Diana Fologea
Mae Diana Fologea yn astudio PhD Troseddeg rhan-amser ar thema cam-drin domestig.
Troseddeg, Plismona a Diogelwch
Mae fy mhrofiad yma wedi bod yn eithriadol. Mae'r Brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn ac oherwydd hyn rydw i wedi gallu symud ymlaen o radd israddedig i ymchwil ôl-raddedig.
Ffocws ymchwil
Rwy'n credu bod gan ymchwil y grym i ddylanwadu'n uniongyrchol ac yn fawr ar fywydau pobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig. Mae fy ymchwil PhD yn gwerthuso'r rhaglen Ysbrydoli Teuluoedd, asesiad teulu cyfan ar gyfer cyplau heterorywiol sydd â hanes o gam-drin domestig. Y nod yw darparu sylfaen dystiolaeth i gefnogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig yn y ffordd orau bosibl.
Yn wahanol i'r dull traddodiadol sy'n canolbwyntio ar y goroeswyr a phlant, mae dull teulu cyfan o ymdrin â cham-drin domestig yn ystyried y teulu cyfan fel uned gymhleth. Mae'n cynnwys gweithio gyda phob aelod o'r teulu, gan gynnwys y rhai sy'n gyfrifol am y gamdriniaeth, ac yn lle eu dieithrio oddi wrth y teulu, mae'n ceisio newid y deinameg fel y gall y teulu ryngweithio'n ddiogel.
Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar sefydlu newidiadau cadarnhaol parhaol ac yn cydnabod nad y peth gorau i blentyn bob amser yw cael ei rieni i wahanu. Mae hefyd yn cydnabod nad yw torri'r cysylltiad yn unig rhwng y camdriniwr a'r dioddefwr bob amser yn mynd i'r afael â'r problemau hirdymor o fewn y teulu.
Yn bwysicaf oll, mae'n credu pan fydd pawb yn y teulu yn cael cefnogaeth yn lle ynysu aelodau penodol - fel y tramgwyddwyr - y gall y berthynas rhwng rhieni wella, fel y gall eu sgiliau rhianta, yn enwedig sgiliau rhianta'r un a achosodd y niwed. Gall y gwelliant mewn rhianta bara hyd yn oed os daw'r berthynas i ben.
Ymchwil ôl-raddedigCyfleoedd Ymchwil
Er bod cerrig milltir wedi'u cyflawni yng Nghymru a Lloegr yn ystod y degawd diwethaf ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig a'u plant, mae toreth o botensial heb ei gyffwrdd o hyd i atal cam-drin domestig rhag digwydd ond hefyd i sicrhau, pan fydd yn digwydd, bod cymorth pwrpasol ar gael yn rhwydd i bob aelod o'r teulu, gan eu helpu i dorri'n rhydd o gylch y gamdriniaeth.
Drwy gynnal ymchwil i 'sut orau i gefnogi' teuluoedd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig, gall ymchwilwyr, llunwyr polisi a sefydliadau arbenigol gydweithio i baratoi'r ffordd ar gyfer cyd-gynhyrchu ymyriadau, polisïau a systemau cymorth mwy effeithiol i'r rhai mewn angen. Yn y pen draw, gall hyn wella lles a diogelwch unigolion a theuluoedd, yn enwedig plant, gan wneud gwahaniaeth pendant a chadarnhaol yn eu bywydau.
Drwy astudio Troseddeg, rwyf wedi dod yn ymwybodol iawn o'r cysylltiadau cryf rhwng Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a thrawma yn gyffredinol ar iechyd a lles plant, ac ar y tebygolrwydd y byddant yn ymwneud ag ymddygiad troseddol. Felly mae helpu i leihau cam-drin domestig a'i effeithiau yn helpu'r rhai sy'n gysylltiedig i wella eu bywydau eu hunain, a gall hefyd helpu i gryfhau eu cymunedau.
Grŵp Ymchwil ac Arloesi Troseddeg, Plismona a DiogelwchTaith PhD Diana
Doeddwn i byth wedi dychmygu y byddwn yn astudio am radd PhD. Yn yr ysgol, cefais fy mwlio ac roedd pobl yn meddwl fy mod yn araf ac yn ddiog, a chafodd hyn effaith ddofn ar fy hyder. Dim ond pan ddes i i PDC y cefais ddiagnosis o ddyslecsia.
Mae fy mhrofiad yma wedi bod yn eithriadol. Mae'r Brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn ac oherwydd hyn, rydw i wedi gallu symud ymlaen o radd israddedig i ymchwil ôl-raddedig. Nid dim ond ymchwil academaidd yw PhD, ond taith ddwys o newid cadarnhaol a darganfyddiad personol.
Er mai dim ond yn fy ail flwyddyn o fy ngradd PhD rhan-amser ydw i, mae'r daith hon wedi bod yn drawsnewidiol iawn wrth ddatblygu meddwl beirniadol yn ogystal â gwella fy sgiliau wrth gynnal ymchwil gyda charfannau sensitif, fel goroeswyr cam-drin domestig a phlant.
Mae'n fy llenwi â boddhad mawr, bod gan fy ymchwil PhD y potensial i wneud cyfraniad cymedrol ond ystyrlon o bosibl at wella bywydau goroeswyr cam-drin domestig a'u plant yng Nghymru ac yn ehangach, ac mae hyn yn tanio fy angerdd a'm hymrwymiad i barhau â'r daith hon. Rwy'n credu y byddai’r fersiwn iau ohona i’n falch iawn.
 diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig?
P'un a ydych chi'n dilyn PhD, MPhil, neu radd Meistr trwy Ymchwil, byddwch chi'n cael eich tywys gan arbenigwyr angerddol a blaenllaw, gan wneud effaith gadarnhaol ar unigolion, cymunedau, elusennau, busnesau a llywodraethau ledled y byd.