Grŵp Ymchwil Saesneg
Mae gan Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru gymuned ymchwil fywiog ac uchel ei pharch o ysgolheigion llenyddol, awduron creadigol ac arbenigwyr iaith.
Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Dyniaethau
Er bod ein hymchwil yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac yn amrywio o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw, mae gan Saesneg yn PDC ymrwymiad arbennig o gryf i gymoedd de Cymru lle mae'r Brifysgol wedi'i lleoli.
Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 - mesur swyddogol y Llywodraeth o allu ymchwil - cafodd 79% o'n hallbynnau ymchwil eu graddio fel rhai blaenllaw yn y byd (4*) neu'n rhagorol yn rhyngwladol (3*). Cafodd hanner ein hymchwil ei graddio fel rhai blaenllaw yn y byd o ran Effaith. At ei gilydd, barnwyd bod 66% o'r holl ymchwil Saesneg a gyflwynwyd yn flaenllaw yn y byd (4*) neu'n rhagorol yn rhyngwladol (3*).
Mae ein grŵp ymchwil yn cynnwys awduron creadigol, beirdd, nofelwyr ac ysgolheigion llenyddol sydd ag arbenigedd mewn ysgrifennu ôl-drefedigaethol, ffuglen hanesyddol a'r Gothig, ffuglen genre ac mewn ysgrifennu Cymreig yn Saesneg. Mae ein harbenigwyr TESOL (Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn archwilio dulliau cyfoes o fethodoleg addysgu ieithoedd, ac yn archwilio sut mae polisïau'r llywodraeth ar iaith a mudo yn effeithio ar gaffael ac integreiddio ieithoedd.
Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau, erthyglau, cerddi ac eitemau eraill, mae ein staff yn lledaenu eu gwaith yn rheolaidd drwy ddarlithoedd cyhoeddus, darlleniadau a digwyddiadau, yn ogystal â chynadleddau academaidd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hymchwil neu os hoffech astudio neu gydweithio â ni, cysylltwch â'r Athro Diana Wallace.
Athro Diana Wallace.Ein Harbenigedd
Mae Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru yn un o feysydd ymchwil mwyaf llwyddiannus y Brifysgol. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 - mesur swyddogol y llywodraeth o allu ymchwil - cafodd 79% o'n hallbynnau ymchwil eu graddio fel rhai blaenllaw yn y byd (4*) neu'n rhagorol yn rhyngwladol (3*). Cafodd hanner ein hymchwil ei graddio fel rhai blaenllaw yn y byd o ran Effaith. At ei gilydd, barnwyd bod 66% o'r holl ymchwil Saesneg a gyflwynwyd yn flaenllaw yn y byd (4*) neu'n rhagorol yn rhyngwladol (3*).
Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys:
- Ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu beirniadol-greadigol, gan gynnwys barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol.
- Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, ysgrifennu menywod, ffuglen hanesyddol, y Gothig, ysgrifennu ôl-drefedigaethol, ffuglen genre.
- TESOL (Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
PROSIECTAU YMCHWIL
Moderniaeth a ffuglen hanesyddol: ysgrifennu'r gorffennol
Mae'r ysgolhaig llenyddol Diana Wallace yn gweithio ar ffuglen hanesyddol gyda diddordeb arbennig yn y ffordd y mae menywod ac awduron eraill sydd wedi'u hymylu wedi defnyddio'r genre hwn, sy'n aml yn cael ei ddifrïo. Mae ei gwaith yn archwilio sut mae nofelwyr ac awduron straeon byrion yn ail-ddychmygu'r gorffennol heb ei gofnodi trwy ffuglen, ac yn ymyrryd mewn naratifau hanesyddiaethol traddodiadol. Mae ei phrosiect cyfredol, monograff o'r enw Moderniaeth a Ffuglen Hanesyddol: Ysgrifennu'r Gorffennol (i'w gyhoeddi gan Palgrave), yn datgelu ac yn archwilio corff o waith sydd wedi'i esgeuluso'n rhyfedd ddigon gan awduron ym mhedair gwlad Prydain, ac sy’n dod o’r gwledydd hyn. Ymhlith yr awduron a drafodir bydd Virginia Woolf, Joseph Conrad, H.D., Lynette Roberts, Naomi Mitchison a Helen Waddell.
