad tecstilau, “Sugar(sic)k”, a gafodd ei arddangos yn 2019 yn The Weir Garden, un o leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Swydd Henffordd, sy’n denu 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Effaith Ymchwil PDC
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-universitystaff-professor-chris-evans-48105.jpg)