Ein Strategaeth

Cyflymydd Trosedd, Diogelwch A Chyfiawnder

Nod y Cyflymydd Trosedd, Diogelwch a Chyfiawnder yw cael dylanwad cadarnhaol ar ddiogelwch byd-eang, plismona, a’r system cyfiawnder troseddol. Rydym yn rhagori wrth fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i wneud ein bywydau’n fwy diogel.  

Amdanom ni Ein Strategaeth
A group of police officers sat with their helmets resting on their knees

Nod PDC yw addysgu myfyrwyr, ysbrydoli ymarferwyr a hyrwyddo sefydliadau drwy ddysgu ac addysgu arloesol ar sail her. Mae PDC yn cyflawni ymchwil amlddisgyblaethol, dadansoddi polisi a chydweithio strategol gwerthfawr sy’n ardderchog yn rhyngwladol.


Ein Partneriaethau

Mae PDC yn cefnogi hyfforddiant swyddogion heddlu mewn sawl heddlu yng Nghymru a Lloegr.   

Ar ôl i’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) gael ei gyflwyno i broffesiynoli hyfforddiant swyddogion heddlu, PDC oedd y brifysgol gyntaf yn y Deyrnas Unedig i’w hyfforddiant ar gyfer cwnstabliaid heddlu graddedig gael ei ddilysu ac i fod â charfan o raddedigion drwy gydweithrediad gyda Heddlu Dyfed-Powys.   

Mae PDC hefyd yn rhedeg y Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Gradd (DHEP) a phrentisiaeth gradd broffesiynol dair blynedd (PDCA) gyda Heddlu Dyfnaint a Chernyw, Heddlu Dorset, Cwnstabliaeth Swydd Gaerloyw a Heddlu Wiltshire, gyda dros 1200 o swyddogion heddlu ledled Cymru a Lloegr. 

"Rwy'n falch o’r ffaith mai PDC yw'r unig brifysgol yn y DU ar hyn o bryd sydd wedi ffurfio partneriaeth â nifer o heddluoedd i ddarparu'r cymwysterau hynod bwysig hyn, ledled Cymru a Lloegr.

"Mae'r ddarpariaeth hon yn sefydlu PDC fel un o ddarparwyr prentisiaethau mwyaf a mwyaf blaenllaw’r wlad, gan roi'r Brifysgol o fewn chwartel uchaf Sefydliadau Addysg Uwch." - Yr Athro Peter Vaughan, Cyfarwyddwr Prosiectau Strategol mewn Plismona a Diogelwch, PDC

"Wrth i blismona dyfu'n fwy cymhleth ac wrth i'r galwadau ar ein gwasanaethau gynyddu, mae arnon ni angen pobl sydd â'r sgiliau a'r profiadau iawn i gwrdd â’r gofynion heriol hyn. Mae creu gweithlu amrywiol a chynhwysol yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth plismona ar gyfer y dyfodol. Mae plismona'n yrfa werth chweil ac mae hwn yn gyfle gwych i ddilyn rôl amrywiol, tra'n cael eich hyfforddi a'ch cefnogi ar yr un pryd i ennill cymhwyster cydnabyddedig." - Julie Fielding, Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Heddlu Dorset

Rhwydwaith rhagoriaeth dan arweiniad ymchwil yw EUCTER, sy’n cynnwys 14 o bartneriaid. Ei nod yw datblygu fformatau dysgu cyfunol blaengar sydd â pherthnasedd polisi cryf ym maes Gwrthderfysgaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r prosiect yn dod â thri maes addysgu ac ymchwil rhyng-gysylltiedig ynghyd: Cyfiawnder a materion cartref yr UE, gwrthderfysgaeth yr UE, a chysylltiadau allanol yr UE.

Mae amcanion EUCTER yn cynnwys archwilio a dadansoddi datblygiad ac arfer cydweithrediad gwrthderfysgaeth a diplomyddiaeth mewn gweithredoedd mewnol ac allanol yr UE. Ei nod yw cyfrannu at ddealltwriaeth newydd o rôl sefydliadau Ewropeaidd (Senedd Ewrop, y Comisiwn, y Cyngor) yng ngweithredoedd mewnol ac allanol yr UE drwy drefnu gweithdai a darparu cymorthdaliadau i ysgolheigion rhyngwladol ifanc. Mae hefyd yn gwneud hyn drwy drefnu modiwlau addysgu a digwyddiadau, a thrwy gyfrannu at gyhoeddiadau rhyngwladol, ac maent wedi creu map rhithwir o gydweithrediad gwrthderfysgaeth. 