Mapio Amwysedd Gofodol
Mae Dr Rebecca Hutcheon yn ysgolhaig llenyddol y mae ei gwaith yn eistedd ar groesffordd astudiaethau llenyddol, y dyniaethau digidol a'r geo-ddyniaethau. Mae ei phrosiect cyfredol, Mapio Amwysedd Gofodol: Datblygu Offer i Fynd i’r Afael â Chymhlethdod yn y Dyniaethau, yn defnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol i ddatrys yr her a osodir gan amwysedd gofodol i ddelweddu gofod llenyddol. Mewn mapio llenyddol traddodiadol a dulliau GIS, sy'n gysylltiedig â dulliau mapio 'byd go iawn', caiff amwysedd ei drin fel problem i'w datrys yn hytrach nag egwyddor allweddol o drefnu gofod llenyddol. Mae Mapio Amwysedd Gofodol yn cynnig cyfnod newydd ar gyfer y dyniaethau digidol trwy ddatblygu dull systematig o amgodio a delweddu amwysedd gofodol mewn llenyddiaeth, gan ddefnyddio Charles Dickens fel achos prawf. I wneud hyn, bydd yn creu offer hawdd eu defnyddio a hygyrch ar gyfer olrhain a delweddu gofod llenyddol a, thrwy wneud hynny, yn datgelu sylfeini elfennau daearyddiaeth lenyddol realistaidd.
Siarada â Mi: Fi o Hyd?
Diddordeb ymchwil yr awdur creadigol Barrie Llewelyn yw Ysgrifennu er Lles. Mae wedi datblygu ac yn arwain y prosiect Siarada â Mi sy'n dod â'r rhai sy'n chwilio am loches yng Nghymru ynghyd â siaradwyr Saesneg lleol, mewn cyfres o brosiectau a gweithgareddau creadigol. Y fersiwn diweddaraf o'r prosiect yw Fi o Hyd?, lle archwiliodd partneriaid eu hunanbortreadau mewn amrywiaeth o gyfryngau fel collage, celfyddyd gain, ffotograffiaeth ac ysgrifennu. Ysbrydolwyd Fi o Hyd? gan ymweliad cerdded a sgwrsio ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru i weld arddangosfa Celfyddyd yr Hunlun yn 2024. Mae arddangosfa o'r gwaith creadigol wedi'i chynllunio ar gyfer mis Medi 2025 ac mae ffilm fer wedi'i chynhyrchu gan y gwneuthurwr ffilmiau Rebecca Leach i ddogfennu'r prosiect.
Bydd erthygl sydd ar y gweill gan Barrie ar Ysgrifennu er Lles, o'r enw ' When a Poem Doesn’t Need to be Good', yn cael ei chyhoeddi yng nghylchgrawn Lapidus International ym mis Awst 2025.
Addysgu Saesneg a'r argyfwng mudo
Gan weithio mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC), y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac Addysg Oedolion Cymru, mae'r Athro Mike Chick yn ymchwilio i ddarparu ESOL i ffoaduriaid a phobl sy'n chwilio am loches yng Nghymru. Mae sgiliau iaith yn hanfodol i integreiddio pobl sy'n ceisio diogelwch rhag rhyfel neu erledigaeth ac mae ymchwil yr Athro Chick yn archwilio ffyrdd arloesol ac ymarferol y gall yr ystafell ddosbarth iaith weithredu fel cyfrwng i hyrwyddo integreiddio, a thrwy hynny helpu mudwyr gorfodol i adeiladu bywydau newydd yng Nghymru. Fel Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC, mae'r Athro Chick yn hyrwyddo Cynllun Noddfa Ffoaduriaid y brifysgol.
Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wrth addysgu Saesneg
Ar hyn o bryd mae Dr Rhian Webb yn ymgymryd â chyfres o brosiectau sy'n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (GenAI) wrth addysgu Saesneg. Yn 2024, cynhaliodd brosiect ymchwil cydweithredol gyda Dr Ferah Senaydin ym Mhrifysgol Ege, Twrci, a ariannwyd gan gynllun Taith Llywodraeth Cymru. Archwiliodd yr ymchwil ymatebion athrawon i ddatganiadau myfyrwyr am eu defnydd o GenAI ar gyfer astudiaethau Saesneg. Datgelodd dadansoddiad fod myfyrwyr yn defnyddio ChatGPT (fersiwn 3.5) fel cydweithiwr dynol i adeiladu cynnwys, egluro tasgau, trefnu a gwella iaith, cael beirniadaethau ac adborth, a oedd yn galonogol ac yn ysgogol iddynt. Fodd bynnag, roedd ymatebion athrawon i ddefnydd eu myfyrwyr yn anghyson ac yn amlygu'r angen i ddatblygu hunaniaeth athrawon unedig sy'n cael ei llunio gan hyfforddiant llythrennedd GenAI, a'i chefnogi gan bolisïau sefydliadol. Traddododd Dr Webb araith gyweirnod mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Charles ym Mhrâg, o'r enw, “Pandora’s box has been opened” AI in English Language teaching – what do teachers need to consider? ym mis Mai 2025. Mae elfennau pellach o'r ymchwil hon yn archwilio goblygiadau moesegol myfyrwyr MA TESOL sy’n defnyddio GenAI ar gyfer ysgrifennu, a defnydd myfyrwyr addysgu cyfrwng Saesneg (EMI) o Gen AI ar gyfer eu hastudiaethau academaidd.
ALLBYNNAU AC EFFAITH YMCHWIL
Mae’r awdur creadigol Barrie Llewelyn wedi datblygu ac yn arwain y prosiect Siarada â Mi (sydd wedi cael ei ariannu yn ei wahanol fersiynau gan Gynllun Ariannu Llenyddiaeth er Lles Llenyddiaeth Cymru, Cyllid Gweithgaredd Dinesig, Cyllid Ymchwil, Cyllid Keif a Chyllid Ailgodi’n Gryfach). Ym mis Ionawr 2020, cafodd ffoaduriaid o Syria a Swdan a adsefydlwyd yn Rhondda Cynon Taf eu cysylltu gyda siaradwyr Saesneg lleol mewn cyfres o weithdai creadigol. Ymchwiliodd y prosiect i rôl creadigrwydd wrth gaffael iaith a chynorthwyodd hefyd y broses o integreiddio a dealltwriaeth o ddiwylliannau ei gilydd. Yr allbwn oedd arddangosfa o eiriau, ffotograffau, celf a recordiadau sain. Mae gweithgareddau Siarada â Mi wedi parhau gyda grŵp menywod ar-lein a wnaeth gyfarfod yn ystod cyfnod clo Covid 19, gyda grwpiau cerdded a sgwrsio misol sydd wedi ymweld â lleoedd fel Dinbych-y-pysgod, Ysgyryd Fawr, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Gwaelod y Garth a Llundain, i enwi ond rhai. Bu sawl prosiect creadigol chwe wythnos arall a gweithgareddau undydd. Mae Barrie hefyd wedi cyhoeddi dwy bennod mewn llyfrau ar y prosiect hwn hyd yn hyn.
Gweithiodd Dr Rhian Webb gyda'r Athro Kenan Dikilitas, o Brifysgol Stavanger, Norwy, i archwilio effaith Covid-19 ar addysg TESOL yn fyd-eang. Symudodd addysg o fod yn brofiad corfforol i fod yn ddigidol dros nos, ac roedd athrawon yn cyflwyno gwersi heb hyfforddiant na phrofiad. Archwiliodd yr ymchwil hon effaith hyn ar gredoau, rolau, arferion a theimladau athrawon ar ôl y pandemig. Darganfuwyd y pynciau o holiadur ansoddol peilot, a ddosbarthwyd i 50 o gysylltiadau TESOL mewn 25 o wledydd. O hyn, lluniwyd a dosbarthwyd holiadur meintiol ac ansoddol gan ddefnyddio'r dechneg samplu pelen eira. Derbyniwyd mwy na 500 o ymatebion o 42 o wledydd.
