Ein Strategaeth

Cyflymydd Amgylchedd Cynaliadwy

Mae'r momentwm y tu ôl i gynaliadwyedd yn cynyddu - mae Prifysgol De Cymru yn deall yr angen cynyddol am dryloywder a chyfrifoldeb, ac rydym yn ymfalchïo yn y mesurau cynaliadwyedd sydd ar waith yn ein cyfleusterau, ein partneriaethau a'n hymchwil.

Ein Strategaeth Amdanom ni
Two beekeepers handling bees in a beehive

Rydym yn helpu i greu byd mwy diogel a chynaliadwy gyda'n hymchwil amlddisgyblaethol arloesol mewn hydrogen, ecoleg, treulio anaerobig, a systemau pŵer datblygedig.



Ein Partneriaethau

Mae arbenigwyr PDC yn gweithio gyda TATA Steel i wneud eu prosesau'n wyrddach ac yn rhatach.

Mae llu o brosiectau ymchwil a diwydiannol, sy’n cwmpasu cynaliadwyedd, datgarboneiddio, cipio carbon a gwyddor data, yn sefydlu prosesau a fydd yn helpu i gyfyngu ar allyriadau a gwella effeithlonrwydd.  

Mae TATA Steel yn gweithio fel partner diwydiannol ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd gyda Chanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) PDC, gan gynnwys FLEXIS (Systemau Ynni Integredig Hyblyg) a RICE (Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol). 

Mae un o’r prosiectau hyn wedi bod yn ymchwilio i ddatgarboneiddio'r broses o gynhyrchu dur, drwy amnewid golosg am hydrogen fel yr asiant lleihau ar gyfer mwyn haearn. Gallai datblygu cynllun pellgyrhaeddol helpu i leihau allyriadau CO2 y cwmni dros y 25-30 mlynedd nesaf.  

Mae SERC a TATA Steel hefyd wedi ffurfio Clwstwr Diwydiannol De Cymru. Bellach yn cynnwys 46 o bartneriaid diwydiannol, mae wedi sicrhau cyllid gan y llywodraeth i ddatblygu map trywydd datgarboneiddio diwydiannol rhanbarthol ac i gychwyn prosiectau lleihau carbon yn Tata Steel, Purfa Valero, gwaith Tarmac Cement, a gorsaf bŵer RWE ym Mhenfro.  

“Mae’r gefnogaeth a gawn gan TATA yn ardderchog. Mae'r cyllid a'r cydweithio ar gyfer ysgoloriaethau PhD a phrosiectau ymchwil a datblygu mwy wedi arwain at berthynas waith agos sy'n creu allbynnau academaidd cryf ac arddangoswyr diwydiannol. Mae gweithio gyda'n gilydd fel hyn wedi ein galluogi i nodi sut gall ein hymchwil helpu TATA gyda heriau pwysig datgarboneiddio, a darparu atebion ar gyfer dyfodol cynhyrchu dur Isel Iawn o ran CO2 yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.” - Yr Athro Alan Guwy , Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy, PDC  

“Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi datblygu ein gwaith gyda Phrifysgol De Cymru ac mae gennym nifer o brosiectau PhD ac ymchwil gweithredol ar y gweill. I ddechrau, roeddem yn awyddus i weithio gydag arbenigwyr mewn hydrogen, ond mae hynny bellach wedi symud ymlaen i gydweithio ar ystod ehangach o feysydd prosiect yng Nghanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy y Brifysgol, yn ogystal â gydag arbenigwyr mewn gwyddor data.  

“Mae'r Brifysgol hefyd wedi ein helpu i ehangu ein rhwydwaith o gysylltiadau, sydd eisoes wedi ein gweld yn gweithio gyda chyflenwyr newydd ac yn defnyddio offer newydd yn ein diwydiant sy'n ein helpu i wella ein ffyrdd o weithio.”  - Dr. Gareth Lloyd, Rheolwr Peirianneg Proses, TATA Steel 

Mae technoleg storio hydrogen newydd gam yn nes diolch i waith rhwng PDC a Chanolfan Ragoriaeth Hydro-Québec mewn Trydaneiddio Trafnidiaeth a Storio Ynni (CETEES) 

Mae technoleg storio hydrogen â phatent, sy'n deillio o waith ymchwil PDC, wedi'i throsglwyddo i Hydro-Québec, er mwyn ei masnacheiddio fel rhan o ymdrechion parhaus i ddatgarboneiddio diwydiant a darparu ffynonellau ynni amgen a glanach.   