"Mae hyn newid tirwedd ymchwil ar wrthderfysgaeth yr UE yn llwyr, ac yng Nghymru’n benodol. Rydym yn byw mewn byd sy'n newid, lle mae'r syniad o ddiogelwch yn newid drwy'r amser. Mae cyllid yn ein galluogi i ddatblygu ein gweithgareddau addysgu ac ymchwil rhyngddisgyblaethol a'n partneriaethau rhyngwladol ym meysydd diogelwch a phlismona ymhellach. Rydym hefyd yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd, fel y gallwn ledaenu'r wybodaeth a gynhyrchwn mor eang â phosibl." - Yr Athro Christian Kaunert, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Jean Monnet, a'r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch yn PDC

"Os ydym am edrych ar faterion diogelwch, mae angen i ni ystyried y darlun ehangach a sut mae'n llywio penderfyniadau llunwyr polisi a sefydliadau ledled y byd. Dyma'r unig ganolfan yn Ewrop a fydd yn mabwysiadu'r dull eang hwn ac mae'n briodol ei fod wedi'i leoli yma yn ne Cymru, lle mae gennym y cyfuniad angenrheidiol o brofiad mewn ystod eang o ddisgyblaethau a rhagoriaeth mewn ymchwil ac addysgu a fydd yn rhoi'r sylfaen i ni gyflawni'r gwaith hwn." - Yr Athro Sarah Leonard, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Jean Monnet ac Athro Diogelwch Rhyngwladol yn UWE Bryste

Mae PDC yn rhoi dyfodol arbenigedd seiber wrth wraidd popeth mae’n ei wneud.  

Mae’r Brifysgol yn cael ei chydnabod gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) fel Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch. Mae PDC hefyd wedi cael ei galw’n Seiber Brifysgol y Flwyddyn bedair blynedd yn olynol.  

Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r arweinydd byd-eang ym maes technoleg, Thales, mae PDC yn arwain y llinyn Addysg yn y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) yng Nglynebwy – y cyfleuster ymchwil a datblygu cyntaf o’i fath yng Nghymru.  

Mae gan PDC berthynas wych â’r NSCS, ac fe gynhaliodd y Gystadleuaeth Merched CyberFirst gyntaf ar ei champws yng Nghasnewydd, a chydweithio’n agos gydag ysgolion i ddatblygu eu gweithgareddau seiberddiogelwch. Mae PDC hefyd yn darparu prosiect Ysbrydoliaeth Sgiliau Seiber i bobl ifanc 11-14 oed. Mae’r gweithgareddau hyn, ochr yn ochr ag ystod PDC o gyrsiau seiber a phrentisiaethau gradd, yn golygu ei bod yn cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o gau’r bwlch sgiliau seiber.  

"Fel arweinydd cydnabyddedig yn y sector, mae PDC wedi ymrwymo at ddarparu cyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol seiberddiogelwch, a all sicrhau y gall y diwydiant ddelio â'r heriau sy'n esblygu ac y bydd yn parhau i'w hwynebu." - Yr Athro Paul Harrison, Dirprwy Is-Ganghellor, PDC

"Mae gwaith yr NCSC gyda diwydiant yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo gyrfaoedd seiberddiogelwch a helpu pobl ifanc i gael y profiad, y sgiliau a'r amlygiad sydd eu hangen arnynt i ragori yn y maes.

"Mae NDEC wedi bod yn bartner allweddol wrth hyrwyddo llwybrau gyrfa ac astudio seiberddiogelwch i fyfyrwyr yn ysgolion a cholegau Cymru, ac mae wedi cefnogi ein rhaglen Ysgolion CyberFirst ers ei lansio yn NDEC ym mis Chwefror 2020.

"Mae gallu'r Ganolfan i estyn allan i sector addysg Cymru wedi gwneud NDEC yn rhanddeiliad dibynadwy ac edrychwn ymlaen at ein cydweithrediad parhaus." - Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber, NCSC

Mae PDC a’r arbenigwyr menter realiti rhithwir o Gaerdydd, Immersity, wedi cytuno ar bartneriaeth a fydd yn golygu bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio ar gyfer hyfforddiant addysg.  

