Canolfan Astudiaeth Rhywedd yng Nghymru

Mae Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru yn darparu ffocws o fewn y Brifysgol ar gyfer ymchwil draws-gyfadrannol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol mewn astudiaeth rhywedd a rhywioldeb yn gyffredinol, ac mewn perthynas â hanes, diwylliant a chymdeithas Cymru yn benodol.

Grŵp Ymchwil ac Arloesi’r Dyniaethau
Black and white photo of early 20th-century suffragists marching in a demonstration. A group of women and a few men are gathered on a street, with two women holding a large banner that reads “Cardiff & District W.S.S.” featuring a prominent Welsh dragon.

Oherwydd ei harbenigedd presennol, mae’r Brifysgol mewn sefyllfa arbennig o dda i weithredu fel canolfan ragoriaeth ymchwil yn y maes hwn.

Gweithgareddau

Mae aelodau’r ganolfan yn annog ac yn cefnogi ymchwil ei gilydd trwy ddigwyddiadau blynyddol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, darlith Goffa Ursula Masson, yn ogystal â chyfres o seminarau, darlithoedd cyhoeddus a thrwy gyfarfodydd grŵp rheolaidd. 

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru neu os hoffech gael unrhyw wybodaeth arall am unrhyw agwedd ar ei gwaith, cysylltwch a ni. 

Dr Rachel Lock-Lewis

Dr Jennifer Whitney

PROSIECTAU YMCHWIL

Ffuglen hanesyddol

Mae’r ysgolhaig llenyddol yr Athro Diana Wallace yn gweithio ar ffuglen hanesyddol gyda diddordeb arbennig yn y ffordd mae menywod ac awduron eraill sydd wedi’u hymylu wedi defnyddio’r genre hwn sy’n aml yn cael ei ddifrïo. Mae ei gwaith yn archwilio sut mae nofelwyr ac awduron straeon byrion yn ail-ddychmygu’r gorffennol heb ei gofnodi drwy ffuglen ac yn ymyrryd mewn naratifau hanesyddiaethol traddodiadol. Mae ei phrosiect presennol, monograff o’r enw Writing the Past: Modernism and historical fictions, yn datgelu ac yn archwilio corff o waith sydd wedi’i esgeuluso gan awduron yn ac o’r bedair gwlad ym Mhrydain. Mae’r awduron a drafodir yn cynnwys Virginia Woolf, Joseph Conrad, HD, Lynette Roberts, Naomi Mitchison a Helen Waddell.

O Fudiad Rhyddhad Menywod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: Ffeministiaeth yn Ne Cymru, 1970-1999. 

Mae’r hanesydd Dr Rachel Lock-Lewis yn ymchwilio i hanes mudiad y menywod yn Ne Cymru yn y 1970au, 80au a’r 90au. 

Erbyn dechrau’r 1970au, roedd llond llaw o grwpiau rhyddhad menywod â strwythur llac yn cyfarfod mewn lleoliadau anffurfiol, heb unrhyw gyllid ond digon o egni, i drafod materion oedd yn bwysig i’w haelodau. Wedi’i ysgogi gan faterion fel iechyd atgenhedlu, trais yn erbyn menywod, rhywiaeth yn y cyfryngau, a chyflog a chyfleoedd anghyfartal yn y gweithle, tyfodd mudiad y menywod yn Ne Cymru o ran maint dros y tair degawd nesaf a daeth yn fwyfwy cydgysylltiedig yn ei ymdrechion i sicrhau bargen gwell i fenywod yng Nghymru. Yn wir, chwaraeoedd ffeminyddion rôl allweddol wrth sicrhau bod Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ‘ymgorffori’ cydraddoldeb rhywedd yng ngosodiad Cynlluniad Cenedlaethol newydd Cymru ac roeddent yn allweddol wrth ethol 24 o AC benywaidd i’r Cynulliad (o chwe deg sedd) yn 1999. Roedd hyn, a dewis cabinet lle aeth pump o’r naw swydd i fenywod, yn ddigynsail yn y Deyrnas Unedig. Mae’r llyfr hwn yn olrhain esblygiad ffeministaeth yn Ne Cymru o’i ddechrau bach i’w gyflawniad o newid mor ddramatig i dirwedd wleidyddol a diwydiannol Cymru. 