Mae gan y dechnoleg hon sawl mantais allweddol dros yr opsiynau storio hydrogen presennol, gan gynnwys:  

  • Mwy o gapasiti storio  
  • Llai o bwysau ar gyfer yr un capasiti storio  
  • Gwell diogelwch ar sail bod â phwysau is mewn tanciau  
  • Costau gweithgynhyrchu is  
  • Gofynion seilwaith symlach  
  • Nid oes angen cam hylifedd, sy’n arwain at arbedion mewn trafnidiaeth ar raddfa fawr  

Gellid defnyddio’r dechnoleg storio ynni newydd hon mewn nifer fawr o ffyrdd, gan gynnwys cludo symiau mawr o hydrogen yn ddiogel, neu greu cronfeydd o gerbydau sy'n cael eu pweru gan hydrogen ac sy'n gallu dal mwy o hydrogen mewn llai o le, gan wneud hydrogen yn fwy dichonadwy ar gyfer amrywiaeth o fathau o gerbydau gan ostwng y gost yn sylweddol.  

“Mae hydrogen yn cael ei ystyried yn allwedd bwysig i alluogi datgarboneiddio sawl sector o'r economi na ellir eu trydaneiddio'n hawdd. Fodd bynnag, mae angen goresgyn sawl her er mwyn dod ag ef i'r farchnad dorfol, gyda’r mater o’i storio yn un o’r heriau mwyaf. Felly, mae’n gyffrous iawn gallu gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i fynd i'r afael ag un o'r heriau mawr hyn.”  - Jean Matte, Uwch Gyfarwyddwr canolfan ymchwil Hydro-Québec (CRHQ)  

“Mae Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy PDC a chydweithwyr ym maes Cemeg wedi bod yn gweithio i ddatblygu technoleg hydrogen ers blynyddoedd lawer. Maent wedi meithrin arbenigedd sylweddol yn y maes hwn drwy weithio gyda'n partneriaid rhyngwladol, gan gynnwys Hydro-Québec. Mae cefnogi amgylchedd cynaliadwy yn rhywbeth rydym yn gweithio tuag ato'n barhaus fel rhan o ymdrechion ehangach i ddatgarboneiddio sectorau fel diwydiant a thrafnidiaeth, i wella ansawdd aer a chyfyngu ar effeithiau iechyd hirdymor.”  - Yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil 

PDC yw arweinydd academaidd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), consortiwm sy'n datblygu cynllun ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yn rhanbarth y de.  

Mae SWIC yn cynnwys rhai o sefydliadau diwydiant, ynni, seilwaith, cyfreithiol, academaidd a pheirianneg mwyaf blaenllaw Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r busnesau hyn yn cyflogi dros 100,000 o bobl ac maent wedi ymrwymo i greu economi carbon sero net yng Nghymru sy'n cefnogi swyddi a chymunedau cynaliadwy. Nod SWIC yw dod yn Glwstwr Diwydiannol cynaliadwy sy’n arwain y byd, a all helpu i ddiwallu anghenion cymdeithasol, economaidd ac ynni y de hyd at 2050 ac wedi hynny. 

Bydd y Clwstwr hefyd yn archwilio datgarboneiddio diwydiant trwm ac yn nodi sut gall yr adnoddau sydd ar gael yn y de a'r seilwaith nwy a thrydan presennol helpu diwydiant trwm i gyrraedd sero net, a hefyd datgarboneiddio prosesau gwresogi cartrefi.  

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect a chynnig ein harbenigedd mewn datgarboneiddio a thechnoleg hydrogen fel aelod o'r Consortiwm.   

"Gan weithio'n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant, byddwn yn helpu i ddatblygu'r dulliau technegol mwyaf effeithlon ac yn cefnogi hyn gydag ymchwil a datblygiadau perthnasol, yn ogystal â chydlynu'r gwaith o ddatblygu sgiliau a hyfforddiant i gefnogi diwydiannau y de i gyflawni'r nod sero net.” - Jon Maddy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Hydrogen, PDC  

“Y Deyrnas Unedig oedd y cyntaf yn y byd i ddeddfu y bydd yn dod yn garbon Net Sero erbyn 2050, a de Cymru yw'r ail allyrrydd diwydiannol mwyaf o garbon deuocsid yn y Deyrnas Unedig.  