Bydd system realiti rhithwir Immersity yn cael ei defnyddio gan fyfyrwyr sy’n gweithio tuag at gymwysterau fforensig a chynnal a chadw awyrennau i ddechrau. Wrth i’r dechnoleg gael ei hehangu ar draws y sefydliad, bydd myfyrwyr ar ystod ehangach o gyrsiau yn gallu defnyddio’r system.  

Mae PDC eisoes yn defnyddio systemau efelychu i gefnogi dysgu, yn enwedig yr Ystafelloedd Hydra. Mae hwn yn amgylchedd trochol ar gyfer senarios efelychiadol a ddefnyddir ar amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys Gwyddorau’r Heddlu, Nyrsio, Gwaith Cymdeithasol, Iechyd y Cyhoedd, Busnes a Marchnata.

Mae gan PDC bartneriaeth ag Immersity, y gall eu harbenigedd technegol penodol greu cynnwys i’w ddefnyddio yn y byd rhithwir, y gellir ei syncio gydag arbenigedd academaidd a gwella’r profiad dysgu ac addysgu.  

"Bydd y dechnoleg drochi yn cefnogi ac yn gwella dysgu yn hytrach na disodli profiadau bywyd go iawn. Wedi i ni arddangos llwyddiant y prosiectau peilot hyn, byddwn yn ceisio ehangu'r berthynas a dechrau prosiectau mewn meysydd pwnc eraill." - Nathalie Czechowski, Prif Swyddog Gwybodaeth, PDC

"Pan darodd Covid-19, nid oedd bellach yn ymarferol cael grwpiau o fyfyrwyr mewn lle mor gaeëdig. Gwnaethom ail-greu amgylchedd tebyg ar ein platfform Realiti Rhithwir, a nawr bydd myfyrwyr yn cael cyfle i dderbyn yr hyfforddiant hwn unrhyw bryd, unrhyw le. Nawr ein bod wedi creu'r platfform RRh hwn, gallwn adeiladu unrhyw amgylchedd ynddo yn gyflym i barhau i dyfu, yn enwedig ym meysydd addysg a hyfforddiant. Does dim terfyn ar y ffyrdd y gellir defnyddio'r dechnoleg hon." - Hugh Sullivan, Prif Swyddog Gweithredol, Immersity

Ein Cwricwlwm

Mae ein hacademyddion a'n hymchwilwyr yn arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd. Adlewyrchir arbenigedd, meddwl beirniadol a chymhwysedd ymarferol yn ein cyrsiau trosedd, diogelwch a chyfiawnder, gyda chwricwlwm blaengar sydd ar flaen y gad yn y diwydiant, gan gynnwys prentisiaethau gradd.

Ein Hymchwil

Mae’r ganolfan hon yn cynnal ymchwil gydweithredol gyda llywodraeth leol a chenedlaethol ac ar eu cyfer. Maent yn ymgysylltu ag ystod eang o arbenigwyr polisi ac ymarfer, ac maent wedi ennill cyllid ymchwil o ffynonellau cenedlaethol blaenllaw.

Mae gan yr ymchwilwyr arbenigeddau mewn dynladdiad a thrais, plismona, a chyfiawnder ieuenctid a pholisi ieuenctid.

Mae hefyd arbenigwyr yn y system garchardai a materion cysylltiedig fel profiannaeth, adsefydlu ac ailsefydlu troseddwyr, a phlant a theuluoedd troseddwyr. Mae’r Ganolfan hefyd yn ymchwilio i feysydd camddefnyddio sylweddau, troseddeg werdd, fyd-eang a thrawswladol, atal troseddau, cam-drin anifeiliaid, cyfiawnder anffurfiol, ac opsiynau amgen i erlyn a charcharu. Maent hefyd yn gweithio gyda’r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Plismona a Diogelwch, a’r Ganolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol. 

Darganfod mwy am y Ganolfan Troseddeg

Mae’r ganolfan hon yn cynnal ymchwil sy’n hysbysu llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n arbenigo mewn materion diogelwch allweddol fel terfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberdroseddu, a throseddau cyfundrefnol trawswladol a rhyfela. Mae’r Ganolfan yn rhan o rwydweithiau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae’n uchel ei pharch ymhlith sefydliadau ac asiantaethau Ewropeaidd, yn enwedig Europol.  