Allbynnau ac Effaith Ymchwil

Yr Athro Emily Underwood-Lee

Mae gwaith yr Athro Emily Underwood-Lee gyda Chymorth i Fenywod Cymru wedi trawsnewid hyfforddiant, polisi a darpariaeth gwasanaeth i fenywod a phlant yng Nghymru sydd wedi dioddef trais domestig, yn ogystal â hyfforddiant gwybodus i swyddogion heddlu. 

Casglodd prosiect 40 Llais, 40 Mlynedd wybodaeth, atgofion, llwyddiannau a deunyddiau ar draws fudiad 40 mlynedd Cymorth i Fenywod Cymru, o’i ddechreuad fel casgliad o sefydliadau menywod ar lawr gwlad a grëwyd allan o Fudiad Rhyddhad Menywod ddechrau’r 1970au, hyd heddiw. 

Effaith

  • Mae treftadaeth menywod yng Nghymru, y mudiad trais yn erbyn menywod, a Chymorth i Fenywod Cymru wedi’i dehongli, ei hegluro, ei nodi a’i gofnodi’n well.
  • Mae pobl wedi datblygu sgiliau newydd mewn cadwraeth treftadaeth, adrodd straeon digidol, casglu hanes llafar, ymgysylltu â grwpiau cymunedol, a hanes Mudiad y Menywod.
  • Mae polisi ac arfer yn y dyfodol wedi / yn parhau i gael ei lywio gan y prosiect.

Linc fideo: https://www.youtube.com/watch?v=BMWQzFGyrSU 

Yr Athro Emily Underwood-Lee

Arweiniodd yr Athro Emily Underwood-Lee brosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, sef Perfformiad a mamolaeth, i archwilio sut mae mamolaeth yn cael ei chynrychioli mewn theatr a pherfformiad. Nod y prosiect ymchwil oedd ymchwilio i’r cwestiynau allweddol canlynol: 

  • Sut gall perfformiad a mamolaeth groesi rhwystrau pwnc?
  • Beth sy’n unigryw am gynrychiolaeth mamolaeth mewn perfformiad?
  • Beth all ysgolheigion ac artistiaid gofal iechyd, addysg, lles ac ymarferwyr eraill sydd â diddordeb yn y famolaeth a’r astudiaethau perfformio ei ddysgu gan ei gilydd?
  • Pa waith sydd eisoes yn bodoli yn y meysydd hyn? 
student-25

Gweithio Gyda Ni

Rydym yn angerddol am weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael a heriau’r byd go iawn. Mae ein harbenigwyr yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, ac o bob sector, i ddatblygu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy’n datrys problemau benodol. Rydym yn helpu llunwyr polisi i gasglu tystiolaeth i ddeall anghenion a phrofiadau sector neu ddiwydiant er mwyn llywio atebion yn well. Cysylltwch â Dr Rachel Lock-Lewis i gael gwybod mwy.


EIN HAELODAU

Mae arbenigedd ein haelodau yn golygu bod y Brifysgol mewn sefyllfa hynod o dda i weithredu fel canolfan ragoriaeth ymchwil ym maes astudiaethau rhywedd, gan ddarparu ffocws ar gyfer ymchwil draws-gyfadrannol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol mewn perthynas â hanes, diwylliant a chymdeithas Cymraeg yn benodol. 

DARLITH GOFFA URSULA MASSON

Bob blwyddyn ar 8 Mawrth – Diwrnod Rhyngwladol y Merched – mae’r Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru yn cyflwyno Darlith Goffa Ursula Masson, i ddathlu’r diwrnod ac i goffáu ei sylfaenydd. 

