CYFLYMYDD ARLOESI CREADIGOL
Mae’r Cyflymydd Arloesi Creadigol yn gweithio i wneud ymyriadau creadigol sy’n cael effaith sy’n helpu ein rhanddeiliaid, partneriaid a chymunedau.
Ein Strateegaeth Amdanom ni
Mae’n rhyngddisgyblaethol, yn gweithio ar draws pob cyfadran a gwasanaeth proffesiynol i wneud y mwyaf o’r arbenigedd o bob rhan o PDC. Mae’n arloesi ac yn darparu atebion i’r heriau mae llawer o ddiwydiannau a’n partneriaid yn eu hwynebu.
Mae economi Cymru yn dibynnu ar lwyddiant gweithlu sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn llythrennog iawn yn ddigidol. Mae PDC yn gallu gweithredu fel galluogwr newid gwirioneddol ar gyfer y genedl a’i gweithlu yn y dyfodol yn y maes hwn. Mae ein harbenigwyr ar flaen y gad o ran datrys problemau creadigol ac arloesi gan gefnogi cyfres o gynhyrchion a gwasanaethau cyfryngau newydd. Maent yn datblygu cwricwlwm ac Academi Dysgu Dwys Trawsnewid Digidol er mwyn helpu arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol i gleifion. Rydym yn gweithio gyda llawer o brifysgolion, sefydliadau, busnesau, a’r sector cyhoeddus i greu newid cadarnhaol fel bod creadigrwydd ac arloesedd yn cael eu deall fel elfen hanfodol o drawsnewid busnes a sector.
EIN PARTNERIAETHAU
Helpodd PDC i greu profiadau trochol arloesol, gan ddefnyddio realiti estynedig, realiti cymysg, a thechnolegau realiti rhithwir.
Bu PDC yn gweithio gyda Tiny Rebel Games, Sugar Creative, a Potato i archwilio ac arloesi profiadau trochol blaengar, fel rhan o raglen Cynulleidfa’r Dyfodol.
Roedd un o’r prosiectau hyn yn cynnwys gweithio gydag Aardman ar yr ap a phrofiad realiti estynedig y bu disgwyl mawr amdano, Wallace and Gromit yn The Big Fix Up. Mae’r profiad realiti estynedig aml-ddefnyddiwr hwn yn dod â’r cymeriadau’n fyw mewn ffordd hollol newydd, gan greu llwyfan newydd ar gyfer adrodd straeon.
“Mae ein hymchwilwyr wedi cynnal profion defnyddwyr a gwerthuso cynnyrch, gan gynnal dosbarthiadau meistr gyda myfyrwyr i’n helpu i ddeall profiad y defnyddiwr ar gyfer technoleg realiti estynedig yn well.
“Mae’n brosiect mawr, cyflym a chyffrous, a gyda’n cydweithwyr, rydyn ni’n creu arferion sy’n addas ar gyfer y dyfodol ar gyfer adrodd straeon aml-ddefnyddiwr sy’n golygu bod y gynulleidfa wrth wraidd popeth.” - Corrado Morgana, Uwch Ddarlithydd mewn Gemau, PDC
“Mae’n wych ein bod yn cwblhau ein rhestr o arddangoswyr i’r gynulleidfa gyda’r cydweithrediad hynod uchelgeisiol hwn.
“Mae eu nod i chwyldroi gemau realiti estynedig, ynghyd â’r datblygiadau mewn Deallusrwydd Artiffisial, hapteg, rhyngweithio â chynulleidfa a thechnolegau cynhyrchu ffilm gan enillwyr ein cystadlaethau eraill, yn golygu y bydd y cyhoedd yn gallu rhoi cynnig ar brofiadau gwirioneddol arloesol.” - Yr Athro Andrew Chitty, Cyfarwyddwr Her UKRI ar gyfer Cynulleidfa’r Dyfodol
Mae Academi Dysgu Dwys Trawsnewid Digidol yn helpu arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon i gleifion.