Mae gwaith y Ganolfan wedi’i rannu’n ddwy thema eang:  

  • Ymchwil Terfysgaeth a Diogelwch sy’n cynnwys diogelwch rhyngwladol cyffuriau, masnachu mewn pobl, a geowleidyddiaeth.  
  • Ymchwil Plismona sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ymchwil effeithiol i wella, nid yn unig gweithgareddau’r heddlu, ond darpariaeth gwasanaethau plismona ar gyfer y gymuned. 

Dysgwch fwy am y Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch

Mae’r Grŵp Ymchwil Seiberddiogelwch yn ymwneud â diogelwch data, meddalwedd, cydrannau, cysylltiadau, systemau, pobl, sefydliadau a chymdeithas. Maen nhw’n rhoi pwyslais ar gysyniadau trawsbynciol fel dadansoddi fforensig, cyfrinachedd, uniondeb, argaeledd, risg, meddwl gwrthwynebol, a meddwl systemau.  

Mae eu hymchwil yn cael ei llywio gan berthnasau cryf gyda’r diwydiant, asiantaethau’r llywodraeth a’r byd academaidd wrth gyflawni ymchwil seiberddiogelwch gymwysiedig â ffocws gweithredol.

Mae gan y Grŵp Ymchwil Seiberddiogelwch ddiddordeb arbennig yn y rhyngchwarae rhwng ymwybyddiaeth sefyllfaol, rhwydweithiau cyfrifiadurol, fforenseg gyfrifiadurol a datblygiad mannau gwan.

Dysgwch fwy am y Grŵp Ymchwil Seiberddiogelwch

Mae’r ganolfan hon yn arwain ym maes dadansoddi polisi cymdeithasol a chyhoeddus. Mae’n cynnig meddwl ffres, tystiolaeth newydd, ac atebion arloesol i lunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol. Mae hyn yn eu helpu gyda’r heriau maent yn eu hwynebu wrth sicrhau newid a gwelliant yn nhrefniadaeth a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

Mae cryfderau mewn ystod o feysydd polisi cymdeithasol a chyhoeddus, gan gynnwys llesiant; ymwneud a chyfranogiad dinasyddion; llywodraethu a chraffu; asesiadau canlyniadau a chydraddoldeb.

Mae’r Ganolfan wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau grantiau allanol, gan gynnwys llywodraeth leol a rhanddeiliaid allanol eraill. Maen nhw’n cydweithio’n agos gyda’r maes cyfiawnder troseddol, plismona, terfysgaeth a diogelwch. 

Dysgwch fwy gan y Ganolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol

Mae ymchwil gwyddor fforensig yn cael ei gyrru gan ein cefndiroedd fel ymarferwyr – un ai yn gweithio gyda heddlu’r Deyrnas Unedig, darparwyr gwasanaethau fforensig, neu drwy’r byd academaidd. Mae yna ddiddordeb mewn prosiectau gwyddoniaeth gymhwysol sydd â chymwysiadau ymarferol mewn sefyllfaoedd gwaith achos fforensig.  Mae llawer o’r ymchwil yn seiliedig ar brosiectau ymchwil Meistr a Meistr drwy Ymchwil, yn aml mewn cydweithrediad â phartneriaid o’r diwydiant.

Mae ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar sawl maes o ddatblygu a defnyddio technegau ar gyfer dadansoddi tystiolaeth olion mân, tocsicoleg, a hylifau biolegol a DNA. Mae’r ymchwil amlddisgyblaethol yn cynnwys cydweithrediad eang gyda’r diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth. 

Adran Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Mae PDC wedi gweld cynnydd sylweddol o ran ymchwil sy’n arwain y byd yn ôl canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021). Gwelwyd gwelliant o 49% mewn ymchwil sy’n arwain y byd (wedi’i gategoreiddio fel 4*) yn PDC ers y REF diwethaf yn 2014. PDC bellach yw’r bedwaredd yng Nghymru am effaith (i fyny o wythfed yn 2014, yn seiliedig ar 4* / 3*) gydag 81% o ymchwil PDC wedi’i dosbarthu fel ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*). Mae gan bron i ddwy ran o dair o ymchwilwyr PDC a gyflwynodd i REF 2021 ymchwil sydd wedi cael ei chategoreiddio fel ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).