Ni fydd llawer o arferion TESOL a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod clo yn cael eu gwrthdroi wrth i'r pandemig newid addysgu Saesneg yn fyd-eang. Mae'n bwysig ymchwilio a dogfennu pa newidiadau sydd wedi digwydd gan athrawon. Bydd canfyddiadau'n creu dealltwriaeth o anghenion addysg athrawon a gofynion hyfforddi yn y dyfodol, a fydd yn effeithio ar y diwydiant TESOL yn fyd-eang.
Cyhoeddiad diweddaraf yr Athro Wallace yw argraffiad newydd o Autobiography gan Margiad Evans (1943), ar gyfer cyfres Clasuron Menywod Cymru Honno. Yn ddarn rhagorol o ysgrifennu natur, mae Autobiography yn archwilio’n ofalus a chywir berthynas Evans â thirwedd gororau Cymru o amgylch Rhosan ar Wy. Cyhoeddwyd yr argraffiad newydd hwn, gyda chyflwyniad ysgolheigaidd gan yr Athro Wallace, yn hydref 2022. Cafodd ei adolygu yn Nation Cymru lle gwnaeth Jon Gower sylw bod geiriau bywiog, egnïol ‘‘Margiad Evans' yn y gyfrol ryfeddol hon yn annirnadwy o brydferth, yn onest ac yn drawiadol o wir' a The Guardian, lle nododd yr adolygydd 'gyflwyniad craff' Wallace i'r testun 'Gweledigaethol a thelynegol' hwn.
Mae llyfr diweddaraf Dr Hutcheon, New Approaches for Digital Literary Mapping: Chronotopic Cartography, gyda Sally Bushell (Prifysgol Caerhirfryn) yn gyd-awdur, yn ailystyried beth ddylai ffocws mapio llenyddol digidol fod ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg, pa offer digidol y dylid eu defnyddio, ac at ba ddibenion deongliadol. Mae'n gofyn: sut allwn ni gofleidio'r digidol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddeall ystyr gofodol yn y Dyniaethau? Mae'n archwilio potensial 'cronotop' Mikhail Bakhtin fel ffordd o strwythuro mapiau llenyddol digidol sy'n darparu ateb i gymhlethdodau mapio amser a gofod. Yna defnyddir y dull hwn i fapio'r nofel realaidd trwy gyfrwng Dickens, ac yna i gyflyrau lluosog Peter Pan gan J. M. Barrie.
Mae Hutcheon hefyd yn gyd-gyfarwyddwr y cwmni menter gymdeithasol Litcraft: Bringing the Text to Life. Mae Litcraft yn gwneud modelau maint cywir o fydau llenyddol yn Minecraft i ail-ymgysylltu plant â darllen trwy chwarae. Mae ganddi gydweithwyr mewn ysgolion a llyfrgelloedd ledled y DU. Llyfrgelloedd Caerdydd yw ei phartneriaeth ddiweddaraf.
Yn 2023, comisiynwyd yr Athro Chick a'r Sefydliad Dysgu a Gwaith gan Lywodraeth Cymru i adolygu eu polisi ar addysg iaith i fudwyr yng Nghymru, gyda'r argymhellion o'r adolygiad yn llywio polisi ac ymarfer. Ar hyn o bryd, mae'r Athro Chick yn ymchwilio i'r rôl y gallai'r Gymraeg ei chwarae wrth feithrin ymdeimlad o berthyn ymhlith y bobl hynny sy'n ceisio lloches yng Nghymru.
Ym mis Chwefror 2020, dyfarnwyd grant o £4,000 gan Advance HE i'r Athro Chick a Dr Catherine Camps gynnal ymchwil gyda myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y cynllun er mwyn deall sut y bu o fudd iddynt, a sut y gellir trawsnewid eu lles fel model ar gyfer datblygiadau pellach.