Wedi’i hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, mae’r Academi’n helpu ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu prosiectau trawsnewidiol ym maes atebion digidol, archwilio technolegau newydd, a meithrin diwylliant o chwilfrydedd. Mae ystod o gyrsiau hyblyg wedi’u datblygu gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, gan gynnwys cyfleoedd ôl-raddedig a doethuriaeth ym maes Arwain Trawsnewid Digidol.
Y nod yw grymuso gweithluoedd drwy ddarparu’r arbenigedd, y sgiliau a’r hyder i yrru’r broses o ailgynllunio systemau iechyd a gofal er gwell. Bydd hyn yn gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion, gan roi hwb i effeithlonrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau.
Bydd cydweithio ar draws cyrsiau yn annog arloesedd a chydweithrediad. Bydd hyn yn galluogi’r broses o gyd-ddatblygu sgiliau a phartneriaethau gwerthfawr i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol trawsnewidiol.
“Dylai anelu am newid trawsnewidiol fod yn sail i’n holl ymdrechion wrth ddatblygu ein gwasanaethau, ac mae arweinyddiaeth gref yn hanfodol er mwyn i ni wella profiadau i gleifion, clinigwyr, a’r cyhoedd yn ehangach. Bydd y rhaglen hon yn cefnogi ein harweinwyr i yrru trawsnewidiad digidol ac i fod yn sbardun ar gyfer arloesedd.” - Yr Athro Bob Hudson, Cyd-gyfarwyddwr yr Academi Dysgu Dwys, PDC
“Mae gweithio’n ddigidol yn allweddol i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, a bydd y gwaith cyffrous yma’n paratoi ein timau i arwain ar hyn.” - Y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys
“Yr academïau pwrpasol yma yw’r cyntaf yn y byd, ac rydyn ni’n hynod falch fod Cymru yn arloesi mewn maes hyfforddi mor bwysig. Mae Arwain Trawsnewid Digidol yn mynd i fod yn faes twf sylweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, felly mae’n hanfodol bod arweinwyr y dyfodol yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol hon.” - Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Mae partneriaeth unigryw rhwng Ysgol Ffilm a Theledu Cymru PDC a Chynghrair Sgrin Cymru yn darparu profiad gwerthfawr i’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau.
Mae graddedigion a myfyrwyr PDC wedi gweithio ar lawer o gynyrchiadau teledu blaenllaw yn Wolf Studios Caerdydd, gan gynnwys y cynhyrchiad uchel ei glod gan y BBC a HBO, His Dark Materials.
Cafodd dros 40 o fyfyrwyr brofiadau cysgodi a chafodd 30 o fyfyrwyr eu cyflogi mewn swyddi gyda thâl ar y cynhyrchiad hwn. Mae 1,000 o fyfyrwyr eraill o Brifysgol De Cymru wedi cael budd o’r berthynas hon drwy deithiau o amgylch y stiwdios i gael gweld tu ôl i’r llenni a chwrdd â thimau cynhyrchu.
“Rydyn ni wrth ein bodd, diolch i’n partneriaeth agos â Chynghrair Sgrin Cymru, ein bod yn gallu creu cymaint o gyfleoedd i’n myfyrwyr a’n graddedigion weithio ar brosiectau sgrin sy’n ennyn bri rhyngwladol. Mae gallu cefnogi cymaint o bobl ifanc dalentog, nawr ac yn y dyfodol, yn anrhydedd ac yn fraint.” - Huw Swayne, Deon Cyswllt ar gyfer Partneriaethau a Datblygu Busnes, Cyfadran Busnes a'r Diwydiannau Creadigol, PDC
“Pan ddechreuais fy nghwrs gyntaf yr un nod a roddais i fy hunan oedd gweithio ar rywbeth rwy’n ei garu a chael fy enw yn y credydau. Tic, dw i wedi gwneud hynny!” - MJ Hygate, Myfyriwr Graddedig Animeiddio Cyfrifiadurol PDC, Animeiddiwr Rhag-Ddarlunio, His Dark Materials
“Mae cael y berthynas hon â Phrifysgol De Cymru yn galluogi graddedigion a myfyrwyr i gael profiad ymarferol mewn amser real yma yn y stiwdio. Mae wedi creu llif o dalent newydd sy’n gallu cefnogi’r diwydiant cyfan, ac mae’n gam enfawr ymlaen i bob un ohonon ni.” - Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cynghrair Sgrin Cymru
EIN CWRICWLWM
Mae arloesedd creadigol a digidol wrth wraidd ein cwricwlwm ym Mhrifysgol De Cymru. Rydym yn cynnig atebion hyfforddi pwrpasol i bartneriaid allanol fanteisio ar yr arbenigedd sydd ar gael yn y Brifysgol.