Canlyniadau REF 2021

Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn galluogi ein myfyrwyr a phartneriaid i ymgolli mewn amgylcheddau dysgu efelychiadol, gan ddefnyddio’r technegau a’r dechnoleg ddiweddaraf sydd o safon y diwydiant.


Ein Cyfleusterau

  • Mae’r Academi yn gwella ac yn datblygu gwybodaeth ar ymchwiliadau achosion oer (mewn perthynas â phobl coll, llofruddiaethau heb eu datrys ac olion a ganfuwyd ond heb eu hadnabod), a chamweinyddiadau cyfiawnder. Maen nhw’n helpu i ddarparu datrysiad a chyfiawnder i deuluoedd a dioddefwyr mewn achosion anodd, sydd heb eu datrys neu eu canfod. Mae’r Academi’n paratoi ein myfyrwyr drwy ddarparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gallu sydd ei angen i gynyddu eu potensial a’u cyfleoedd fel gweithwyr ac arweinwyr y dyfodol. Drwy waith yr Academi, mae ein myfyrwyr yn manteisio ar arbenigedd ein cymuned i’w helpu gydag achosion go iawn. Nod yr Academi yw cael dylanwad amlwg yn gymdeithasol, gan helpu a chefnogi’r gymuned gyfagos a chynnal proffil dinesig cryf yng Nghymru a thu hwnt.

  • Mae ein cyfleusterau ar flaen y gad o ran datblygu cyfrifiaduron. Mae’r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSA) – y gyntaf o’i bath yng Nghymru – wedi’i lleoli ar Gampws Casnewydd. Gan weithio gyda chwmni arloesi digidol o Gymru, Innovation Point a phrif chwaraewyr y diwydiant, mae’r NCSA yn gweithio i gau’r bwlch sgiliau yn y sector seiberddiogelwch. Mae’r rhain yn cynnwys ystafell Gweinyddwr, Canolfan Seiber-amddiffyn a Labordy Ymchwiliadau Digidol.

  • Mae hydra yn ddarn o dechnoleg soffistigedig a gaiff ei defnyddio i addysgu swyddogion yr heddlu sut mae defnyddio sgiliau penodol a datblygu eu dealltwriaeth o’r gyfraith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd plismona. Mae hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer addysgu ar sail senarios mewn meysydd eraill fel gwaith cymdeithasol a nyrsio. Mae’n gweithio drwy gyflwyno senario i fyfyrwyr drwy gymysgedd o glipiau fideo, clipiau sain a thasgau ysgrifenedig. Mae’r system yna’n profi gallu’r myfyriwr i wneud penderfyniadau a gweithredu. Gall problemau amrywio yn ôl eich ymatebion. Mae hefyd yn dangos canlyniadau eich penderfyniadau i chi.

  • Caiff ein labordai safleoedd trosedd eu defnyddio gan fyfyrwyr Gwyddor Fforensig a Gwyddorau’r Heddlu i ddysgu mwy am fathau o dystiolaeth, fel olion bysedd, olion esgidiau, olion teiars, a phatrymau gwasgariad gwaed.

  • Mae ein ffug lys barn o’r radd flaenaf yn darparu amgylchedd trochol ar gyfer dadleuon, cynadleddau a threialon ffug.

  • Mae’r Labordy Seiberdroseddu a Fforensig Digidol yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu arloesol i ymchwilio i fathau newydd o seiberdrosedd a dadansoddi technolegau cymhleth newydd yn effeithiol.


student-25

GWASANAETHAU BUSNES

Cyfnewidfa PDC yw’r drws blaen ar gyfer ymgysylltu â busnes ym Mhrifysgol De Cymru, gan gysylltu diwydiant â’r byd academaidd. O ddatblygiad proffesiynol i wasanaethau cymorth digwyddiadau a chynadledda, gall Cyfnewidfa PDC eich helpu i archwilio’r ffyrdd niferus y gall eich sefydliad weithio gyda PDC. Os oes gennych her uniongyrchol i’w goresgyn, neu os oes angen strategaeth twf busnes hirdymor arnoch, gallwn helpu i hwyluso’r cysylltiadau i wireddu hynny. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig o Reolwyr Ymgysylltu sy’n barod i gefnogi eich sefydliad drwy ddefnyddio doniau, arbenigedd a chyfleusterau Prifysgol De Cymru.