Mae ymchwil ar Sant Cadog, un o sylfaenwyr Cymru Gristnogol ac yn un o’r ymgeiswyr cynnar am nawddsant, gan y bardd a'r beirniad Kevin Mills, wedi arwain at gyfres o gyhoeddiadau a drama arbrofol gydag awdur ar y cyd. Arweiniodd pamffled o farddoniaeth arobryn yr Athro Mills, Stations of the Boar (2016), at ddrama gydag awdur ar y cyd, Cadoc and the Drowned Boys, a berfformiwyd yn Theatr Fach Coed-duon a saith eglwys a enwyd ar ôl y sant, ac at ddilyniant o gerddi yn ei gasgliad, Zeugma (2020). Mae hefyd wedi arwain at ffurfio cwmni theatr CIC, Contemporancient Theatre, sydd bellach yn cynllunio prosiect newydd yn seiliedig ar ymchwil yr Athro Mills ar Dr Richard Price
Yn ystod pandemig Covid-19 yn 2020 a 2021, cynhaliodd Dr Rhian Webb ddau brosiect ymchwil cydweithredol gyda Nicky Partridge o Peartree Languages, Caerdydd, a ariannwyd gan Raglenni Partneriaeth ac Ymgysylltu PDC a Chronfa Cynllunio Effaith Strategol PDC yn y drefn honno. Archwiliodd yr ymchwil ddysgu digidol ar-lein gyda ffocws penodol ar ystafelloedd trafod. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys myfyrwyr TESOL israddedig PDC, a reolodd weithgareddau ystafelloedd trafod yn ystod gwersi ar-lein Peartree Languages, a gyflwynwyd i dros 80 o ddysgwyr rhyngwladol o 12 gwlad. Llywiodd yr ymchwil arferion addysgu byw ar-lein ac roedd ar flaen y gad o ran gofynion y diwydiant yn ystod y pandemig. Yn 2022, cynhaliodd Dr Webb brosiect ymchwil cydweithredol gyda'r Athro Kenan Dikilitas ym Mhrifysgol Stavanger, Norwy, a ariannwyd gan Gronfa Ymchwil Saesneg PDC. Archwiliodd yr ymchwil effaith pandemig Covid-19 ar addysg TESOL yn fyd-eang trwy archwiliad o gredoau, rolau, arferion a theimladau athrawon ynghylch addysgu a dysgu ar ôl y pandemig ac effaith y rhain ar feddwl traddodiadol.
Arddangosfa a chyhoeddiad cylchgrawn zîn oedd Monologau Mewnol (Chwefror – Mawrth 2019) yn tynnu sylw at waith saith artist ac wyth awdur, pob un yn gweithio mewn ymateb i weithiau celf a ddewiswyd o gasgliad celf PDC.
Mae teitl yr arddangosfa yn Saesneg (Interior Monologues) yn chwarae ar eiriau, sy'n golygu llais mewnol unigolyn a'r gwirioneddau personol a ddatgelir trwy ddewis addurn ystafelloedd. Fel dyfais lenyddol, mae'r monolog Mewnol yn creu ffenestr i brosesau meddyliol cymeriad. Defnyddiodd awduron modernaidd fel May Sinclair, James Joyce a Virginia Woolf fonologau mewnol i herio ffurf lenyddol ac i gyfleu seicoleg eu prif gymeriadau.
Gwahoddwyd awduron PDC – Tony Curtis, Cathy Dreyer, Judith Goldsmith, Dale Frances Hay, Maria Lalić, Colum Sanson-Regan, Melanie Smith – i gyfrannu rhyddiaith neu farddoniaeth o lif ymwybyddiaeth, a gafodd eu harddangos wedyn yn yr oriel ochr yn ochr â'r gweithiau celf, a'u hargraffu yn y cylchgrawn zîn am ddim cysylltiedig.
Fel bardd arobryn, nofelydd ac athro Ysgrifennu Creadigol, mae gwaith yr Athro Emeritws Philip Gross yn ymwneud â datblygiad ymarfer creadigol unigolion (oedolion a phlant), y tu allan i'r academi yn ogystal ag y tu mewn iddi. Mae ei waith wedi arwain at ymwybyddiaeth ehangach o'r ffyrdd y gall proses greadigol wella ein dealltwriaeth o rai o heriau mwyaf dybryd cymdeithas gyfoes.
Ers 1993, mae'r Athro Gross wedi cyhoeddi ugain casgliad o farddoniaeth, gan gynnwys The Water Table (2009), a enillodd Wobr T.S. Eliot, a Deep Field (2011), a thri chasgliad o farddoniaeth i bobl ifanc, gan gynnwys y gyfrol arobryn Off Road to Everywhere (2010), yn ogystal â naw nofel.