Mae Academi Dysgu Dwys Trawsnewid Digidol newydd yn helpu arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon i gleifion.
Mae’r Academi, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn helpu ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni prosiectau trawsnewidiol ym maes atebion digidol ac archwilio technolegau newydd. Mae ystod o gyrsiau hyblyg wedi’u datblygu gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, gan gynnwys cyfleoedd ôl-raddedig a doethuriaeth ym maes Arwain Trawsnewid Digidol.
Mae hyn yn deillio o waith partneriaeth ar draws PDC, gydag academyddion o bob un o’n tair cyfadran yn cydweithio i roi’r ateb hwn ar waith.
Ein Hymchwil
Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, un o ganolbwyntiau creadigol mwyaf y DU, mae'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol yn cynhyrchu ymchwil amlddisgyblaethol sy'n cyfoethogi diwylliant, yn sbarduno twf economaidd, yn llywio polisi, ac yn cysylltu cymunedau.
Mae ei ymchwil amlddisgyblaethol yn cwmpasu Theatr, Cerddoriaeth, y Cyfryngau, Ffilm, Gemau, Animeiddio, Ffasiwn, a Dylunio. Mae ganddo dair maes thematig rhyngddisgyblaethol: Iechyd a Lles; Diwylliant a Threftadaeth; a Perfformiad, y Cyfryngau ac Arloesi’r Sgrin, sy'n sbarduno ymchwil effeithiol ar draws y diwydiannau creadigol.
Ewch i dudalen we'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol am ragor o wybodaeth.
Mae Consortiwm media.cymru, sy’n cynnwys PDC, yn brosiect gwerth £50 miliwn i ddatblygu clwstwr sy’n arwain y byd ar gyfer arloesi yn y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae 24 o sefydliadau partner yn gweithio ym meysydd addysg, darlledu, technoleg, cynhyrchu cyfryngau ac arweinyddiaeth leol i ysgogi twf economaidd cynhwysol, cynaliadwy a £236 miliwn ychwanegol mewn Gwerth Ychwanegol Gros erbyn 2026.
Gan ymateb i’r datblygiadau a wnaed ym maes cynhyrchu o bell a rhithiol yn ystod pandemig Covid-19, bydd media.cymru yn buddsoddi yn seilwaith digidol y Rhanbarth. Mae’n canolbwyntio ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, gan gynyddu gallu busnesau bach i arloesi a mynd i’r afael ag anghenion sgiliau.
Bydd cyfres o feysydd her a arweinir gan y diwydiant, gan gynnwys cynaliadwyedd, cynhyrchu dwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth, a thechnoleg yn sicrhau bydd sector cyfryngau’r Rhanbarth yn fan profi ar gyfer cynnwys, dulliau gweithredu a fformatau newydd.
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn rhannu eu harbenigedd i gefnogi ecosystem arloesi, gyda’r nod o fynd â 100 o gwmnïau o’r syniad cychwynnol i gynhyrchion a gwasanaethau cyfryngau newydd sy’n barod i’r farchnad.
Mae PDC hefyd yn arwain strategaeth sgiliau gydgysylltiedig a arweinir gan ymchwil, gan gysylltu darparwyr hyfforddiant ag anghenion a seilwaith y diwydiant. Mae ffocws ar ddenu, datblygu a chadw talent i gefnogi fformatau a thechnolegau newydd.
