Grŵp Ymchwil ac Arloesi

Troseddeg, Plismona, a Diogelwch

Rydym yn cynhyrchu ymchwil effeithiol, a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n gwella diogelwch, gan helpu unigolion, teuluoedd a chymunedau i symud tuag at system cyfiawnder cymdeithasol a throseddol fwy ffafriol.

A group of police officers sat with their helmets resting on their knees

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar faterion difrifol fel trais gwleidyddol, lladdiad, ymchwiliadau troseddau mawr, hen achosion, camddefnydd sylweddau, a heriau cyfiawnder troseddol.


ARBENIGEDD AC AELODAU

Ein nod yw darparu ymchwil moesegol o ansawdd uchel i bartneriaid, sy'n seiliedig ar realiti ymarferol troseddeg, plismona a diogelwch, sy'n llywio, addysgu a chynorthwyo â darpariaeth gwasanaethau.

Mae ein harbenigedd yn ymestyn i bryderon diogelwch fel terfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberdroseddu, a throseddau cyfundrefnol trawswladol.

Mae aelodau'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Troseddeg, Plismona a Diogelwch yn arbenigwyr cydnabyddedig y mae eu hymchwil yn llywio polisïau'r llywodraeth genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys polisïau'r UE a NATO.


EFFAITH

Mae'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Troseddeg, Plismona a Diogelwch wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i arferion cyfiawnder troseddol cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein hymchwil wedi arwain at ddiwygiadau mewn strategaethau a hyfforddiant cenedlaethol, dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth, sicrhau strategaethau atal ac ymyrraeth fwy effeithiol, llunio darpariaeth gwasanaethau, ac arwain cydweithrediad rhyngwladol. 

  • Mae 71% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*). 
  • Mae mwy na 80% o effaith ein hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*) 
  • Mae 75% o'n hallbynnau yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*) 
  • Ar y brig yng Nghymru ar gyfer effaith allan o dair prifysgol - yn seiliedig ar 4* / 3*.
Allbynnau a Chyhoeddiadau Ymchwil

Cyflawniadau

Gwella diogelwch

Mae ein hymchwil wedi arwain at ddiwygiadau mewn strategaethau a hyfforddiant teledu cylch cyfyng cenedlaethol, gan wella mesurau gwyliadwriaeth a diogelwch.

Dylanwadu ar bolisi

Rydym wedi dylanwadu ar bolisi ac arferion y llywodraeth wrth fynd i'r afael â throseddau gangiau a throseddau â chyllyll, gan sicrhau strategaethau atal ac ymyrraeth fwy effeithiol.

Gwella gwybodaeth

Mae ein gwaith wedi gwella gwybodaeth ac arferion mewn ymchwiliadau i laddiadau rhyngwladol, gan gynorthwyo asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn fyd-eang i ddatrys troseddau mawr.

Llunio darpariaeth

Yng Nghymru, mae ein hymchwil wedi siapio comisiynu a darpariaeth gwasanaethau camddefnydd sylweddau'n uniongyrchol, gan gyfrannu at well ymatebion iechyd y cyhoedd a mynediad at driniaethau.

Cydweithredu rhyngwladol

Yn genedlaethol ac yn Ewrop, mae ein gwaith wedi gwella'n sylweddol yr ymatebion i ddigwyddiadau terfysgol a chydweithredu rhyngwladol.

Meysydd Ffocws Ymchwil

Plismona

Dan arweiniad y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch, sef canolfan plismona a diogelwch hynaf y DU sydd hefyd â’r enw da gorau, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar wella gweithgareddau'r heddlu a darparu gwasanaethau cymunedol trwy arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth, datblygiad sefydliadol, ac addysg yr heddlu. 

Diogelwch Rhyngwladol

Dan arweiniad yr Athro Christian Kaunert, Cadair Jean Monnet mewn Plismona a Gwrthderfysgaeth, mae'r thema ymchwil hon yn archwilio terfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberdroseddu, rhyfel, a throseddau cyfundrefnol trawswladol. 

Troseddeg

Dan arweiniad y Ganolfan Troseddeg, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar laddiadau a thrais, cyfiawnder ieuenctid, prawf, carchardai, adsefydlu troseddwyr, ac atal troseddu. Mae hefyd yn gartref i'r Rhwydwaith Ymchwil Archwilio Troseddol (CIRN), a sefydlwyd gan yr Athro Fiona Brookman, sy'n cysylltu academyddion, ymarferwyr a llunwyr polisi i wella ymchwiliadau dynladdiad a throseddau mawr yn fyd-eang. Mae ein haelodau yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n gwneud cyfraniadau sy'n arwain y byd i ymchwil ac ymarfer, gan effeithio'n sylweddol ar droseddeg a chyfiawnder troseddol. 

PROSIECTAU ALLWEDDOL

Gwerthuso Buvidal

Prif nod y gwerthusiad hwn yw rhoi gwybodaeth amserol, gadarn i Lywodraeth Cymru am weithredu a chanlyniadau dangosol cyflwyno Buvidal ledled Cymru, yn enwedig am yr effeithiau gwasanaeth ehangach a'r addasiadau y gall fod eu hangen yn y dyfodol o ganlyniad i'r driniaeth newydd hon.

Dewch i wybod mwy

Gwerthuso effaith sefydliadol Swyddogion Defnydd Sylweddau

Prif nod y gwerthusiad hwn yw asesu effaith sefydliadol Swyddogion Defnydd Sylweddau yng Ngwasanaeth Prawf Cymru, sy'n cael ei lywio a'i arwain gan bobl sydd â phrofiad bywyd o weithio ym maes prawf.