Mae ei waith wedi codi mwy o ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ac wedi effeithio ar feddwl am ddadfeiliad iaith a goblygiadau hyn i'r bersonoliaeth.
Ers 1997, yr Athro Emeritws Jane Aaron fu sylfaenydd a golygydd parhaus y gyfres ‘Clasuron Menywod Cymru’, a gyhoeddwyd gan y wasg ffeministaidd annibynnol Gymreig, Honno. Ymunodd yr Athro Diana Wallace â hi fel cyd-olygydd y gyfres yn 2025. Nod y gyfres yw dod â thestunau anghofiedig i bob pwrpas, yn ôl i brint. Mae tri deg chwech o gyfrolau wedi ymddangos hyd yn hyn, pump ohonynt wedi’u golygu a’u cyflwyno gan Aaron tra bod tair wedi’u golygu gan Wallace.
Mae eu heffaith ar y cyhoedd sy’n darllen ac ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru wedi bod yn sylweddol; mae llawer mwy o awduron benywaidd Cymru – y mwyafrif ohonynt wedi’u cyhoeddi yn y gyfres – yn cael eu haddysgu, yn destun ymchwil ac yn cael eu darllen heddiw nag yng nghanol y 1990au.
Mae pob argraffiad yn cynnwys cyflwyniad ysgolheigaidd sy’n gosod y gwaith yn ei gyd-destun hanesyddol. Mae awduron a gyhoeddwyd yn y gyfres yn cynnwys Margiad Evans, Dorothy Edwards, Hilda Vaughan, Menna Gallie, Eiluned Lewis ac Amy Dillwyn. Mae cyhoeddiadau diweddar yn cynnwys A Welsh Witch (1902) gan Allen Raine ac a olygwyd gan Jane Aaron, ac Autobiography (1943) Margiad Evans, a olygwyd gan yr Athro Diana Wallace.
Gweithiwch gyda ni
Rydym yn frwd dros weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Mae ein harbenigwyr yn gweithio gyda sefydliadau o bob maint, ac o bob sector, i ddatblygu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy'n datrys problem benodol. Rydym yn helpu llunwyr polisi i gasglu tystiolaeth i ddeall anghenion a phrofiadau sector neu ddiwydiant er mwyn llywio atebion yn well. Cysylltwch â'r Athro Diana Wallace i gael gwybod mwy.
EIN PARTNERIAID
Cydweithio ag Oriel y Bont
Mae staff a myfyrwyr Saesneg wedi cydweithio â churaduron Oriel y Bont, sydd â statws amgueddfa yn PDC, yn ogystal â nifer o artistiaid gweledol mewn sawl arddangosfa gan gynnwys Issue International, 2019; Monologau Mewnol 2019; Vis-à-Vis, 2018; Ymgysylltu â’r Gorffennol, 2015, ac Yr Afon Drws Nesaf, 2015.
- Gwasg Honno
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru
EIN HAELODAU
Mae gan ymchwil Saesneg yn PDC arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn ysgrifennu creadigol, ysgrifennu beirniadol-greadigol, ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, ysgrifennu menywod, testunoldeb a mannau diwylliannol, ffuglen genre, astudiaethau Gothig a TESOL. Mae ein hymchwil yn creu cydweithrediadau ag amrywiaeth o bartneriaid allanol, gan gynnwys ymarferwyr creadigol, diwydiant, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol a llunwyr polisi.
Yr Athro Jane Aaron yw golygydd cyfres ailargraffiadau Gwasg Honno, Clasuron Menywod Cymru, ac mae hi wedi golygu pum cyfrol ar ei chyfer. Mae ei monograffau’n cynnwys Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales (2007), a enillodd Wobr Roland Mathias 2009, ac Welsh Gothic (2013), a bywgraffiad o’r awdures a’r golygydd benywaidd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Cranogwen, a enillodd wobr Ffeithiol Greadigol yn Llyfr y Flwyddyn Cymru 2024. Roedd hi’n gyd-sylfaenydd y gyfres Gender Studies in Wales gan Wasg Prifysgol Cymru.
