Prentisiaethau Gradd/uwch
Mae Prentisiaethau Gradd/uwch yn ddewis amgen i astudiaeth brifysgol draddodiadol sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith myfyrwyr.
Prentisiaethau Gradd/uwch presennol Gwybodaeth i Gyflogwyr PrentisiaethauByddwch yn ennill profiad yn y byd go iawn ac yn ennill cyflog wrth weithio tuag at eich gradd. Bydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer eich gyrfa wrth gwblhau cymhwyster addysg uwch.
Sut i wneud cais am brentisiaeth
Mae gwneud cais am brentisiaeth yn debyg iawn i wneud cais am swydd. Dewch o hyd i'ch prentisiaeth drwy chwilio ar-lein / all-lein am prentisiaethau gradd/uwch sy'n derbyn ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyrsiau prifysgol, nid oes amser penodol ar gyfer derbyn ymgeiswyr - felly gofalwch eich bod yn dal ati i chwilio gan fod lleoedd gwag yn dod ar gael ar unrhyw adeg.
Bydd llawer o wasanaethau gradd-brentisiaethau yn eich galluogi i gofrestru cyfrif a rheoli eich manylion ar-lein, yn dibynnu ar y gwasanaeth a ddewiswch.
Mewn rhai achosion, yn dibynnu ar y math o brentisiaeth, gallwch hefyd wneud cais yn uniongyrchol i'r cyflogwr. I wneud cais am radd-brentisiaeth gyda Phrifysgol De Cymru, edrychwch ar ein swyddi gwag presennol ar ein tudalennau cyrsiau prentisiaeth.
Beth yw’r Manteision?
-
Byddwch yn cael eich cyflogi ac yn derbyn cyflog gwaith drwy gydol y cwrs.
-
Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn ennill gradd lawn. Mae cymwysterau Plismona Gweithredol Lefel 4 a Diploma Graddedig hefyd ar gael.
-
Caffael yr arbenigedd, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich llwybr gyrfa dewisol.
-
Bydd prentisiaid yn elwa o'r cymorth gorau sydd ar gael. Mae'r tîm yn gweithredu polisi drws agored ac maent bob amser wrth law i gynnig arweiniad a chymorth i brentisiaid.
Pam dewis PDC ar gyfer eich prentisiaeth?
Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant a'n pwyslais ar arfogi myfyrwyr â phrofiadau'r byd go iawn yn gwneud ein graddedigion ymhlith y rhai mwyaf cyflogadwy yn y DU. Y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth, byddwn yn eich helpu i gyflawni eich potensial yn broffesiynol ac yn bersonol.
Gall prentisiaid ennill gradd, dysgu sgiliau proffesiynol, ac ennill gwybodaeth am y diwydiant tra bod gan gwmnïau gyfle gwych i uwchsgilio gweithwyr presennol neu recriwtio a hyfforddi gweithwyr newydd ar lefel gradd.
Gall prentisiaethau gradd wella cystadleugarwch, twf a datblygiad busnesau lleol. I ddilyn ein rhaglen brentisiaeth gradd, rhaid i chi fod yn gyflogedig neu bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd prentis gradd.
Bydd angen i chi drafod gwneud cais am gwrs gyda'ch cyflogwr a bydd angen iddynt gysylltu â ni'n uniongyrchol. Mae ein cyrsiau prentisiaeth gradd yn cael eu hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy'n golygu y gall prentisiaid ennill gradd yn ddiddyled wrth ennill cyflog.
Fel prentis, byddwch yn dechrau eich gradd ar bwynt mynediad yn seiliedig ar eich cymwysterau a'ch profiad presennol. Byddwch yn astudio ar ein campws yn Nhrefforest gyda chymorth llawn gan ein tîm ac, ar ôl cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn graddio o Brifysgol De Cymru.
GWYBODAETH i GYFLOGWYR
Trwy weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, gallwch ddefnyddio gradd-brentisiaethau i dyfu eich busnes, hybu cynhyrchiant a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gallwch gryfhau sgiliau eich gweithlu presennol neu roi cyfle i fyfyrwyr fod yn brentis yn eich gweithle, drwy raglenni wedi'u teilwra sy'n cyfuno profiad gwaith ag addysgu academaidd.
CYSYLLTU Â NI
FFONIWCH
Prentisiaethau
01443 482203
Ymholiadau Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig
03455 76 77 78
Ymholiadau Cyffredinol Rhyngwladol
01443 654450
E-BOST
Ymholiadau Cyffredinol yn y DU
Ymholiadau Cyffredinol Rhyngwladol
Israddedig: [email protected]
Ôl-radd: [email protected]