“Mae'n bryd cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â datgarboneiddio a nodi'r agweddau ymarferol sy'n gysylltiedig â chreu, adfywio a chynnal arferion diwydiannol fydd yn helpu i ddiogelu ein dyfodol mewn gwirionedd.” - Dr Chris Williams, Pennaeth Datgarboneiddio Diwydiannol, Diwydiant Cymru 

Ein Cwricwlwm

O ddatgarboneiddio gwres a phŵer i'r economi gylchol, ynni hydrogen, a gwyrddio diwydiant, mae'r defnydd o beirianneg, technoleg a phrosesau adnewyddadwy a chynaliadwy yn dod â chyfleoedd newydd yn eu sgil.

Ein Hymchwil

Mae hydrogen yn dod yn gynyddol bwysig fel ffordd o storio a chludo ynni gan mai dim ond dŵr pur mae’n ei greu fel sgil-gynnyrch pan gaiff ei losgi fel tanwydd neu ei ddefnyddio mewn cell danwydd. Gall ceir hydrogen gael eu hail-lenwi mewn amser tebyg i betrol neu ddisel ac mae ganddynt bellter tebyg hefyd ond heb yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hyn yn gwneud hydrogen yn danwydd glân addawol ar gyfer defnydd eang. 

Mae ein gwaith ymchwil i hydrogen yn cynnwys Cynhyrchu Bio-hydrogen a Bio-methan, Systemau Hydrogen a Storio Ynni Hydrogen, Cerbydau Hydrogen ac Isadeiledd Ail-lenwi Tanwydd a Storio Hydrogen a Gwyddor Deunyddiau.

Mae treulio anaerobig yn defnyddio prosesau biolegol yn absenoldeb ocsigen i drosi/ailgylchu nwyon diwydiannol a gwastraff defnyddwyr yn gyfansoddion organig gwerthfawr, ac i drin dŵr gwastraff. Mae ein Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Treulio Anaerobig yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i ddatblygu prosesau sy’n datblygu o’r labordy, drwy gynlluniau peilot ac yna i gyfleusterau ar raddfa ddiwydiannol i gynhyrchu bio-methan a rhagsylweddion eraill.    

Mae ymchwil genedlaethol sy'n arwain y byd yn ein Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau ar gyfer cynhyrchu, storio, dosbarthu ac integreiddio hydrogen i'n heconomi ar gyfer gwresogi a symud nwyddau a phobl drwy gludiant ar y ffyrdd, y rheilffyrdd ac yn yr awyr. Mae ein Canolfan Hydrogen ger Port Talbot yn cynnwys yr orsaf ail-lenwi tanwydd hydrogen weithredol hiraf yng Nghymru. Rydym yn bartneriaid craidd mewn rhwydweithiau rhanbarthol mawr fel FLEXIS a Chlwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), yn gweithio gyda diwydiant i ddatblygu technolegau gwyrdd ar gyfer ein dyfodol. 

Mae ein Canolfan Profi Deunyddiau (AMTeC) yn archwilio deunyddiau adeiladu cynaliadwy newydd sy'n defnyddio cerrig mân wedi'u hailgylchu yn lle sment neu grewyr gwastraff diwydiannol ar gyfer rhwymyddion geopolymer i’w defnyddio mewn seilwaith peirianneg sifil. Mae AMTeC yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i'w helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang yn y maes adeiladu drwy ddefnyddio deunyddiau a thechnolegau sydd ar gael yn lleol. 

Rydym yn ymchwilio i’r berthynas rhwng rhywogaethau, poblogaethau a chymunedau a’r hyn sy’n gyrru newidiadau anthropogenig mewn bioamrywiaeth, ecosystemau, ac i ddarpariaeth nwyddau a gwasanaethau cyd-fuddiol. Mae ein canlyniadau yn llywio opsiynau, prosesau a pholisïau cadwraeth ac adfer sy'n gwrthbwyso effeithiau gweithgareddau anthropig. Mae ein tîm Ecoleg Bywyd Gwyllt yn cynnal ac yn cefnogi ymchwil maes ar draws y byd, tra bod gan ein tîm ymchwil Daearyddiaeth ddiddordebau yn y newid yn yr hinsawdd a rheoli'r amgylchedd yn gynaliadwy. 

Adran Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Mae PDC wedi gweld cynnydd sylweddol o ran ymchwil sy’n arwain y byd yn ôl canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021). Gwelwyd gwelliant o 49% mewn ymchwil sy’n arwain y byd (wedi’i gategoreiddio fel 4*) yn PDC ers y REF diwethaf yn 2014. PDC bellach yw’r bedwaredd yng Nghymru am effaith (i fyny o wythfed yn 2014, yn seiliedig ar 4* / 3*) gydag 81% o ymchwil PDC wedi’i dosbarthu fel ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*). Mae gan bron i ddwy ran o dair o ymchwilwyr PDC a gyflwynodd i REF 2021 ymchwil sydd wedi cael ei chategoreiddio fel ymchwil sy’n arwain y byd neu sy’n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).