Ursula Masson

Roedd Ursula Masson yn fenyw a wnaeth i bethau ddigwydd. Yn falch o alw ei hun yn ffeminydd, roedd hi’n ysgolhaig gwych ac yn athrawes ysbrydoledig y mae ei hymrwymiad angerddol i fenywod ac i wleidyddiaeth yn amlwg i bawb oedd yn ei hadnabod. Fel darlithydd hanes ym Mhrifysgol Morganwg ar y pryd o 1994, daeth yn ffigwr blaenllaw ym maes hanes menywod, yn enwedig hanes gwleidyddol menywod Cymru. Roedd Ursula yn un o gefnogwyr cynnar yr hyn a elwir bellach yn iaith REF yn ‘Impact’. Hynny yw, aeth a gwaith ymchwil hanesyddol allan o’r academi ac yn ôl allan i’r byd ehangach. Roedd hi hefyd yn gyfryngol wrth sefydlu Archif Menywod Cymru/Women’s Archive of Wales. I ddechrau, ei syniad hi oedd eu sioeau teithiol hanes menywod a oedd yn llwyddiannus iawn ac roedd hi’n gyfryngol wrth wthio cais Treftadaeth y Loteri a enillodd y gronfa i gefnogi’r ymgyrch hon. 

Roedd ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys dau argraffiad o ysgrifennu gwleidyddol menywod ar gyfer Honno Press: Elizabeth Andrews’ autobiography/memoir, A Woman’s Work is Never Done (2006), a The Very Salt of Life: Welsh Women’s Political Writings from Chartism to Suffrage (2007). Cynhyrchodd hefyd argraffiad o lyfr cofnodion Cymdeithas Ryddfrydol Menywod Aberdâr o 1891 – 1907, o’r enw Women’s Rights and Womanly Duties (2005). Yn aelod gweithgar o Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, roedd hi hefyd yn gyd-olygydd eu cyfnodolyn. Ac roedd hi’n Gadeirydd Rhwydwaith Hanes Menywod Gorllewin Lloegr a De Cymru.

Ganwyd Ursula ym Merthyr Tudful, a chafodd ei gradd cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna MA ym Mhrifysgol Keele. Gweithiodd fel newyddiadurwraig yn Awstralia ac yna mewn Addysg Oedolion yn Abertawe cyn iddi ddod i Forgannwg. Canolbwyntiodd ei ymchwil PhD ar Gymdeithasau Rhyddfrydol Menywod yng Nghymru a chafodd ei gyhoeddi ar ôl ei marwolaeth fel For Women, for Wales and for Liberalism: Women in Liberal Politics in Wales 1880-1914 gan Wasg Prifysgol Cymru. 

Hefyd, gyda’r Athro Jane Aaron, sefydlodd y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Felly, mae’n briodol bod y Ddarlith Goffa yn cael ei rhoi er anrhydedd iddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

Gwobr Goffa Ursula Masson

Dyfernir Gwobr Goffa Ursula Masson yn flynyddol am y traethawd hir israddedig gorau mewn hanes menywod neu hanes rhywedd i gydnabod etifedd y diweddar Dr Ursula Masson. Roedd Ursula yn hanesydd uchel ei pharch a phoblogaidd iawn yn PDC a sefydlodd, ymhlith llawer o ymdrechion a chyflawniadau eraill, y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Roedd ei marwolaeth gynamserol yn 2008 yn ergyd i’r gymuned ymchwil ac addysgu yn PDC, ond mae’r wobr hon yn un o’r ffyrdd rydym yn cofio ei chyfraniad rhyfeddol i’w phwnc ac i’r Brifysgol.

