Cyfrifiadura, Seiberddiogelwch, Mathemateg a Gwybodeg
Rydyn ni’n ymrwymedig i fynd i'r afael â rhai o heriau technolegol mwyaf dybryd ein hoes.
Mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn cyfuno arbenigedd arloesol mewn AI (deallusrwydd artiffisial), gwyddor data, a modelu cyfrifiadurol i annog arloesedd ar draws sectorau gan gynnwys gofal iechyd digidol, seiberddiogelwch, a thechnoleg busnes.
Arbenigedd ac Aelodau
Mae ein harbenigedd amrywiol mewn technoleg, AI, seiberddiogelwch a gwyddor data yn sbarduno ymchwil ystyrlon sy'n trawsnewid diwydiannau ac yn gwella bywydau.
Mae ein dull cydweithredol yn cysylltu ymchwilwyr academaidd, partneriaid yn y diwydiant a llunwyr polisi, gan sicrhau bod ein gwaith yn cael effeithiau ystyrlon, hirdymor ar gymdeithas. Gydag ymrwymiad i arloesi, rydyn ni’n ymdrechu i lywio’r dyfodol trwy ddatblygu gwybodaeth, gwella bywydau, a chyfrannu at gynnydd byd-eang.
EFFAITH
Trwy ganolbwyntio ar gymwysiadau ymarferol yn y byd go iawn, rydyn ni’n datblygu datrysiadau datblygedig i fynd i'r afael â materion critigol, fel gwella diogelwch y cyhoedd, gwella canlyniadau gofal iechyd, a thrawsnewid diwydiannau drwy ddadansoddi data a mewnwelediadau sy'n cael eu gyrru gan AI.
Cyhoeddiadau ac Allbynnau YmchwilEin Cyflawniadau
PROSIECTAU ALLWEDDOL
System Synhwyro Clyfar ar gyfer Adnabod a Monitro Ystum Eistedd Parhaus gan ddefnyddio Dysgu Peirianyddol ac Ap Symudol
Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at yr angen am atebion gofal iechyd arloesol i fynd i'r afael â heriau rheoli ystum hirdymor mewn unigolion sy'n dibynnu ar seddi arbennig.Y Therapydd – ANNIE y sgwrsfot
Mae'r prosiect Therapydd yn archwilio potensial ehangach sgwrsfotiaid AI wrth gefnogi therapi iechyd meddwl a hyfforddiant proffesiynol. Mae'n canolbwyntio ar ddiffinio'r anghenion penodol ar gyfer offeryn o'r fath, nodi achosion defnydd allweddol, a gwerthuso ei effeithiolrwydd drwy gymwysiadau yn y byd go iawn.Pobl, Lleoedd a'r Sffêr Gyhoeddus
Mae cyllid yn rhan o fenter Pontio Canolfannau’r ESRC, sy'n helpu canolfannau ymchwil i wneud eu gwaith yn fwy effeithiol a chynaliadwy. Bydd ein hymchwil (mewn cydweithrediad â Chanolfan WISERD) yn cynnwys adeiladu platfform Gwyddor Gymdeithasol a Gwyddor Gymunedol Agored [Lab Data WISERD (LDW)] gan ymgysylltu â defnyddwyr a chyd-gynhyrchu o'r cychwyn cyntaf.CYDWEITHREDIADAU A PHARTNERIAETHAU
Rydyn ni’n ffurfio partneriaethau ag ystod eang o ddiwydiannau i gynnig datrysiadau arloesol sy'n mynd i'r afael ag anghenion busnes, yn meithrin twf economaidd, ac yn cefnogi datblygiad sectorau allweddol. Trwy gydweithio â sefydliadau ar draws gofal iechyd, seiberddiogelwch, technolegau digidol a gweithgynhyrchu, rydyn ni’n sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith ddiriaethol.
Mae'r partneriaethau hyn nid yn unig yn gwella ein galluoedd ymchwil ond hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, trosglwyddo technoleg, a chyd-ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol sy'n gyrru datblygiadau mewn diwydiant.
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Cyber Wales
- DVLA
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Heddlu De Cymru
- Chwaraeon Cymru
- RCCU (Uned Seiberdroseddu Rhanbarthol) Tarian
- Thales Ltd
- Llywodraeth Cymru
- Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI)
- Goggleminds
CYFLEUSTERAU
Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol
Wedi'i lleoli ar Gampws Casnewydd, mae'r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol yn estyn dros ddau lawr sy'n canolbwyntio’n benodol ar addysg seiberddiogelwch ac ymchwil gymhwysol. Mae'r gofod wedi'i gynllunio i gefnogi prosiectau cydweithredol rhwng academia, diwydiant a llywodraeth.