Mae'r Athro Tony Curtis yn fardd, beirniad ac awdur ffuglen a gyflwynodd Ysgrifennu Creadigol i'r campws dros ddeg ar hugain o flynyddoedd yn ôl. Mae'n awdur nifer o gasgliadau o farddoniaeth a chyhoeddwyd ei gyfrol Fortunate Isles; New and Selected Poems gan Seren yn 2016. Mae ei gyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys nofel, Darkness in the City of Light, a chasgliad o farddoniaeth o'r enw Leaving the Hills. Mae'n Gymrawd o’r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol.
Mae'r Athro Gavin Edwards wedi cyhoeddi ar farddoniaeth George Crabbe, damcaniaethau naratif, ysgrifennu teithio a hanes llyfrau. Cyhoeddwyd astudiaeth o ddefnyddiau arloesol o achos teipograffeg, The Case of the Initial Letter: Charles Dickens and the politics of the dual alphabet, yn 2020. Rhwng 2010 a 2012 roedd yn Gymrawd Ymchwil Gwadd yn Sefydliad Astudiaethau Saesneg, Prifysgol Llundain.
Mae'r Athro Philip Gross yn awdur amlochrog, yn awdur barddoniaeth, ffuglen a drama i blant ac oedolion ac yn Athro Ysgrifennu Creadigol. Enillodd dair gwobr bwysig yn ystod y blynyddoedd diwethaf – gwobr farddoniaeth T.S. Eliot am The Water Table, Llyfr y Flwyddyn Cymru am ‘I Spy Pinhole Eye’ a Gwobr CLPE am farddoniaeth plant gydag Off-Road To Everywhere, a Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias (Llyfr y Flwyddyn Cymru) am Love Songs of Carbon. Ei gyhoeddiadau diweddaraf yw The Thirteenth Angel (ar restr fer Gwobr T.S. Eliot) a The Shores of Vaikus.
Mae'r Athro Jeremy Hooker yn fardd a beirniad. Mae ei feirniadaeth a'i ysgolheictod yn canolbwyntio ar ysgrifennu Saesneg Cymreig, gan gynnwys David Jones a John Cowper Powys, barddoniaeth Brydeinig ac Americanaidd fodern, y traddodiad gwledig Seisnig (e.e. Richard Jefferies, Thomas Hardy ac Edward Thomas), a phaentio tirweddau Prydeinig. Cyhoeddwyd ei gerddi cyflawn, The Cut of the Light: Poems 1965-2005, yn 2006 a chyhoeddwyd casgliad o'i draethodau beirniadol, Ditch Vision: Essays on Poetry, Nature, and Place, yn 2017. Mae ei gyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys With a Stranger’s Eyes a chydweithrediad â'r cerflunydd Lee Grandjean, Presence and Place.
Mae'r Athro Christopher Meredith yn nofelydd, bardd, beirniad, a chyfieithydd, yn ogystal â gwneud ychydig o ysgrifennu ar gyfer y radio a'r llwyfan, ac erthyglau ac adolygiadau, ffuglen a barddoniaeth ar gyfer llawer o gylchgronau. Ystyrir ei nofel gyntaf, Shifts (1988), fel y nofel glasurol am ôl-ddiwydiannu yn Ne Cymru ac mae bellach yn 'ddewis diofyn’ fel testun gosod ar unrhyw gwrs prifysgol ar ysgrifennu Cymreig yn Saesneg. Cafodd ei hailgyhoeddi yng nghyfres Llyfrgell Cymru Parthian yn 2023. Mae ei lyfrau diweddaraf yn cynnwys nofel fer, Please, a chasgliad o farddoniaeth o'r enw Still.
Prif ddiddordebau ymchwil yr Athro Jeff Wallace yw gwyddoniaeth a llenyddiaeth ers Darwin, moderniaeth, D.H. Lawrence, ysgrifennu cyfoes, ac ôl-ddyneiddiaeth. Ei gyhoeddiad diweddaraf yw monograff o'r enw Abstraction in Modernism and Modernity: Human and Inhuman (2023). Mae'n Athro Emeritws Saesneg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ein Myfyrwyr Ymchwil
Jan Tunley, PhD
Teitl: Hunan ac Eraill yn rôl y Fenyw: Selima Hill, Liz Lockhead a Rupi Kaur.