Enillwyr

  • 2020 – Christine Powell: Pam y Methodd Clinig Rheoli Geni Awdurdod Lleol Cyntaf Abertyleri? ac Alis Thomas: Gwrthod Benyweidd-dra? Astudiaeth o Hunan-Newynu Benywaidd ym Mhrydain, 1964-1914. 
  • 2019 -  Nicola Pitman: Arwresau mewn Esgidiau Mwdlyd? Canfyddiadau a Phortreadau o Fyddin Tir y Menywod yn yr Ail Ryfel Byd. 
  • 2018 – Julie Marie Edwards: Diflaniad y Wrach Iau mewn Celf Fodern Gynnar a Rebecca King: Archwiliad o Ddileu Lleisiau Traws yn y Mudiad LHDT+ a’i Hanesyddiaeth. 
  • 2017 – Leah Ellis: Pleidleisiau i Ferched! Asesiad o Sylw Papurau Newydd ar y Mudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru, 1869 - 1914.

MAE’R MEISTR DRWY YMCHWIL YN GYFUNIAD PERFFAITH O GEFNOGAETH ACADEMAIDD A RHYDDID.

Nazmia Jamal

Meistr drwy Ymchwil

Ein Myfyrwyr Ymchwil

Nazima Jamal, Meistr drwy Ymchwil (graddiodd 2025)
Teitl: ‘Shouting Out Loud’: Darllen datblygiad ffeministiaethau lesbiaidd cwiar ym Mhrydain yn y 1990au drwy’r gyfres pamffledi Lesbians Talk Issues.  

Juliet Larsen, PhD
Teitl: Crefydd, Cred y Werin a’r Dirwedd Gysegredig mewn Ysgrifennu Menywod yng Nghymru, 1847 – 1909. 

Joanne Spearman, Meistr drwy Ymchwil (graddiodd 2024)
Teitl: Genre a Gwleidyddiaeth yn Ffuglen Hanesyddol Godwin a Shelley. 

ASTUDIWCH GYDA NI

Cwrs Adrodd Straeon Digidol

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn cynorthwyo pobl i gyfleu eu stori neu eu profiadau trwy gyfrwng adrodd storïau digidol.

Bydd y cwrs yn cynnwys y wybodaeth ymarferol sydd ei hangen i greu stori gan ddefnyddio meddalwedd golygu sain a fideo elfennol, ynghyd â'r sgiliau meddal sydd eu hangen i gofnodi storïau ar sail un-i-un.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y myfyrwyr wedi cael profiad o greu stori ddigidol o'r dechrau i'r diwedd, wedi creu stori ddigidol amdanyn nhw eu hunain, ac wedi dysgu am arferion da wrth ddefnyddio storïau, sut i strwythuro a chyflwyno storïau effeithiol, ac ystyriaethau moesegol a llywodraethu ynghylch defnyddio storïau o fewn sefydliadau.

Mae'r pynciau'n cynnwys:

  • Beth yw stori
  • Pam mae storïau’n gweithio
  • Beth yw stori ddigidol
  • Gwrando
  • Myfyrio fel proses
  • Recordio a golygu sain
  • Deall pwysigrwydd delweddau
  • Creu storïau digidol gan ddefnyddio sain a lluniau
  • Ystyriaethau ynghylch gweithio gydag eraill
  • Pwysigrwydd cydsyniad
  • Moeseg adrodd storïau

Byddai'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn adrodd storïau ar gyfer newid, cyfathrebu neu ymchwil.

Archebwch eich lle

Astudiaeth ôl-raddedig

Rydym yn croesawu ceisiadau i ddilyn astudiaethau PhD neu Feistr drwy Ymchwil yn un o'n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol a bod gennych ymchwil ar y gweill eisoes, gallai PhD drwy Bortffolio fod yn addas i chi.   

Mae tîm goruchwylio yn cael ei neilltuo i ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil doethuriaeth, yn eich cynghori ar greu rhwydweithiau a sefydlu eich gyrfa.

Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

Ffioedd Dysgu

Ffioedd a chyllid i ôl-raddedigion

Meddwl gwneud cais?

Ysgol i Raddedigion