Canolfan Gweithrediadau Diogel (SOC)
Mae'r Ganolfan Gweithrediadau Diogel yn cynnig amgylchedd rheoledig ar gyfer ymchwil ar weithrediadau diogelwch, gan adlewyrchu'r seilwaith a'r arferion a ddefnyddir mewn diwydiant. Mae'n galluogi astudiaethau ar ganfod bygythiadau, rheoli digwyddiadau a gwytnwch systemau.
Labordy Ymchwilio Digidol
Mae'r labordy hwn yn cynnig yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer ymchwil fforensig ddigidol, gan gynnwys offer a systemau tebyg i'r rhai a ddefnyddir gan ymarferwyr gorfodi'r gyfraith ac ymchwilwyr corfforaethol. Mae'n cefnogi astudiaethau adfer data, dadansoddi tystiolaeth, a thechnegau ymchwil seiberdroseddu.
Tŷ Lleoliad Trosedd
Mae'r Tŷ Lleoliad Trosedd yn hwyluso ymchwil ar ddulliau fforensig mewn amgylcheddau trosedd wedi’u hefelychu. Mae senarios yn amrywio o fyrgleriaethau domestig i achosion cymhleth fel dynladdiadau a llosgi bwriadol, gan gynnig cyfleoedd i astudio prosesau casglu a dadansoddi tystiolaeth mewn amodau realistig.
Ystafell Efelychu Hydra
Mae ystafell Hydra yn cefnogi ymchwil ar ymateb i ddigwyddiadau a gwneud penderfyniadau yn ystod ymosodiadau seiber. Mae'n galluogi efelychiadau rheoledig i ddadansoddi ymddygiad, gwerthuso strategaethau ymateb, a datblygu protocolau ar gyfer gwella gwytnwch sefydliadol.
Lab Rheoli Diwydiannol
Mae'r Lab Rheoli Diwydiannol yn galluogi profion cynhwysfawr o strategaethau seiber-lywodraethu a hacio mewn amgylcheddau ffatri wedi’u hefelychu. Mae'r cyfleuster ymarferol hwn yn cefnogi gwaith diwydiannol ymarferol trwy ail-greu senarios gweithredol o’r byd go iawn, gan ganiatáu i ymchwilwyr ac ymarferwyr fireinio mesurau diogelwch, nodi gwendidau, a gwella gwytnwch systemau. Trwy efelychiadau wedi'u targedu a gwerthusiadau trylwyr, mae'r lab yn annog arloesedd wrth amddiffyn gweithrediadau diwydiannol rhag bygythiadau seiber sy'n dod i'r amlwg.
Gweithio gyda ni
Rydyn ni’n croesawu cydweithrediad â diwydiant, llywodraeth, partneriaid academaidd, elusennau, a chyrff anllywodraethol, i annog arloesedd a mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyd-ddatblygu atebion, archwilio cyfleoedd cyllido, neu weithio mewn partneriaeth ar brosiectau ymchwil? Rydyn ni’n awyddus i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni canlyniadau effeithiol.
I ddysgu mwy neu drafod cydweithrediadau posibl, cysylltwch â Dr Mabrouka Abuhmida yn [email protected].
YMCHWIL ÔL-RADDEDIG
P'un a ydych chi'n dilyn PhD, MPhil, neu Radd Meistr trwy Ymchwil, byddwch chi'n cael eich tywys gan arbenigwyr angerddol a blaenllaw, gan wneud effaith gadarnhaol ar unigolion, cymunedau, elusennau, busnesau a llywodraethau ledled y byd. Rydym yn croesawu ceisiadau o'r DU a rhyngwladol am raddau ymchwil. Astudiwch yn llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell, yn dibynnu ar eich ardal. Gall gweithwyr proffesiynol sydd â chorff gwaith presennol hefyd fod yn gymwys ar gyfer PhD trwy Bortffolio.
Mae ein myfyrwyr ymchwil yn rhan annatod o'n tîm. Maent yn elwa o gyfleusterau ymchwil rhagorol, ardaloedd astudio pwrpasol, a chyfleoedd i gyflwyno eu gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
Addysgu sy'n seiliedig ar ymchwil
Yn PDC, mae addysgu a arweinir gan ymchwil yn integreiddio'r datblygiadau diweddaraf o'n hymchwil ein hunain i raddau cyfrifiadura, gan sicrhau bod myfyrwyr yn dod i gysylltiad uniongyrchol â gwaith arloesol mewn deallusrwydd artiffisial (AI), datblygu meddalwedd, a seiberddiogelwch. Mae'r dull hwn yn cysylltu myfyrwyr â'r ymchwil orau sy'n cael ei chynnal gan ein hymchwilwyr, gan roi gwybodaeth arloesol a chymwysiadau ymarferol iddynt sy'n uniongyrchol berthnasol i'w gyrfaoedd yn y dyfodol.