Canlyniadau REF 2021

Rydym yn helpu i greu byd mwy diogel a chynaliadwy gyda'n hymchwil amlddisgyblaethol arloesol mewn hydrogen, ecoleg, treulio anaerobig, a systemau pŵer datblygedig.


Ein Cyfleusterau

  • Mae ein Cyfleusterau Cemeg/Dadansoddi o’r un ansawdd â’r rhai sydd yn y diwydiant. Mae myfyrwyr yn gwneud defnydd llawn o’r labordai yn ystod eu hastudiaethau, ac yn cael profiad ymarferol yn defnyddio’r offer dadansoddi helaeth. Wedi'u hadeiladu yn ôl y safonau diogelwch diweddaraf, mae ein labordai'n cynnwys labordy Cemeg Organig pwrpasol, labordy Cemeg Anorganig/Ffisegol cyfunol, a dau labordy offer cyffredinol. Mae gennym hefyd labordy ymchwil pwrpasol i fyfyrwyr, a dau labordy arbenigol ar gyfer perfformio sbectrometreg cyseiniant magnetig niwclear (NMR) a microsgopeg sganio electronau (SEM).

  • Mae ein cyfleusterau peirianneg pwrpasol yn cynnwys Canolfan Awyrofod, sydd â’i hawyren ei hun, ystafell o gyfleusterau hyfforddi ymarferol wedi’u cymeradwyo gan y diwydiant awyrofod, a labordai electroneg wedi'u hategu gan dechnolegau Renesas sy'n arwain y byd. Rydym wedi diweddaru ein cyfleusterau'n barhaus, fel bod gan fyfyrwyr fynediad at yr offer a'r feddalwedd diweddaraf o safon diwydiant.

  • Mae'r Ganolfan Hydrogen yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil, datblygu ac arddangos technoleg ynni hydrogen newydd yng Nghymru. Gan adeiladu ar ymchwil sefydledig y Brifysgol i ynni hydrogen drwy’r Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC), mae'r Ganolfan Hydrogen ym Mharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot, yn darparu llwyfan ar gyfer datblygiadau arbrofol o ran cynhyrchu hydrogen adnewyddadwy a storio ynni hydrogen newydd. Mae'r ganolfan yn galluogi cynnal gwaith ymchwil pellach gyda phartneriaid diwydiannol a datblygu cerbydau hydrogen, cymwysiadau celloedd tanwydd a systemau ynni hydrogen cyffredinol.

  • Mae'r Ganolfan Treulio Anaerobig ar Gampws Glyn-taf yn Nhrefforest yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu wedi'i dargedu mewn cydweithrediad â diwydiant. Mae hyn yn gwella effeithlonrwydd prosesau treulio anaerobig ac i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau arloesol yn y sector treulio anaerobig a biotechnoleg ddiwydiannol. Mae gan y Ganolfan offer a chyfleusterau o'r radd flaenaf ac mae'n un o'r labordai sydd â'r offer gorau yn y wlad. Mae dros ddeugain mlynedd o arbenigedd ymchwil a datblygu, a gwybodaeth gadarn am y diwydiant, yn golygu bod y Ganolfan mewn sefyllfa dda i gefnogi anghenion y diwydiant treulio anaerobig a bio-nwy, diwydiant sy’n prysur dyfu.


student-25

GWASANAETHAU BUSNES

Cyfnewidfa PDC yw’r drws blaen ar gyfer ymgysylltu â busnes ym Mhrifysgol De Cymru, gan gysylltu diwydiant â’r byd academaidd. O ddatblygiad proffesiynol i wasanaethau cymorth digwyddiadau a chynadledda, gall Cyfnewidfa PDC eich helpu i archwilio’r ffyrdd niferus y gall eich sefydliad weithio gyda PDC. Os oes gennych her uniongyrchol i’w goresgyn, neu os oes angen strategaeth twf busnes hirdymor arnoch, gallwn helpu i hwyluso’r cysylltiadau i wireddu hynny. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig o Reolwyr Ymgysylltu sy’n barod i gefnogi eich sefydliad drwy ddefnyddio doniau, arbenigedd a chyfleusterau Prifysgol De Cymru.