Roedd PDC yn rhan o Clwstwr – rhaglen bum mlynedd a greodd gynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrin. Roedd yn cynnwys prifysgolion, Llywodraeth Cymru, darlledwyr Cymru a busnesau’r diwydiant sgrin. Nod Clwstwr oedd rhoi arloesedd wrth wraidd cynyrchiadau’r cyfryngau yn y de, gan symud sector sgrîn ffyniannus Caerdydd o safle o gryfder i safle arweiniol.
Gyda ffocws ar ddiwydiannau sgrin – cynhyrchu ffilm a theledu, a’u cadwyni cyflenwi – cydweithiodd academyddion o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddarparu ymchwil a helpodd y maes sydd eisoes yn ffynnu yn y de i gyrraedd ei lawn botensial.
Roedd darlledwyr, busnesau a gweithwyr llawrydd yn gallu gwneud cais am gyllid i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau arloesol.
Cynlluniwyd y mentrau ymchwil a datblygu hyn i ymateb i dechnolegau newidiol, patrymau defnydd sy’n newid a manteision cyfuno creadigrwydd a chydweithio.
Creodd Clwstwr hefyd lwyfan i gwmnïau annibynnol, busnesau bach a chanolig eu maint, microfusnesau a gweithwyr llawrydd gystadlu â chwmnïau cyfryngau byd-eang, hynod integredig.
Adran Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
Mae PDC wedi gweld cynnydd sylweddol o ran ymchwil sy’n arwain y byd yn ôl canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021). Gwelwyd gwelliant o 49% mewn ymchwil sy’n arwain y byd (wedi’i gategoreiddio fel 4*) yn PDC ers y REF diwethaf yn 2014. PDC bellach yw’r bedwaredd yng Nghymru am effaith (i fyny o wythfed yn 2014, yn seiliedig ar 4* / 3*) gydag 81% o ymchwil PDC wedi’i dosbarthu fel ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*). Mae gan bron i ddwy ran o dair o ymchwilwyr PDC a gyflwynodd i REF 2021 ymchwil sydd wedi cael ei chategoreiddio fel ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).
Canlyniadau REF 2021Rydym wedi buddsoddi yn y dechnoleg, meddalwedd ac offer diweddaraf i sicrhau bod myfyrwyr yn defnyddio ac yn dysgu yn rheolaidd yn yr un cyfleusterau ag y byddent o fewn diwydiant. Mae gennym ddigonedd o leoedd pwrpasol i fyfyrwyr gydweithio ar brosiectau. Mae hefyd yn ein galluogi i weithio ar ymchwil arloesol a phrosiectau masnachol gyda phartneriaid gan ddefnyddio offer sy'n arwain y diwydiant.
Ein Cyfleusterau
-
Stiwdios ffilm HD llawn offer ynghyd â rigiau goleuo, sgrin werdd, a chyfleusterau dal symudiadau. Mae yna hefyd stiwdio blwch du, Avid HD ac ystafelloedd golygu Adobe, Pro Tools
-
Arbenigedd a thechnoleg realiti estynedig (AR) a rhith-realiti (VR).
-
Mae ein stiwdios dylunio wedi’u cynllunio i efelychu stiwdios dylunio masnachol, o fannau cydweithredol creadigol i’n hystafell pitsio diwydiant. Mae gennym hefyd ystafelloedd Mac, amrywiaeth eang o ddyfeisiau dal delweddau a hyd yn oed Raspberry Pi.
GWASANAETHAU BUSNES
Cyfnewidfa PDC yw’r drws blaen ar gyfer ymgysylltu â busnes ym Mhrifysgol De Cymru, gan gysylltu diwydiant â’r byd academaidd. O ddatblygiad proffesiynol i wasanaethau cymorth digwyddiadau a chynadledda, gall Cyfnewidfa PDC eich helpu i archwilio’r ffyrdd niferus y gall eich sefydliad weithio gyda PDC. Os oes gennych her uniongyrchol i’w goresgyn, neu os oes angen strategaeth twf busnes hirdymor arnoch, gallwn helpu i hwyluso’r cysylltiadau i wireddu hynny. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig o Reolwyr Ymgysylltu sy’n barod i gefnogi eich sefydliad drwy ddefnyddio doniau, arbenigedd a chyfleusterau Prifysgol De Cymru.