Yn yr MSc Deallusrwydd Artiffisial, mae myfyrwyr yn astudio modiwlau ar ddysgu peirianyddol a dysgu dwfn, wedi'u llywio gan ein hymchwil ar ganfod twyll deallus, diagnosis canser, a chrynhoi a chynhyrchu testun. Yn y BSc Seiberddiogelwch Cymhwysol, mae myfyrwyr yn dysgu am ddiogelwch rhwydwaith ac asesiadau bregusrwydd RhP, wedi’u cysylltu â'n hymchwil barhaus mewn systemau adnabod gwasanaethau cwmwl a darganfod tresmasu. Mae labordai ymarferol sy'n defnyddio setiau data a heriau diogelwch o’r byd go iawn yn caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso'r ymchwil hon i sefyllfaoedd ymarferol.
Trwy gysylltu myfyrwyr â'n hymchwil, maen nhw’n ennill sgiliau cyfredol sy’n berthnasol i'r diwydiant sy'n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn technoleg. Mae hyn yn sicrhau bod ein graddedigion yn meddu ar y wybodaeth i fynd i'r afael â heriau’r byd go iawn mewn AI, seiberddiogelwch, a mwy.
Graddau cyfrifiaduraMyfyrwyr ymchwil
Mae Ramadhan Rajab yn fyfyriwr PhD mewn Seiberddiogelwch/AI.
"Mae fy PhD yn ymwneud â datblygu fframwaith diogelwch ar gyfer y Rhyngrwyd Pethau Meddygol (RhPM). Mae RhPM yn cyfeirio at y defnydd o gyfrifiadura symudol, synwyryddion meddygol, a chyfrifiadura cwmwl i fonitro arwyddion hanfodol cleifion mewn amser real a'r defnydd o dechnolegau cyfathrebu i drosglwyddo data i fframwaith cyfrifiadura cwmwl. Gall meddygon gael gafael ar y data i fonitro, diagnosio a thrin cleifion yn effeithiol.
"Mae diogelwch RhP yn hanfodol er mwyn amddiffyn y swm enfawr o ddata y mae’n ei drin rhag ymosodiadau seiber. Y nod yn y pen draw yw ein bod ni, trwy amddiffyn y system, yn amddiffyn bywydau cleifion."
Cwblhaodd Dr Mitchell Eboigbe, a aned yn Nigeria, PhD mewn Geowybodeg.
"Mae fy PhD wedi gwella fy sgiliau a'm cyflogadwyedd yn sylweddol. Mae wedi rhoi arbenigedd dadansoddol manwl i mi mewn ffotogrametreg ddigidol a chyfrifiadura. Gallaf nawr ddatblygu technegau arloesol ar gyfer casglu a dadansoddi data, sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn y diwydiant ac sy’n hanfodol ar gyfer ymchwil.
"Dewisais astudio yn PDC oherwydd enw da’r tîm GIS a chyfrifiadura. Mae PDC wedi cyflawni sgôr ymchwil cryf yn y DU ac mae boddhad myfyrwyr yn gyson uchel. Mae gan y brifysgol amgylchedd croesawgar a chefnogol a wnaeth i mi deimlo'n gartrefol. I ddechrau, des i yma i ddilyn gradd Meistr mewn GIS a phenderfynu aros ar gyfer fy PhD.
"Mae’r Cymry wedi bod yn gynnes a chroesawgar, ac mae ’na gymuned brifysgol gref y mae fy nheulu a minnau yn ei gwerthfawrogi'n fawr."
Nick Andrews PhD Gwyddor Data
Mae PhD Gwyddor Data Nick Andrew yn canolbwyntio ar rithweledigaethau mewn Modelau Iaith Mawr (MIMau), lle mae gwybodaeth anghywir neu ffug yn cael ei chynhyrchu, gan arwain at heriau mewn cymwysiadau fel gofal iechyd meddwl. Nod yr ymchwil yw creu metrig newydd i ragweld ac adnabod rhithweledigaethau mewn MIMau, gan ddefnyddio cymysgedd o ddadansoddiadau meintiol ac ansoddol. Gall y gwaith hwn helpu i wella cywirdeb MIMau at ddefnydd ymarferol.