Dewch i wybod mwy

Rhyfela Hybrid a Seiberddiogelwch yr UE

Mae'r Modiwl HYBER Jean Monnet yn archwilio agwedd seiberddiogelwch rhyfela hybrid, gan ganolbwyntio ar dactegau ymosodol seiber fel dull cost-effeithiol sy'n targedu cymdeithasau democrataidd, yn enwedig yn yr UE.

Dewch i wybod mwy

Cyd-greu Mannau ar gyfer Newid (COSC)

Nod y prosiect hwn oedd cefnogi goroeswyr DVA trwy gynnig cyfleoedd ymgysylltu creadigol mewn amgylchedd prifysgol cefnogol. Gweithiodd y tîm rhyngddisgyblaethol tuag at nod cyffredin: cefnogi goroeswyr mewn lloches trwy greu cysylltiadau, cyfleoedd ar gyfer grymuso, ac archwilio llwybrau i addysg.

Dewch i wybod mwy

Gwerthusiad o Abertawe CNPT 360

Mae hon yn bartneriaeth aml-asiantaeth, sy’n cynnwys therapi galwedigaethol, sy'n cefnogi pobl gyda'r anghenion mwyaf cymhleth, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ddalfa, i leihau'r risg o ddigartrefedd.

Dewch i wybod mwy

CYDWEITHREDIADAU A PHARTNERIAETHAU

Rydym yn cydweithio â llywodraethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal ag ystod o arbenigwyr polisi ac ymarfer. Mae ein hymchwil wedi cael ei gefnogi gan sefydliadau llawn bri, gan gynnwys Marie Skłodowska-Curie Actions, Jean Monnet Actions, ESRC, yr Academi Brydeinig, Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Loteri Fawr, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru, ac amrywiol sefydliadau trydydd sector. 

Yn 2020, fe wnaethom sicrhau cyllid i arwain Rhwydwaith Rhagoriaeth ar Wrthderfysgaeth yr UE (EUCTER), sy'n cynnwys 14 o bartneriaid rhyngwladol. Hefyd, enwyd ein Canolfan Plismona a Diogelwch Rhyngwladol yn Ganolfan Ragoriaeth Jean Monnet ar gyfer Ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Athro Christian Kaunert hefyd yn dal Cadair Jean Monnet fawreddog gan y Comisiwn Ewropeaidd. 

  • Y Comisiwn Ewropeaidd 
  • Undeb Ewropeaidd EFFACE 
  • Y Swyddfa Gartref gan gynnwys Grŵp Ymgynghorol Gweledigaeth Ffiniau (BVAG) 
  • Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu 
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru 
  • Heddlu De Cymru 
  • Sefydliad Heddwch yr Unol Daleithiau (USIP) 
  • Llywodraeth Cymru 

MAE HEDDLU DE CYMRU WEDI ELWA'N ARUTHROL O ARBENIGEDD PDC, AC MAE'R ETIFEDDIAETH YN PARHAU I DDYLANWADU AR EIN DULL PLISMONA MOESEGOL.

Lee Jones

Prif Weithredwr, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

AR ÔL YMGYSYLLTU AG ACADEMYDDION TROSEDDEG AC ADRANNAU MEWN NIFER O BRIFYSGOLION YN RHYNGWLADOL DROS Y BLYNYDDOEDD, YCHYDIG SYDD WEDI CYFIAWNHAU’R BRI A'R ENW DA UCHEL EI BARCH FEL PDC.

Corin Morgan-Armstrong

Pennaeth Gwasanaethau Teuluoedd CEF a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc; Cyfarwyddwr, Cwmni Buddiant Cymunedol Invisibl

student-25

Gweithio gyda ni

Rydym yn croesawu cydweithio â diwydiant, llywodraeth a phartneriaid academaidd i yrru arloesedd a mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn cyd-ddatblygu atebion, archwilio cyfleoedd cyllido, neu bartneru ar brosiectau ymchwil, rydym yn agored i drafod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i gyflawni canlyniadau effeithiol.

I ddysgu mwy neu drafod cydweithrediadau posibl, cysylltwch â [email protected].



Addysgu sy'n seiliedig ar ymchwil

Yn y radd MSc Diogelwch Rhyngwladol a Rheoli Risg, mae myfyrwyr yn elwa yn uniongyrchol o'n hymchwil arloesol ar heriau diogelwch, gan wella eu rhagolygon gyrfa. Mae'r modiwl Llywodraethu a Diogelu Seiberofod, dan arweiniad Dr Ethem Ilbiz, yn archwilio ymgyrchoedd twyllwybodaeth, gan dynnu ar ei ymchwil prosiect HYBER a ariennir ar y cyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac ymchwil gan arbenigwyr diogelwch eraill yn PDC. 

Gweithgaredd allweddol yw'r 'Ymarfer Gwirio Ffeithiau Wedi’i Gêmeiddio,' lle mae myfyrwyr yn gwerthuso dilysrwydd gwybodaeth o dan gyfyngiadau amser. Mae'n anelu at ddyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o ryfela hybrid a seiberddiogelwch, sy'n hanfodol wrth lywio heriau diogelwch modern. Trwy adeiladu sgiliau ymchwil beirniadol, a mewnwelediad i faterion cyfreithiol a moesegol, mae myfyrwyr wedi'u paratoi'n well ar gyfer gyrfaoedd mewn diogelwch rhyngwladol a rheoli risg, gan gyfrannu at wydnwch cymdeithasol. 

Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

Myfyrwyr ymchwil

Mae Diana Fologea yn astudio PhD Troseddeg rhan-amser ar y thema cam-drin domestig.

Diana Fologea