Katriona Rees, MPhil/PhD
Teitl: Ffuglen genre gothig Eingl-Gymreig.
Juliet Larsen, PhD
Teitl: Crefydd, Cred y Werin a'r Dirwedd Sanctaidd mewn Ysgrifennu Menywod yng Nghymru, 1847 – 1909.
Dr Carolyn Reagon, PhD trwy Bortffolio
Teitl: Darluniau o ofod a lle mewn nofelau ysbrydion cyfoes: meithrin yr annisgwyl ac adlewyrchu hunaniaethau a pherthnasoedd cymdeithasol.
Y Parch. David Parry
Teitl: Meithrin Presenoldeb: Awtoethnograffeg gysyniadol yn archwilio fy ngwrthodiad o gynrychiolaeth dderbyniol mewn traddodiadau gwyrthiau a dirgelwch cyfoes.
Emily Grist, MA trwy Ymchwil
Teitl: Cynrychioliadau yng Nghymru Hoyw: Cymhariaeth o Gynrychioliadau Rhyw a Phrofiadau Cwiar yn Llenyddiaeth Gyfoes Cymru.
Nazmia Jamal, MA trwy Ymchwil
Teitl: Lesbiaid yn Trafod Materion – 50 mlynedd o ffeministiaethau lesbiaidd newidiol ym Mhrydain.
Joanne Spearman, MA trwy Ymchwil
Teitl: Genre a Gwleidyddiaeth: Ffuglen Hanesyddol Godwin a Shelley.
ASTUDIWCH GYDA NI
Cwrs Adrodd Straeon Digidol
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn cynorthwyo pobl i gyfleu eu stori neu eu profiadau trwy gyfrwng adrodd storïau digidol.
Bydd y cwrs yn cynnwys y wybodaeth ymarferol sydd ei hangen i greu stori gan ddefnyddio meddalwedd golygu sain a fideo elfennol, ynghyd â'r sgiliau meddal sydd eu hangen i gofnodi storïau ar sail un-i-un.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y myfyrwyr wedi cael profiad o greu stori ddigidol o'r dechrau i'r diwedd, wedi creu stori ddigidol amdanyn nhw eu hunain, ac wedi dysgu am arferion da wrth ddefnyddio storïau, sut i strwythuro a chyflwyno storïau effeithiol, ac ystyriaethau moesegol a llywodraethu ynghylch defnyddio storïau o fewn sefydliadau.
Mae'r pynciau'n cynnwys:
- Beth yw stori
- Pam mae storïau’n gweithio
- Beth yw stori ddigidol
- Gwrando
- Myfyrio fel proses
- Recordio a golygu sain
- Deall pwysigrwydd delweddau
- Creu storïau digidol gan ddefnyddio sain a lluniau
- Ystyriaethau ynghylch gweithio gydag eraill
- Pwysigrwydd cydsyniad
- Moeseg adrodd storïau
Byddai'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn adrodd storïau ar gyfer newid, cyfathrebu neu ymchwil.
Astudiaeth ôl-raddedig
Rydym yn croesawu ceisiadau i ddilyn astudiaethau PhD neu Feistr drwy Ymchwil yn un o'n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol a bod gennych ymchwil ar y gweill eisoes, gallai PhD drwy Bortffolio fod yn addas i chi.
Mae tîm goruchwylio yn cael ei neilltuo i ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil doethuriaeth, yn eich cynghori ar greu rhwydweithiau a sefydlu eich gyrfa.
Arbenigedd o'r radd flaenaf
Mae Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru yn un o feysydd ymchwil mwyaf llwyddiannus y Brifysgol.
Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 - mesur swyddogol y Llywodraeth o allu ymchwil - cafodd 79% o'n hallbynnau ymchwil eu graddio fel rhai blaenllaw yn y byd (4*) neu'n rhagorol yn rhyngwladol (3*). Cafodd hanner ein hymchwil ei graddio fel rhai blaenllaw yn y byd o ran Effaith. At ei gilydd, barnwyd bod 66% o'r holl ymchwil Saesneg a gyflwynwyd yn flaenllaw yn y byd (4*) neu'n rhagorol yn rhyngwladol (3*).